Tan Sri Haji Shafie (1922-2010)

Tan Sri Haji Muhammad Ghazali bin Shafie (1922 – 2010)

Roedd Ghazali bin Shafie yn un o nifer o gyn-fyfyrwyr nodedig Aber (ac aelodau Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr) a oedd yn dod o Faleisia. Fe’i ganwyd ar 22 Mawrth 1922 yn Kuala Lipis, Pahang.  Daeth i Aberystwyth i astudio’r gyfraith yn 1949, a graddio yn 1952. Cwrddais innau ag ef am y tro cyntaf ar y trên o Paddington i Aber pan ddeuthum yma yn lasfyfyriwr yn 1950.  Daethom i ddeall yn eithaf buan y byddem ein dau yn byw ym Mhlynlymon ac, yn garedig iawn, fe gynigiodd Ghazali gyngor a gwybodaeth am fywyd myfyriwr a bywyd Coleg. Roedd ei fwriad yn dda, ac ni soniais wrtho fy mod i’n adnabod Aber yn dda, gan fy mod wedi byw yma pan oeddwn yn fachgen, a bod sawl aelod o’r teulu yn byw yno, yn cynnwys llyfrgellydd y Coleg. Byddem yn eistedd wrth yr un bwrdd yn ystafell fwyta Plyn, ac roedd un o’i gydwladwyr ef gyda ni  – Mohammed Salleh bin Abbas – yntau yn astudio’r gyfraith, gan ddod yn Arglwydd Lywydd y Goruchaf Lys yn ddiweddarach. Cofiai Ghazali am ei ddyddiau ym Mhlynlymon drwy roi’r un enw ar ei gartref ym Maleisia.

Erbyn imi gwrdd ag ef yn 1950, roedd Ghazali eisoes wedi cael blas ar antur. Ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil cyn goresgyniad y Siapaneaid, neu’n fuan wedi hynny, a daeth yn rhan o’r gwrthsafiad dirgel i’w rheolaeth. Yn 1945 ymunodd â’r Wataniah, y llu hynod ddisgybledig ac effeithiol a ffurfiwyd gan swyddog o Brydain a laniodd â pharasiwt yn Ulu Pahang.  Roedd y llu dan reolaeth nifer o swyddogion Gwasanaeth Gweinyddol ifainc nodedig o Faleia; roedd Ghazali yn un ohonynt, a darpar Brif Weinidog Maleisia yn un arall. Un o’u gorchestion fu dal Swltan Pahang a mynd ag ef i’r jyngl er mwyn sicrhau na fyddai’n cael ei ddefnyddio gan y Siapaneaid fel gwystl yn y trafodaethau ildio. Ar ôl i’r Siapaneaid ildio, a chyn i fyddinoedd Prydain gyrraedd, bu’r Wataniah yn cynnal cyfraith a threfn yn Kuala Lipis ac yn rhwystro’r ysbeilio a’r terfysgoedd sifil a ddigwyddodd mewn mannau eraill yn Pahang.

Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn Aber, cafodd Ghazali ei ddewis ar gyfer ei hyfforddi yn swyddog yn y Gwasanaeth Tramor yn y dyfodol. Parhaodd â’i waith ôl-raddedig, gan astudio ar gyfer y bar yn Lincoln’s Inn. Dychwelodd i Faleisia er mwyn ailymuno â’r Gwasanaeth Sifil, a daeth yn Ysgrifennydd Parhaol yng Ngweinyddiaeth Materion Allanol. Ar un adeg, ef oedd Uchel Gomisiynydd Maleisia yn India. Bu’n ymwneud â’r trafodaethau ar gyfer cymodi ag Indonesia, ac roedd yn aelod o’r Cyngor a weithiodd i adfer llywodraeth seneddol ar ôl yr Argyfwng yn 1969. 

Y flwyddyn ganlynol, aeth Ghazali i fyd gwleidyddiaeth, fel Seneddwr yn y Tŷ Uchaf i gychwyn, ac yna fel Aelod Seneddol. Bu’n Weinidog Materion Cartref a Gwybodaeth rhwng 1973 a 1981, ac yn Weinidog Tramor rhwng 1981 a 1984. Yn y swydd olaf hon, roedd yn adnabyddus am ei waith yn niplomyddiaeth ASEAN mewn perthynas â’r gwrthdaro yn Cambodia.  Fe’i disgrifiwyd fel gwleidydd lliwgar a rhoddwyd y llysenw ‘y Brenin Ghaz’ arno.  Yn 1982 cafodd brofiad anfynych o ddarllen adroddiad yn y wasg am ei farwolaeth ei hun, gan ddwyn i gof gwireb Mark Twain – ‘the report of my death was an exaggeration’.  Cafwyd problemau â’i awyren ysgafn wrth hedfan taith fer i’w etholaeth, a chwympodd i’r jyngl islaw ryw ugain milltir o Kuala Lumpur, gan ladd ei hyfforddwr hedfan a’i warchodwr, ond trwy ryw ryfedd wyrth, cafodd Ghazali fyw.

Adnewyddwyd cysylltiad Ghazali ag Aberystwyth pan ddyfarnwyd iddo radd LLD honoris causa gan Brifysgol Cymru yn 1983.  Cynhaliwyd y seremoni yn y Neuadd Fawr ar y campws yma. Roedd Ghazali mewn hwyliau da, ac yn ei ffordd liwgar, ddihafal ei hun, wedi trefnu i hedfan blodau yma i addurno’r neuadd. Roedd ein cyfarfod nesaf yn Kuala Lumpur yn 1987, yn ystod ymweliad i drafod, ymhlith pethau eraill, y posibilrwydd o ffurfio cangen o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yno (a wnaeth ddwyn ffrwyth llwyddiannus iawn yn ddiweddarach). Daeth i Aber unwaith eto yn 1990 i dderbyn Cymrodoriaeth y Brifysgol.

Ar ôl gadael gwleidyddiaeth, bu Ghazali’n dal nifer o swyddi yn y sector corfforaethol ac mewn sefydliadau rhyngwladol. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae nifer o weithiau sy’n mynd i’r afael â rhai o bynciau mawr ei oes, megis sefydlu gwladwriaeth Maleisia, problem Indonesia, ASEAN a threfn newydd y byd.

Bu farw yn ei gartref ar 24 Ionawr 2010.  Bu farw ei wraig, Khatijah, ym mis Ebrill 2008, ond mae’n gadael ei ddau fab.

Mae’r cysylltiad â Maleisia yn parhau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr wedi ethol dau lywydd o Faleisia – ein hen gyfaill Tan Sri Datuk Arshad bin Ayub, a Fariz Abu Bakar, sy’n cynrychioli cenhedlaeth iau.

Emrys Wynn Jones.