Cymorth gan Gymheiriaid

Cynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid a Mentora 'Ffordd Hyn'

I lawer o fyfyrwyr, mae dod i astudio yn y Brifysgol yn gyfnod newydd a chyffrous, er mae’n bosibl y bydd rhai heriau'n codi yn yr wythnosau neu’r misoedd cyntaf; gallai’r rhain gynnwys ceisio darganfod lle i ddod o hyd i bethau yn y Brifysgol, dysgu byw’n annibynnol, bod oddi cartref am y tro cyntaf, addasu i ffordd fwy annibynnol o ddysgu yn y Brifysgol, neu hyd yn oed reoli eich amser yn effeithiol.

Er mwyn cynorthwyo ein myfyrwyr newydd mae gennym ddau gynllun Cymorth gan Gymheiriaid; Cynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid a Mentoriaid Ffordd Hyn

Cynorthwywyr Adrannol

Mae gan bob Adran academaidd dîm o Gynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid (sydd naill ai’n fyfyrwyr o'r ail neu'r drydedd flwyddyn neu'n uwchraddedigion). Bob blwyddyn mae'r Cynorthwywyr hyn wrth law i gynnig cymorth, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr newydd y flwyddyn gyntaf. Gall y Cynorthwywyr gynorthwyo myfyrwyr newydd i ymgartrefu ac ymgyfarwyddo â bywyd Prifysgol oherwydd bod ganddynt wybodaeth a phrofiad o'r Brifysgol, yr Adran a'r dref. Mae sgyrsiau unigol rhwng myfyrwyr newydd a Chynorthwywyr Cymheiriaid yn breifat a Chyfrinachol.

Ychydig cyn dechrau bob blwyddyn academaidd, mae'r Adran yn cysylltu â myfyrwyr newydd ac yn rhoi manylion iddynt ynglŷn â threfniadau i gysylltu â'u Cynorthwywyr.

Mentoriaid Ffordd Hyn

Israddedigion ail, drydydd neu flwyddyn olaf, neu uwchraddedigion yw Mentoriaid Ffordd Hyn. Mae Mentoriaid y cynllun yn cael eu hyfforddi gan Gwasanethau i Fyfyrwyr a gallant gynnig cymorth a chyngor cyfeillgar ac anffurfiol ar unrhyw agwedd ar fywyd Prifysgol.

Gallant hefyd roi cefnogaeth gyson ag iddi fwy o strwythur i fyfyrwyr newydd ar bob agwedd ar fywyd myfyriwr, gan gynnwys cynllunio academaidd, rheoli/trefnu eu hamser, cadw trefn ar waith a chymhelliant i weithio. Mae gan Fentoriaid Ffordd Hyn wybodaeth dda am wasanaethau cymorth y Brifysgol a gallant gynorthwyo myfyrwyr i fanteisio ar y gwasanaethau hyn, er enghraifft, yng nghyswllt Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), Cymorth i Astudio, gwasanaethau Lles y Myfyrwyr (gan gynnwys Ymarferydd Iechyd Meddwl ac Ymarferydd Cwnsela) a Chyllid Myfyrwyr.

Mae Mentora Ffordd Hyn yn breifat, yn gyfrinachol ac yn hollol anfeirniadol.

I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Mentora Ffordd Hyn ac i weld sut mae cael cymorth gan un o'r mentoriaid ewch i we-ddalennau'r Cynllun Ffordd Hyn.

Cwestiynau Cyffredin am Gynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid

Cwestiynau Cyffredin am Fentora Ffordd Hyn

Cwestiynau Cyffredin am Fentoriaid Ffordd Hyn