Adam Vincent (1989-2012)

Fe hoffai’r aelodau o Glwb Sgwba-Blymio dalu teyrnged i’w cyn-swyddog a fu’n gyfrifol am offer ac yn bartner plymio iddynt, Adam ‘Vinny’ Vincent, a fu farw, yn drist iawn, ar ddydd Gwener 2 Tachwedd 2012. Bu Vinny’n aelod brwd a hael a chanddo synnwyr digrifwch a helpodd aelodau’r clwb i ymwroli a mentro i blymio dyfroedd oer chwareli. Byddwn ni’n gweld ei eisiau yn fawr, uwchben ac o dan y dŵr.

Roedd Vinny, 23 oed, newydd ddechrau swydd i Land Referencing Services yn Telford ar ôl gorffen gradd mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Talodd yr Athro Michael Woods, Cyfarwyddwr y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, deyrnged iddo gan ddweud, “Myfyriwr poblogaidd oedd Adam ac roedd e wedi dechrau swydd yn ddiweddar lle'r oedd yn rhoi ei sgiliau daearyddol ar waith. Roedd hi’n dristwch mawr gennym glywed y newyddion, ac mae ei deulu a’i ffrindiau yn ein meddyliau.”