Rhagenwau 

Byddwn yn defnyddio rhagenwau trwy’r amser wrth gyfeirio at bobl.

Defnyddir rhagenwau personol i gyfeirio at unigolion, er enghraifft,
‘Mae Sam eisiau ad-daliad o’i ffioedd llety’.

Yn Gymraeg, gall hyn gyfeirio at wryw neu fenyw, ond dylid cofio bod yn well gan rywun sy’n uniaethu fel benyw y rhagenwau hi ac ei, a gall rhywun sy’n uniaethu fel gwryw ddewis y rhagenwau ef ac ei, ac o’r herwydd does dim rhaid ychwanegu, dyweder, “ei ffioedd llety e”.

Nid pawb sy’n teimlo’n gyfforddus â’r rhagenwau hi / ef ac efallai y bydd yn well ganddynt ddefnyddio rhagenwau eraill megis hwy neu ze.

Ystyrir bod defnyddio’r rhagenw sydd yn adlewyrchu hunaniaeth rhywun yn dangos parch, a gallai defnyddio rhagenwau eraill fod yn amharchus.

Mater i chi yw rhannu eich rhagenwau personol yn gyhoeddus, ond bellach, mae modd gwneud hynny yn eich proffil staff a’ch llofnod e-bost.

Enghreifftiau

Dyma rai enghreifftiau o ragenwau personol a’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn Saesneg y gallwch eu defnyddio yn eich proffil neu eich llofnod.

  • Hi / ei
  • Fe / ei
  • Fo / ei
  • Nhw / eu
  • Hwy / eu
  • Ze / hir (neu zir)

Dysgu mwy

Yr arfer gorau yw gofyn pa ragenwau y mae pobl am eu defnyddio a’r hyn maen nhw yn ddefnyddio eu hunain. Mae llawer o gyfarfodydd yn gwneud hyn fel rhan o rownd gyflwyno, e.e., 'Helo, Ruth ydw i, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant Prifysgol Aberystwyth. Rwy’n defnyddio Miss neu Ms a nhw neu hi fel rhagenw.'

Rhan o’r frawddeg

Rhan o’r frawddeg Enghraifft gyda hunaniaeth rhyw Enghraifft heb hunaniaeth rhyw Hefyd yn cael eu defnyddio (ysgrifenedig / rhyngwladol – e.e. cyfnodolion)
Rhagenw goddrych Chwarddodd ef/hi am ben y syniad o redeg marathon Roedden nhw yn chwerthin am ben y syniad o redeg marathon Zie
Per
Xe
Rhagenw gwrthrych Roeddent yn ceisio ei darbwyllo hi/ddarbwyllo ef nad yw anrhywedd yn bod Roeddent yn ceisio eu darbwyllo hwy nad yw anrhywedd yn bod Hir
Per
Xem
Ansoddair meddiannol Wyddon ni ddim beth yw ei hoff liw ef/hi Wyddon ni ddim beth yw ei hoff liw nhw Hir
Pers
Xyr
Rhagenw meddiannol Fe/hi biau’r mýg yna Nhw biau’r mýg yna Hirs
Pers
Xyrs
Rhagenw perthynol Mae gan y rheolwr feddwl mawr ohoni’i/ohono’i hun Mae gan y rheolwr feddwl mawr o’u hunain irself
Perself
Xemself
Teitlau Miss, Mrs, Ms,
Mr
Mx
Mx
 

Dyma rai awgrymiadau am adegau pan fyddwch yn delio ag ymholiadau a heb wybod beth yw rhagenwau rhywun: 

Defnyddiwch enw yn hytrach na rhagenwau: 

“Cysylltodd Sam â ni heddiw gydag ymholiad am ffioedd llety; allwch chi ateb Sam a rhoi’r wybodaeth, plîs?”

Defnyddiwch ragenwau heb hunaniaeth rhyw: 

“Cysylltodd Sam â ni heddiw gydag ymholiad am derfyn amser y traethawd: allwch chi eu hateb nhw, plîs?”

Yn dibynnu ar natur yr e-bost neu’r neges, gall hyn fod yn fwy cymhleth. Fodd bynnag, mae’n well defnyddio enw neu ragenwau heb hunaniaeth rhyw, na phriodoli’r rhywedd anghywir i rywun, yn enwedig os ydych yn anfon y manylion ymlaen i bobl eraill.

Os ydych yn sicr o’r rhagenwau, dylech eu defnyddio. Peidiwch â chymryd yn ganiataol, fodd bynnag, eich bod yn gwybod beth yw rhagenwau rhywun ar sail yr enw mae’r unigolyn hwnnw’n ddefnyddio neu eich adnabyddiaeth chi o’r unigolyn. Weithiau bydd pobl yn cynnwys eu rhagenwau ar eu llofnod e-bost, felly cofiwch fwrw golwg yno. 

Dylech fod yn ymwybodol hefyd y gall rhywun newid eu rhagenwau hyd yn oed os ydych wedi delio â hwy o’r blaen. Mae’n wastad yn well defnyddio rhagenwau heb hunaniaeth rhyw, neu enw rhywun, os nad ydych 100% yn sicr.