Dr Eleanor James (1935-2011)

Bu gan Eleanor James, a fu farw ym mis Mehefin eleni, gysylltiad oes ag Aberystwyth a’r Brifysgol.  Fe’i ganwyd yn y dref, bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ardwyn ac aeth ymlaen i fod yn fyfyriwr israddedig yn yr hyn a oedd ar y pryd yn Goleg Prifysgol Cymru.  Graddiodd o’r adran Fathemateg ym 1956 ac yn fuan wedyn fe’i phenodwyd yn ddarlithydd.  Un peth anghyffredin am hyn oedd fod y swydd yn benodiad ar y cyd rhwng yr Adrannau Mathemateg Bur a Chymhwysol – a oedd ar y pryd, ac am rai blynyddoedd ar ôl hynny, yn adrannau ar wahân.  Adlewyrchai hyn ei diddordebau academaidd ym maes Hafaliadau Differol Aflinol.  Yn lled gynnar yn ei gyrfa fe fu’n gyd-awdur ar werslyfr ar y pwnc, gyda T V Davies, a oedd ar y pryd yn bennaeth ar yr Adran Mathemateg Gymhwysol.

Roedd ymrwymiad Eleanor i’r Brifysgol ac i’w phwnc yn ddwfn.  Roedd hi’n athrawes ymroddedig ac yn weinyddwraig abl.  Roedd ganddi safbwynt bendant ynghylch ansawdd a safonau academaidd ac fe’u mynegai bob amser yn gytbwys ac eglur.  Roedd gan Eleanor ddisgwyliadau uchel a bydd

cenedlaethau o fyfyrwyr yn ei chofio â pharch ac edmygedd.  Er na fu’n ymchwilydd cynhyrchiol o ran cyhoeddiadau, roedd yn aelod gwerthfawr o’r grŵp ymchwil ym maes Hafaliadau Differol Aflinol yn nes ymlaen ac yn arolygydd ymchwil i nifer o uwchraddedigion.  Oherwydd ei synnwyr cyffredin

di-lol gofynnid iddi ymgymryd â nifer o dasgau adrannol a Chyfadrannol pwysig.  Yn ogystal â hyn fe’i gwahoddwyd i fod yn aelod o nifer o gyrff cyhoeddus, yn lleol a chenedlaethol.

Arwydd pellach o’i hymrwymiad i Aberystwyth oedd y gwaith a wnaeth gyda Chymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr, y bu’n Drysorydd arni am flynyddoedd tan i afiechyd ei gorfodi i roi’r gorau i’r gwaith.  Roedd Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr yn gwerthfawrogi ei chyngor doeth yn fawr iawn, yn yr un modd ag y cafodd ei werthfawrogi gan ei chydweithwyr.

Gedy Eleanor ei gŵr David, a ddaeth i Aberystwyth yn ddarlithydd i’r Adran Fotaneg Amaethyddol.  Hanai David yn wreiddiol o Fyddfai yn Sir Gaerfyrddin ond daeth yn llawn mor ‘Aberystwyth-aidd’ ag Eleanor.  Roedd y ddau’n aelodau gweithgar o Eglwys Bresbyteraidd Cymru Stryd y Baddon, ac roedd y parch tuag atynt i’w weld yn amlwg yn y gynulleidfa niferus a ddaeth ynghyd i angladd Eleanor ac yn y teryngedau a roddwyd.

Roedd Eleanor James yn gyfaill a chyd-weithwraig dda, yn ymroddedig a dibynadwy.  Bydd bwlch ar ei hôl ac fe fydd gan y rhai a’i hadnabu ac a weithiodd gyda hi atgofion melys ohoni.

Noel Lloyd a Morton Davies