Dr Delyth Jones BA Ffrangeg, MA Ieithyddiaeth, PhD Cymraeg, TAR Ffrangeg

Dr Delyth Jones

University Link Tutor

Ysgol Addysg

Manylion Cyswllt

Proffil

Wedi derbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg, yna gradd MA mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor, bu Delyth yn gweithio fel Swyddog Ymchwil yn Adran y Gymraeg Prifysgol Caerdydd lle dechreuodd ar ei doethuriaeth yn disgrifio iaith disgyblion o gartrefi di-Gymraeg oedd yn mynychu ysgolion Cymraeg.  Bu'n gweithio fel Cymrawd Ymchwil a Chyfarwyddwr Cwrs MA, Astudiaethau Dwyieithrwydd: Y Dimensiwn Ewropeaidd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin am bum mlynedd cyn mynd i wneud cwrs Ymarfer Dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu'n Athrawes Ffrangeg ac yn Bennaeth Adran mewn Ysgol uwchradd cyn dod yn Diwtor Cyswllt Ieithoedd Rhyngwladol ar gwrs TAR Prifysgol Aberystwyth yn 2019. Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddatblygu sgiliau Cymraeg myfyrwyr y cwrs TAR.

Dysgu

Lecturer

Cyfrannu at holl fodiwlau TAR.

Yn gyfrifol am wersi Cymraeg a modiwl Gwybodaeth Gwricwlaidd a Phedagogi Ieithoedd Rhyngwladol a Chymraeg.

Ymchwil

Disgrifiodd ei doethuriaeth gymhwyster cyfathrebol disgyblion mewn Ysgolion Cymraeg drwy gyfeirio at theoriau caffael ail iaith mewn cyd-destunau dwyieithog.  Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys Y Lefel Drothwy ar gyfer y Gymraeg (1996)  a Cyflwyniad i Ddwyieithrwydd (1997). Cyflwynodd bapur yn y 3edd Gynhadledd Ewropeaidd ar Addysg Drochi yn Barcelona a gyhoeddwyd yn nhrafodion y gynhadledd, Immersion Programmes: a European Perspective (1998).  Cyhoeddodd erthygl "Dylanwad y Saesneg ar Iaith Plant mewn Addysg Gymraeg?" yng Nghylchgrawn Addysg Cymru (2000). Mae ei diddordebau ymchwil cyfredol yn ymwneud a chynyddu niferoedd yn cymryd ieithoedd rhyngwladol fel pwnc TGAU.

Mae data ei hymchwil gyfredol yn dangos fod 18% o’r 860 o ddisgyblion yn 10 ysgol yr astudoiaeth wedi dewis astudio Iaith Dramor fel pwnc TGAU.  (Mae hyn yn cymharu gydag 14.4% o ddisgyblion blwyddyn 11 Cymru gyfan yn gwneud arholiad iaith dramor fodern yn 2021, StatsWales 2021). Er hynny, roedd 59% o’r 860 o ddisgyblion wedi ticio ‘YDW’ i’r cwestiwn “Wyt ti’n credu bydd Iaith Dramor Fodern yn ddefnyddiol i ti yn y dyfodol?” Felly, beth oedd yn eu rhwystro nhw rhag dewis iaith dramor er eu bod nhw’n amlwg yn gweld gwerth mewn astudio iaith dramor? Fe diciodd 293 o’r disgyblion y rhesymau - oherwydd fod y pwnc “yn yr un blwch opsiwn â phwnc arall roeddwn eisiau cymryd” neu “Doedd dim digon o flychau opsiwn i’m galluogi i gymryd Iaith Dramor.”

Yn ôl yr ymchwil yma, felly, gellid casglu – pe na byddai’r blychau opsiwn yn cyfyngu ar ddewis y disgyblion, y byddai 52% o’r disgyblion hyn wedi dewis Iaith Dramor o’i gymharu â’r 18% a wnaeth. 

Mae Adroddiad y Cyngor Prydeining yn 2021 yn pwysleisio, os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, yna “heb ymyrraeth frys ar lefel system, mae’n bosib y bydd llai na chant o ymgeiswyr TGAU mewn Ffrangeg ac Almaeneg yng Nghymru erbyn 2030. Bydd angen i niferoedd ymgeiswyr Sbaeneg sefydlogi i sicrhau hyfywedd hirdymor yr iaith hon.” Mae’n anochel y bydd hyn yn cael sgil-effaith ar astudiaethau Safon Uwch, Addysg Uwch, a chyrsiau TAR y dyfodol.

Cyfrifoldebau

Tiwtor Cyswllt - Ieithoedd Rhyngwladol / Cymraeg.

Datblygu iaith Gymraeg myfyrwyr TAR. 

Cyhoeddiadau

Jones, D 2021, 'Implications of trilingual education on pre-service training in Wales', Paper presented at 9th European Conference on Language Learning, London, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 15 Jul 2021 - 18 Jul 2021.
Jones, D 2000, 'Dylanwad y Saesneg ar iaith Plant mewn Addysg Gymraeg?', Cylchgrawn Addysg Cymru | Wales Journal of Education, vol. 9, no. 1, pp. 103-111.
Jones, D 1998, An assessment of the communicative competence of children in Welsh Immersion Programmes. in J Arnau & JM Artigal (eds), Els Programes d'immersio: una Perspectiva Europa. Universitat de Barcelona, Barcelona, pp. 594-608.
Jones, D 1997, Cyflwyniad i Ddwyieithrwydd. Canolfan Astudiaethau Addysg Aberystwyth, Aberystwyth.
Jones, D, Hughes, M & Jones, GE 1996, Y lefel drothwy ar gyfer y Gymraeg. Gwasg Cyngor Ewrop, Strasbourg.
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil