Y Celfyddydau a Diwylliant
Cyfeirir yn aml at Aberystwyth fel ‘prif ddinas ddiwylliannol’ Cymru o ganlyniad i’w heffaith gref ar y celfyddydau a diwylliant yn y gymuned. Mae Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth wedi’i lleoli yng nghanol Campws Penglais ac mae’n cynnwys theatr, sinema, neuadd gyngherddau a stiwdios, yn ogystal â chwe oriel, caffis, barau a siopau.
Sinema Canolfan y Celfyddydau
Mae gan y ganolfan sinema sy’n dal 112 o bobl ac sy’n defnyddio technoleg megis sgrinio 3D, taflunio HD digidol a Systemau Stereo Dolby. Mae’r sinema’n dangos o leiaf ddwy ffilm y dydd gan gynnwys ffilmiau Hollywood, rhyngwladol, clasurol ac annibynnol. Yn ogystal â sgrinio ffilmiau’n ddyddiol, mae’r sinema hefyd yn cynnal nifer o wyliau megis Gŵyl Abertoir a Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un.
Theatr Canolfan y Celfyddydau
Mae gan y ganolfan theatr sy’n dal 312 o bobl sy’n arddangos amrywiaeth o adloniant megis theatr, dawns, opera, comedi, sioeau cerdd a llawer mwy yn rheolaidd.
Stiwdios Creadigol
Diben y prosiect Stiwdios Creadigol, a oedd yn werth £1.4 miliwn, oedd datblygu busnesau o fewn y celfyddydau, asiantaethau datblygu’r celfyddydau, artistiaid a gweithwyr crefft gan Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth. Mae’r Stiwdios Creadigol yn cynnwys wyth adeilad ac mae gan bob adeilad ddwy uned sy’n cynnig gofodau swyddfa a gweithdai i fentrau yn y celfyddydau ac artistiaid lleol.
Cafodd y stiwdios eu dylunio gan Heatherwick Studio, un o gwmnïau dylunio pennaf gwledydd Prydain, ac mae ei phrosiectau gorffenedig yn cynnwys siop fyd-enwog y cwmni brand moethus Longchamp yn Efrog Newydd, Rolling Bridge yn Llundain a chaffi gwobrwyol East Beach yn Littlehampton.
Cerdd@Aber

Cerdd@Aber (y Ganolfan Gerdd gynt)
Mae gan gerddoriaeth yn Aberystwyth hanes hir ac uchel ei barch, sy’n ymestyn yn ôl i benodiad Joseph Parry, cyfansoddwr Cymraeg mwyaf blaenllaw ei gyfnod, fel yr Athro Cerddoriaeth cyntaf yn 1874. O’r opera Gymraeg gyntaf erioed, i alawon gwerin a gweithiau siambr, y gân a’r gerddorfa, mae cerddoriaeth newydd, uchelgeisiol, Cymraeg yn rhan annatod o genhadaeth Aberystwyth erioed.
- Grwpiau cerddorol: Côr, Cerddorfa Symffoni, Cerddorfa Llinynnau, Band Chwyth a grŵp jamio
- Ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth ar gael i'w harchebu (gyda phianos neu set ddrymiau). Cysylltwch i gael mynediad
- Ysgoloriaethau Cerddoriaeth
- Llyfrgell Gerddoriaeth – Gellir benthyca cerddoriaeth ddalen (lleisiol ac offerynnol), sgorau cerddorfaol llawn, CDs a llyfrau am gerddoriaeth o'r Llyfrgell Gerddoriaeth
Swyddfa Cerdd@Aber – Uned Greadigol 13. Staff yn bresennol y rhan fwyaf o ddyddiau Mercher; y peth gorau yw anfon e-bost at music@aber.ac.uk neu neges i'n tudalen Facebook / Instagram @cerddaber


