Datblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd 2024 - 2028

Rydym yn cynnal ymgynghoriad er mwyn helpu i gwblhau'r amcanion a'r camau blaenoriaeth cysylltiedig ar gyfer ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd 2024-2028. 

Mae ein hymgynghoriad diweddar sy’n dal i fynd yn ei flaen trwy arolygon staff a myfyrwyr, a'r adborth a lywiodd gynlluniau strategol ac allweddol eraill y Brifysgol wedi nodi’r chwe amcan allweddol canlynol sy'n berthnasol i'n staff a'n myfyrwyr a byddant yn sail i'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Mae y rhain yn dilyn y themâu craidd, sef Amlygrwydd, Cymuned Amrywiol a Datblygu.

Amcanion Allweddol

  1. Strwythur llywodraethu sy'n sicrhau cefnogaeth uwch-reolwyr ac a fydd yn codi ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant yn ei holl ffurfiau.  (=Amlygrwydd)
  2. Creu amgylchedd gweithio a dysgu cynhwysol a chefnogol i gydnabod a chynyddu amrywiaeth y staff a'r myfyrwyr (=Cymuned Amrywiol)
  3. Sicrhau bod yna gydraddoldeb ac agwedd gynhwysol i bolisïau a phrosesau’r Brifysgol mewn amgylcheddau corfforol a digidol.  (=Amlygrwydd a Chymuned Amrywiol)
  4. Cryfhau'r rhaglen hyfforddi Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant ar gyfer pob aelod o staff ochr yn ochr â’r rhaglenni mentora hynny sydd wedi'u targedu i gefnogi staff sy'n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (=Datblygu)
  5. Monitro cyflog staff ynghyd â datblygiadau a ddyfeisiwyd i gau bylchau cyflog staff a chefnogi cynnydd  (= Datblygu a Chymuned Amrywiol)
  6. Monitro cyrhaeddiad myfyrwyr ynghyd â datblygiad a ddyfeisiwyd i gau bylchau yng nghyrhaeddiad myfyrwyr (= Datblygu a Chymuned Amrywiol) 

Ein hymrwymiad i Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru Llywodraeth Cymru  a'n cynlluniau ni ein hunain Cynllun Gweithredu ar Hil, Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles ac Is-gynllun y Gymraeg a’i Diwylliant i enwi ond ychydig sy'n nodi’r camau allweddol ar gyfer y Brifysgol.

Byddwn yn cynnal sawl sesiwn i fyfyrwyr a staff lle gallwch ddod i drafod a rhoi eich adborth ar y chwe amcan uchod a dweud eich dweud ar y camau blaenoriaeth ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd.  

Ymunwch â ni i ddweud eich dweud:

  • Dydd Mercher 8 Tachwedd 1:30-3yp (cyfrwng Saesneg, wyneb yn wyneb i’w gadarnhau Penglais) Cofrestrwch yma
  • Dydd Iau 9 Tachwedd 1:30-3yp (cyfrwng Cymraeg, wyneb yn wyneb, i’w gadarnhau Penglais) Cofrestrwch yma
  • Dydd Mawrth 14 Tachwedd 10-11.30yb (cyfrwng Cymraeg, ar Teams) Cofrestrwch yma
  • Dydd Mawrth 14 Tachwedd 1.30-3yp (cyfrwng Saesneg, ar Teams) Cofrestrwch yma

Yn y sesiynau byddwn yn casglu adborth ar: 

  • Pa heriau y mae pobl yn eu hwynebu o fewn yr amgylchedd gwaith a dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth?
  • A yw chwe thema ac amcan y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd 2024-2028 yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r heriau hyn?
    • Pa gamau blaenoriaeth y credwch y dylid eu cynnwys fel rhan o'r chwe thema ac amcanion hyn?
  • A oes unrhyw beth ar goll y mae'n rhaid i ni ei ystyried?
  • Beth arall y gallem ei wneud i wella cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant yn y Brifysgol?

Os na allwch ddod i'r sesiynau uchod, mae croeso i chi e-bostio eich syniadau a'ch adborth i Dylan Jones, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant erbyn Dydd Gwener 24 Tachwedd 2023.