Ble i Fwyta ac Yfed?
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig dewis eang o fwyd a diod sy’n bodloni nifer o ofynion dietegol gan gynnwys bwydydd heb gynnyrch llaeth, llysieuol, fegan, heb glwten ac ati. Rydym yn gwerthu bwyd a diod ledled y campws mewn nifer o leoliadau gwahanol yn ogystal â pheiriannau coffi, peiriannau bwyd a ffynhonnau dŵr.
Y Neuadd Fwyd
Y Neuadd Fwyd yw ein bwyty arobryn sydd wedi’i leoli ar ganol Campws Penglais. Mae ar agor o 8yb-6:45yh bob diwrnod o’r wythnos a rhwng 9yb a 2yp ar y penwythnosau. Mae’r fwydlen amser cinio’n cynnig prydau ffres, gan gynnwys rhai llysieuol a fegan, am bris rhesymol yn ogystal â bar salad, diodydd oer a diodydd poeth. Caiff myfyrwyr 10% o ostyngiad a chaiff staff 5% o ostyngiad os ydynt yn dangos Cerdyn Aber dilys cyn talu.
Caffi Canolfan y Celfyddydau
Mae’r Caffi sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan y Celfyddydau yn ymdrechu i gynnal ei enw da am fwyd a gwasanaeth gwych.
Mae’r caffi ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9yb ac 8yh, a gweinir bwyd poeth rhwng 12yp a 2yp a rhwng 5yp a 7yh, ac ar ddydd Sul rhwng 12 a 5.30yp. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
CAFFIBach
CAFFIbach yw ein caffi modern sydd wedi’i leoli yn adeilad newydd IBERS.
Mae’r fwydlen yn cynnwys:
- Brechdanau, bageti, paninis a gynhyrchir yn lleol
- Tatws Pob a saladau
- Detholiad eang o ddiodydd poeth ac oer
- 10 gwahanol fath o de arbennig
- Sudd ffres
- Cacennau hufen a chwcis
- Detholiad eang o ffrwythau a byrbrydau
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8yb tan 5.30yp yn ystod y tymor, a rhwng 8.30yb a 4.30yp y tu allan i’r tymor. Caiff myfyrwyr 10% o ostyngiad a chaiff staff 5% o ostyngiad os ydynt yn dangos Cerdyn Aber dilys cyn talu.
Yr Undeb
Wedi’i leoli o fewn Undeb y Myfyrwyr, mae’n cynnig dewis eang o fwydydd gan gynnwys pizzas, parseli, byrgyrs a sglodion ac mae’n arlwyo ar gyfer llysieuwyr a feganiaid. Caiff myfyrwyr 10% o ostyngiad a chaiff staff 5% o ostyngiad os ydynt yn dangos Cerdyn Aber dilys cyn talu.
Yr Hwb
Mae ein caffi newydd a’n siop manwerthu wedi’u lleoli’n gyfleus yn lolfa’r SGUBOR ar Fferm Penglais – delfrydol i fyfyrwyr sy’n byw yn PJM a Fferm Penglais
Mae’r fwydlen yn cynnwys:
- Detholiad eang o frechdanau, bageti a phaninis
- Diodydd poeth ac oer
- Siop nwyddau wedi’i stocio â bwyd a diod
Mae’r caffi a’r siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10yb a 7yh a rhwng 11.30yb a 4yp ar y penwythnosau. Caiff myfyrwyr 10% o ostyngiad a chaiff staff 5% o ostyngiad os ydynt yn dangos Cerdyn Aber dilys cyn talu.
Siop Undeb y Myfyrwyr
Mae Siop Undeb y Myfyrwyr yn darparu detholiad eang o fyrbrydau, diodydd oer, diodydd poeth a hyd yn oed pasta poeth ffres, cŵn poeth, pasteiod, peis a chrystiau. Caiff myfyrwyr 10% o ostyngiad a chaiff staff 5% o ostyngiad os ydynt yn dangos Cerdyn Aber cyn talu.