Materion Myfyrwyr cyfrwng Cymraeg

Mae yna nifer o faterion sy’n benodol i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ADGD ac mi fydd yr isod o gymorth i chi yn ystod eich gradd:

Amodau cyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Os eich bod yn un o ddeiliaid ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mi fydd angen i chi: ‌

i. Astudio naill ai o leiaf 40 credyd (os derbynir Ysgoloriaeth Cymhelliant o £500 y flwyddyn) neu o leiaf 80 credyd (os derbynir Prif Ysgoloriaeth o £1,000 y flwyddyn). Noder: os eich bod yn penderfynu peidio ag astudio’r credydau sy’n ofynnol o dan amodau cyllido’r Coleg, ni fyddwch yn derbyn yr arian am y flwyddyn honno na’r blynyddoedd canlynol. Os eich bod yn derbyn Prif Ysgoloriaeth, medrwch wneud cais i Tamsin Davies (ted@aber.ac.uk) i leihau eich ysgoloriaeth i Ysgoloriaeth Cymhelliant.

Noder hefyd: y disgwylir deiliad Ysgoloriaeth Cymhelliant ddilyn 40 credyd drwy’r Gymraeg ym maes Daearyddiaeth neu mewn maes arall sy’n gymwys (Bioleg, Ffiseg, Mathemateg, y Gyfraith, Ieithoedd Modern, Busnes a Rheolaeth, Gwyddorau’r Amgylchedd ac Amaethyddiaeth, Seicoleg, a Gwyddorau ac Astudiaethau Chwaraeon). Bydd angen i fyfyrwyr ar radd anrhydedd cyfun, yn benodol, bod yn ofalus wrth ddewis modiwlau am nid yw bob maes yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth.

ii. Cwblhau’r Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg cyn i chi raddio

iii. Ymgymryd â 10 diwrnod o Brofiad Gwaith sy’n berthnasol i’ch gradd cyn i chi raddio. Bydd y Coleg yn cydweithio gyda sefydliadau allanol i drefnu cyfnod o brofiad gwaith i ddeiliaid ysgoloriaethau’r Coleg.

Os hoffech wybod mwy am fodiwlau cyfrwng Cymraeg neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch ag un o’n staff academaidd cyfrwng Cymraeg