Kenneth Middleton (1918 - 2017)

photo of Kenneth Middleton

Bu farw Kenneth Rigby Middleton ar 25ain o Orffennaf 2017 yn Hamilton, Seland Newydd, yn ei ganfed flwyddyn.

Ganwyd Kenneth ar 17eg o Fai, 1918, yn ardal Merthyr Tudful. Ymgymerodd â’i astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan astudio’r gwyddorau, cemeg a dysgu yn 1939 a graddio gyda MSc.

Wedi iddo raddio, gweithiai Kenneth fel gwyddonydd ymchwil ar gyfer fferm Ymchwil Gazzera yn Affrica. Priododd â Doris yno yn 1951, ac ar ôl hynny cafodd swyddi ymchwil niferus eraill yn Nigeria, y Swdan, Maleisia a Seland Newydd nes iddo ymddeol.

Roedd ei ddiddordebau yn cynnwys chwaraeon, nofio, tenis, golff a chynnal ei fuddiannau teuluol yn Seland Newydd.

Bu'n aelod gweithgar ac ymroddgar o Glwb Golff Lochiel, Seland Newydd, gan wirfoddoli ei sgiliau gwyddonol i helpu i gynnal lawntiau’r clwb.

Roedd gan Kenneth gariad mawr at fywyd, cerddoriaeth, canu a dweud jôcs, ac roedd ganddo synnwyr digrifwch arbennig.