Gwasanaethau ac Adnoddau i Fyfyrwyr

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod o wasanaethau ac adnoddau’n benodol i fyfyrwyr. Rydym yn darparu’r gwasanaethau a’r adnoddau hyn i gynorthwyo myfyrwyr yn gymdeithasol, i gynorthwyo eu lles a’u bywydau i’r dyfodol.

Cymorth Dysgu ac Anabledd

Cymorth Dysgu ac Anabledd

Mae’r Brifysgol yn cynnig cymorth dysgu ac anabledd i fyfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl/corfforol hirsefydlog neu wahaniaeth dysgu penodol. Rydym yn anelu at greu cwricwlwm cynhwysol sy’n hygyrch i bawb, llety wedi’i addasu, a mynediad i ardaloedd dysgu sydd â chyfrifiaduron, caledwedd arbennig, meddalwedd ychwanegol a gliniaduron. Gallwn gynnig cyngor i chi am drefniadau arholiadau unigol a thechnoleg galluogi er mwyn i chi gyflawni eich potensial llawn a chael y canlyniadau yr ydych yn eu haeddu. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Gwasanaethau Gyrfaoedd

Gwasanaeth Gyrfaoedd

Pa un ai eich bod yn fyfyriwr newydd, yn fyfyriwr presennol neu’n fyfyriwr uwchraddedig, mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig cyngor hanfodol gan aelodau o staff proffesiynol a phrofiadol i’ch helpu â chyflogaeth neu efallai i wella eich CV. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi’i leoli ar lawr gwaelod y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Gellir trefnu cyfarfodydd drwy apwyntiad neu alw heibio.

Hugh Owen

Llyfrgell Hugh Owen

Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol ac mae wedi’i lleoli yng nghanol campws Penglais. Mae’n cynnig y nifer fwyaf o adnoddau astudio megis:

  • Pedair ystafell astudio i grwpiau (uchafswm o 8 o bobl)
  • Chwech o guddyglau gwydrog (uchafswm o 4 o bobl)
  • Ystafell Hermann Ethé (uchafswm o 18 o bobl)
  • Ystafell Joy Welch (uchafswm o 8 o bobl)
  • Dros 100 o gyfrifiaduron
  • Argraffu, llungopïo a sganio
  • Wi-Fi
  • Peiriannau dŵr a bwyd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli o dan gampws Penglais gyda golygfa dros Fae Ceredigion. Datganiad cenhadaeth y Llyfrgell Genedlaethol yw sicrhau bod ein diwylliant a’n treftadaeth ar gael i bawb i ddysgu, ymchwilio a mwynhau. 

Llyfyrgell y Gwyddorau Ffisegol

Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Mae Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol yn llyfrgell hardd sydd wedi’i lleoli ar lawr uchaf adeilad y Gwyddorau Ffisegol. Mae’n cynnig adnoddau megis:

  • Cyfrifiaduron
  • Gofod i dros 100 o ddarllenwyr
  • Argraffu, llungopïo a sganio
  • Wi-Fi
  • Peiriannau dŵr a bwyd
  • Loceri
  • Chwyddaduron
  • Troshaenau lliw

Lolfa Pentre Jane Morgan (PJM)

Y Lolfa @ PJM

Mae Lolfa Pentre-Jane Morgan (PJM) yn ardal astudio yn ardal preswylfeydd PJM ac mae’n cynnig cyfleusterau megis:

  • Cyfrifiaduron
  • Llungopïo, argraffu a sganio
  • Wi-Fi
  • Byrddau gweithio i grwpiau mawr
  • Peiriannau dŵr a bwyd

Lolfa Rosser

Y Lolfa @ Rosser

Mae Lolfa Rosser yn ardal astudio yn ardal preswylfeydd Rosser sy’n cynnig cyfleusterau megis:

  • Cyfrifiaduron
  • Llungopïo, argraffu a sganio
  • Wi-Fi
  • Byrddau gweithio i grwpiau mawr
  • Peiriannau dŵr a bwyd

Melin Dradof

Melin Drafod

Mae’r Felin Drafod yn ardal astudio yn adeilad Llandinam. Mae’n cynnig cyfleusterau megis:

  • Dwy ardal astudio i 5 person
  • Dwy ardal astudio i 6 person
  • 4 cyfrifiadur
  • Wi-Fi
  • Llungopïwr
  • Peiriannau bwyd a diod
  • Ffynnon ddŵr
  • Lle i 27 o bobl eraill eistedd

Undeb y Myfyrwyr

Undeb y Myfyrwyr

Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol, chwaraeon a chymdeithasau ar gyfer amrywiaeth eang o wahanol ddiddordebau a hobïau. Mae’r adeilad hefyd yn cynnig cyfleusterau megis bar, byrddau pŵl, ystafell ddigwyddiadau fawr, Nosh Da (bwyd), teledu, sgriniau taflunio ar gyfer chwaraeon byw, siop a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.