Athro Emeritws Ian Parrott MA, D Mus, FTCL, ARCO, FRSA (1916-2012)

Ian Parrott at Gregynog in 1994 (Photo: Rhian Davies) 
Bu farw’r Athro Emeritws Ian Parrott MA, D Mus, FTCL, ARCO, FRSA, un o bersonoliaethau mawr byd cerdd yn Aberystwyth, ar y 4ydd o Fedi 2012.  Bu’n Athro Cerdd Gregynog yn Aberystwyth o 1950 hyd ei ymddeoliad yn 1983.

Bu’n fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac yn New College, Rhydychen, a graddiodd yn DMus yn 1940.  Yn ystod y rhyfel gwasanaethodd fel swyddog gwybodaeth o dan ‘Monty’ yn yr Aifft ac ysbrydolodd hynny rai o’i gyfansoddiadau, gan gynnwys El Alamein a’r gwaith argraffiadol symffonig Luxor, ac enillodd Wobr Gyntaf y Gymdeithas Ffilharmonig yn 1949 gan ei ddyrchafu’n seren ar ei gynnydd ym myd cerddoriaeth Prydain.  Pan benodwyd ef yn athro yn Aberystwyth ac yntau’n 34 oed, ef oedd athro ieuengaf y Brifysgol.  Bu fyw i fod yn athro hynaf Aberystwyth - a’r aelod olaf o’r Senedd a fu’n ymwneud â sefyllfa gymhleth Goronwy Rees/Burgess a Maclean.  
 
Er mai Sais oedd (fe’i ganed yn Streatham Hill), datblygodd gariad dwfn tuag at Gymru.  Ymdrwythodd ei hun ym mywyd cerddorol ei wlad fabwysiedig a chynorthwyodd i sefydlu’r Gymdeithas er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru yn y 1950au.  Ysbrydolodd Cymru lawer o’i waith, megis yr agorawd Seithenin, y morlun Arfordir Ceredigion (a ysgrifennwyd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1992) a’r ddwy opera The Lady of Flowers a The Black Ram.  (Mae’r cynhyrchiad o’r olaf yn Neuadd y Brenin yn 1966 – pan oedd ei fyfyrwyr wrthi fel lladd nadroedd yn copïo rhannau - wedi dod yn ddigwyddiad chwedlonol bron.) Mae ei weithiau’n cynnwys dwy opera arall hefyd, pum symffoni, cerddoriaeth leisiol, wyth consertante a llaweroedd o weithiau siambr, llawer ohonynt wedi eu cyfansoddi ar gyfer artistiaid rhyngwladol blaenllaw.  

Roedd yn awdurdod ar gerddoriaeth Prydain ac mae ei lyfrau yn cynnwys Elgar sy’n rhan o’r gyfres Master Musicians, yn ogystal â chyfrolau ar Peter Warlock a Cyril Scott.  Ysgrifennodd hefyd ar ysbrydegaeth a chyhoeddodd hunangofiant byr, Parrottcisms yn 2003. Roedd yn Is-lywydd Cymdeithas Elgar a Chymdeithas Peter Warlock, a derbyniodd Wobr Goffa John Edwards am ei ymroddiad i gerddoriaeth Cymry, a Gwobr Glyndŵr am ei gyfraniad nodedig i’r celfyddydau yng Nghymru.  Roedd wrth ei fodd yn mynd ar deithiau tramor a theithiodd o amgylch y byd ddwywaith yn arholi ar ran Coleg Cerdd Trinity.  Ysbrydolodd ei daith gyntaf ei Ail Symffoni, Round the World, a rhoddodd amseroedd hyfryd a dreuliodd yn Seland Newydd fod i weithiau eraill.

Fel Athro Cerdd, roedd Ian Parrott yn ffigwr canolog ym mywyd cerddorol llewyrchus Aberystwyth am dros dair degawd.  Gyda’i ddealltwriaeth gerddorol athrylithgar a’i ddull idiosyncratig o addysgu, gadawodd ‘Proff’ argraff barhaol ar genedlaethau o fyfyrwyr cerdd sy’n ei gofio’n annwyl dros ben.  Wedi iddo ymddeol, daliodd ati i gyfansoddi ac i ganlyn ei ddiddordebau cerddorol eang - a phopeth arall mewn bywyd - gydag egni rhyfeddol.  Mae marwolaeth y gŵr hynod a chofiadwy hwn, a ystyrid gan lawer yn frenin cerddoriaeth Cymru, yn nodi diwedd cyfnod i’w gyn-fyfyrwyr, ei gydweithwyr a’i gyfeillion.  

David Russell Hulme.