Trevor Grenby (1934-2013)

Cyn cyrraedd Aberystwyth i astudio am ei radd gyntaf mewn cemeg amaethyddol yn 1952, unig gysylltiad Trevor Grenby â Chymru oedd ei enw cyntaf.  A braidd yn ffug oedd y cysylltiad hwnnw hefyd; fe’i gelwid yn Trevor am fod yr enw yn ffurf fras o’r chwith ar enw ei dad-cu, Robert. Fodd bynnag, er iddo gael ei eni yn Llundain, syrthiodd mewn cariad ag Aberystwyth a’r ardal o’r cychwyn cyntaf, gan dreulio llawer o ddyddiau hapus, pan nad oedd yn sownd wrth ei fainc yn y labordy yn yr adeilad cemeg, yn dod i adnabod yr ardal, ac yn dychwelyd ar sawl achlysur yn ddiweddarach yn ei oes gyda’i wraig a’i feibion.

Ar ôl ennill ei radd BSc, daeth yn un o’r grŵp olaf a orfodwyd i wneud gwasanaeth milwrol, ond llwyddodd i gael ei ollwng yn wael o’r fyddin ar ôl ychydig fisoedd yn unig oherwydd ei fod yn dioddef o faleithiau difrifol yn ystod parêd y milwyr. Pan ddychwelodd i Lundain, cafodd swydd yn Ysbyty Sant Thomas a’i galluogodd i ddechrau gweithio ar ei ddoethuriaeth.

Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, a chanddo bellach ddoethuriaeth ar synthesis asidau mercaptwrig alcyl, chwiliodd o gwmpas am ei swydd ‘iawn’ gyntaf, gan ddod o hyd i waith yng Ngorsaf Ymchwil Grawnfwydydd Cymdeithas Melinwyr Blawd Prydain, a oedd wedi’i lleoli bryd hwnnw yn St Albans, Swydd Hertford. Yno y dechreuodd ar yr hyn a ddaeth yn waith oes iddo: effeithiau gwahanol fwydydd ar iechyd deintyddol, yn enwedig mewn perthynas â phydredd dannedd. Arhosodd yno am sawl blwyddyn, ond yn fuan ar ôl priodi a chodi tŷ yn y ddinas, cynigiwyd swydd Darlithydd Cynorthwyol iddo yn yr Adran Feddygaeth Eneuol yn Ysgol Ddeintyddol Ysbyty Guy’s, ac yno y bu am weddill ei yrfa, yn un o’r miloedd a gymudai’n ddyddiol i Lundain.

Yn ystod y 30 mlynedd nesaf, dringodd trwy’r rhengoedd o fod yn Ddarlithydd Cynorthwyol i Uwch-ddarlithydd, gan ddod yn y pen draw yn Ddarllenydd mewn Maetheg mewn perthynas â Deintyddiaeth yn Sefydliad Deintyddol GKT (Guy’s, King’s a St Thomas), a’i rwystro rhag sicrhau cadair bersonol haeddiannol gan y ffaith syml na chafodd erioed gymhwyster deintyddol. Serch hynny, ac yntau’n ymddiddori’n benodol mewn agewddau deintyddol ar ddefnyddio melysyddion artiffisial, buan iawn y daeth yn un o arbenigwyr blaenllaw’r byd ar y pwnc. Byddai cwmnïau masnachol, yn cynnwys prif weithgynhyrchwyr rhyngwladol melysfwyd, diodydd meddal, diodydd babanod, byrbrydau a’u tebyg, yn ymgynghori ag ef, a chyfeiriwyd ato mewn adroddiad yn y Daily Mail oherwydd canlyniadau ei waith ymchwil fel “un o brif arbenigwyr y byd ar ddannedd” – disgrifiad priodol gan fod ei labordy ar 28fed llawr Tŵr Guy’s, a fu’n un o adeiladau talaf Llundain am gyfnod hir. Ar wahân i lu o bapurau, ei brif gyhoeddiadau yn ystod y 1980au a’r 90au oedd cyfres o lyfrau  – Developments in Sweeteners I, II a III, Progress in Sweeteners ac Advances in Sweeteners, sydd yn parhau ymhlith y cyfrolau diffiniol ar y pwnc. O 1988 i 1990, ef oedd cadeirydd Grŵp Cemeg Bwyd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Ymddeolodd Trevor yn 65 oed, gyda’r bwriad o neilltuo mwy o amser i’w ddiddordebau niferus eraill: cerfio pren; canu’r sacsoffon mewn band jazz traddodiadol (meistrolodd y clarinet a’r banjo hefyd cyn troi at y sacsoffon); chwarae tennis; garddio a theithio. Yn anffodus, rhoddwyd ergyd farwol i’w gynlluniau oherwydd dyfodiad Clefyd Alzheimer ynghyd ag elfen o Glefyd Parkinson, a arweiniodd at ostyngiad cyson ond amlwg yn ei alluoedd.  Trychineb y ddau salwch yma oedd eu bod yn gorfodi llesgedd deallusol a chorfforol ar berson na allai ddioddef y naill na’r llall. Amddifadwyd ef, yn gwbl ddidostur, o’r ymddeoliad cyfoethog y bu’n paratoi amdano.

Ymhlith ei rinweddau niferus, a werthfawrogwyd gan gylch eang o ffrindiau a chyd-weithwyr ar draws y byd, roedd ffraethineb, synnwyr digrifwch, gonestrwydd, cymedroldeb, cwrteisi, parch at eraill – a phob un o’r rhain yn amlwg ochr yn ochr â’i anallu enwog i gofio enwau ac wynebau pobl.  Fe’i goroesir gan ei wraig, Jeanette, ei ddau fab, Matthew ac Edmund, a phedwar ŵyr, y ganwyd yr olaf ohonynt bedwar diwrnod yn unig ar ôl ei farwolaeth.

Dr T H Grenby, PhD, FRSC, CChem, ganwyd  5 Mehefin 1934, bu farw 6 Gorffennaf 2013, yn 79 oed.