Cynllun Gweithredu ar Hil 2022-2025

Nodau ac amcanion

Bydd y Cynllun Gweithredu ar Hil  ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ategu nodau ac amcanion ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.

Themâu ar gyfer y Cynllun Gweithredu ar Hil yn nhrefn eu blaenoriaeth:

  1. Strwythurau, camau gweithredu a thryloywder llywodraethu
  2. Strwythurau adrodd hygyrch ar gyfer gwahaniaethu ac aflonyddu
  3. Cynorthwyo ein myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: cadw myfyrwyr, cau'r bwlch dyfarnu, creu cwricwlwm mwy amrywiol
  4. Cynorthwyo ein staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: recriwtio, mentora, codi proffil, gwobrwyo a chydnabyddiaeth
  5. Codi ymwybyddiaeth a chynyddu gwybodaeth yr holl staff ynglŷn â hil a hiliaeth
  6. Cyfathrebu a rhannu arfer gorau

Bydd y Rheolwyr a'r Weithrediaeth yn gyfrifol am:

  1. Cyflawni'r camau gweithredu a addawyd
  2. Cynnal sgyrsiau anodd am hil sy'n cynnwys dealltwriaeth o ymddygiad micro-ymosodol, braint pobl wyn, a chroestoriadedd
  3. Sicrhau bod gan bob un o'n Harweinwyr Uwch y sgiliau a'r ddealltwriaeth briodol i gyflwyno a chynnal gwaith gwrth-hiliol
  4. Defnyddio profiad byw gwahanol grwpiau i ymgysylltu, cynnwys a chyd-greu datrysiadau gwahanol a chreadigol i hen broblemau
  5. Cydnabod nad pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gyfrifol am hiliaeth ac na ddylent ysgwyddo baich emosiynol hiliaeth

Cynllun Gweithredu ar Hil (2022-2025)

Thema Gweithredu Unigolyn / Tîm sy'n gyfrifol Blwyddyn 1 Blwyddyn 2 Blwyddyn 3
1. Strwythurau, camau gweithredu a thryloywder llywodraethu   1.1. Sefydlu tasglu/ grŵp gorchwyl a gorffen mewnol ar Gydraddoldeb Hiliol i weithio ar yr holl gamau gweithredu sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn. Cynnwys staff o adrannau penodol a chynrychiolwyr llais y myfyrwyr. Gwahodd staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i mewn i gael eu safbwyntiau am eu profiadau byw os ydynt yn hapus i wneud hynny. 1.1. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda’r Arweinydd Gweithredol ar Ethnigrwydd

 

1.1. Dewis cydweithwyr o Adrannau penodol a llunio Cylch Gorchwyl a threfnu cyfarfodydd ar gyfer Blwyddyn 2 1.1. Parhau i gyfarfod, parhau â'r gwaith ar gamau gweithredu AC unrhyw gamau gweithredu newydd 1.1. Parhau i gyfarfod, parhau â'r gwaith ar gamau gweithredu AC unrhyw gamau gweithredu newydd
1.2. Sicrhau bod cydraddoldeb hiliol yn cael ei gynnwys yn eitem sefydlog ar agenda Gweithrediaeth PA ac yn cael ei drafod bob 6/8 wythnos.

1.2. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phennaeth Swyddfa'r Is-Ganghellor 1.2. Sefydlu a gweithredu 1.2. Parhau 1.2. Parhau
1.3. Is-Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor i ymrwymo i benodi nifer penodol o aelodau’r Cyngor o blith ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 1.3. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda’r Arweinydd Gweithredol ar Ethnigrwydd i roi cyngor 1.3. Sefydlu llinell amser a geiriad 1.3. Gweithredu a pharhau 1.3. Gwerthuso a pharhau
2. Strwythurau adrodd hygyrch ar gyfer gwahaniaethu ac aflonyddu    2.1. Gwneud yr offeryn adrodd i fyfyrwyr yn fwy amlwg ar wefan PA, a gwella’r wybodaeth ar ddod o hyd iddo.

 

 

 

2.1. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd

 

 

 

2.1. Cwblhau o fewn blwyddyn 1

 


 

 

2.2. Gwella'r iaith a ddefnyddir yn yr offeryn adrodd h.y. llai o bwyslais ar iechyd a defnyddio iaith sy'n cydnabod y trawma ynghlwm wrth adrodd am aflonyddu 2.2. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd 2.2. Cwblhau o fewn blwyddyn 1    
2.3. Ymchwilio i weld a allwn weithredu offeryn adrodd dienw i staff mewn ffordd debyg i’r hyn a wnaed gyda’r offeryn i fyfyrwyr 2.3. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol 2.3. Gweithio gydag AU Ymlaen a CCAUC ar sut i wneud i hyn weithio tra'n parhau i sicrhau cydymffurfiaeth â’r GDRP a’r rhwymedigaethau cyfreithiol 2.3. Profi, treialu, llunio canllawiau, hyfforddiant 2.3. Rhoi'r system ar waith
2.4. Creu un man i storio achosion o aflonyddu a gwahaniaethu gan staff a myfyrwyr 2.4. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda Llywodraethiant a’r Gwasanaethau Gwybodaeth 2.4. Gweithio gyda chydweithwyr yn yr adrannau Cydymffurfiaeth Gwybodaeth a Gwasanaethau Gwybodaeth i weld sut y gallai hyn weithio, yn unol â'r system newydd i staff 2.4. Profi ar yr un pryd â threialon y system adrodd i staff 2.4. Gweithredu
3. Cynorthwyo ein myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: cadw myfyrwyr, cau'r bwlch dyfarnu, creu cwricwlwm mwy amrywiol 3.1. Creu cwricwlwm mwy amrywiol. Gweithio gyda chynrychiolwyr llais y myfyrwyr, yr adrannau academaidd, a’r cyfadrannau ar gasglu gwybodaeth ynghylch sut i fynd ati i greu cwricwlwm mwy amrywiol.

3.1. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol 3.1. Casglu gwybodaeth, coladu syniadau, ymchwil cefndirol 3.1. Treialon ar ddewis yr Adrannau ar draws y Cyfadrannau 3.1. Gweithredu newidiadau
3.2. Gweithio gyda chynrychiolwyr llais y myfyrwyr, a'r Gofrestrfa Academaidd i ychwanegu cydymffurfiaeth o ran ‘cwricwlwm amrywiol' at strwythurau adolygu safonol. 3.2. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol a'r Gofrestrfa Academaidd 3.2. Gweithio gyda'r Gofrestrfa Academaidd ar y ffordd orau o wneud hyn er mwyn sicrhau ei fod yn ystyrlon ac nid yn ymarfer 'ticio blychau' yn unig 3.2. Treialon ar ddewis yr Adrannau ar draws y Cyfadrannau 3.2. Gweithredu a gwerthuso
3.3. Gweithio gyda thîm y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i lunio’r strategaeth ar gau’r bwlch cyrhaeddiad. Edrych ar yr effaith a gafodd polisïau dim anfantais ar leihau'r bwlch. 3.3. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol 3.3. Casglu gwybodaeth, coladu syniadau, ymchwil cefndirol 3.3. Treialon o dulliau ac arfer gorau 3.3. Rhoi unrhyw fesurau llwyddiannus ar waith yn barhaol
4. Cynorthwyo ein staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: recriwtio, mentora, codi proffil, gwobrwyo a chydnabyddiaeth 4.1. Mentora ar gyfer staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i’w cynorthwyo i symud ymlaen ac i ddatblygu eu gyrfaoedd 4.1. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a Phennaeth Datblygu Sefydliadol a Dysgu 4.1. Cwblhau o fewn blwyddyn 1 4.1. Gwerthuso

 

4.2. Y Rhwydwaith Staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gael hanner diwrnod encil gyda Gweithrediaeth PA i helpu i ffurfioli'r hyn maent yn dymuno ei wneud â'r rhwydwaith wrth symud ymlaen

4.2. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phennaeth Swyddfa'r Is-Ganghellor 4.2. Cwblhau am y tro cyntaf o fewn blwyddyn 1 4.2. Ailadrodd y sesiwn  
4.3. Ffurfioli cyllid ar gyfer Rhwydwaith Staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gynnal digwyddiadau ac ati

4.3. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Arweinydd Gweithredol ar Ethnigrwydd 4.3. Cwblhau o fewn blwyddyn 1 4.3. Gwerthuso cyllid  
4.4. Anelu at recriwtio staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i'r Brifysgol yn unol â ffigurau’r myfyrwyr. Byddwn yn ceisio tystiolaeth gan Brifysgolion eraill ar fentrau llwyddiannus ac yn cydweithio'n agos â’r adran Marchnata Byd-eang a Denu Myfyrwyr.

4.4. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda Phennaeth y Tîm Gwasanaethau Staff yn Adnoddau Dynol 4.4. Anelu at gynyddu’r niferoedd bob blwyddyn 4.4. i gynyddu’r niferoedd bob blwyddyn 4.4. Anelu at 1% o gynnydd bob blwyddyn
4.5. Creu ffug gylch dyrchafiadau ar gyfer staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gynyddu cyfraddau llwyddiant pan ddaw cyfle am ddyrchafiadau go-iawn

4.5. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol a Dysgu 4.5. Dechrau dylunio'r rhaglen gyda chyngor gan gydweithwyr mewn SAU eraill 4.5. Cyflwyno 1 carfan ar y rhaglen 4.5. Gwerthuso, addasu a chyflwyno 2il garfan ar y rhaglen
5. Codi ymwybyddiaeth a chynyddu gwybodaeth yr holl staff ynglŷn â hil a hiliaeth 5.1. Darparu cwrs/modiwl hyfforddiant cydraddoldeb hiliol/gwrth-hiliaeth ar gyfer yr holl staff.

5.1. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phennaeth Datblygu Sefydliadol a Dysgu 5.1. Ymchwil a chwmpasu

 

5.1. Gweithredu

 

5.1. Gwerthuso a diwygio os oes angen

 

5.2. Cyflwyno mentora o chwith ar gyfer uwch reolwyr a rheolwyr canol, gan gynnwys y Weithrediaeth, gan staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, i ddysgu mwy am eu profiadau byw.

5.2. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phennaeth Datblygu Sefydliadol a Dysgu 5.2. Ymchwil a dylunio 5.2. Gweithredu 5.2. Gweithredu am yr ail flwyddyn a gwerthuso a diwygio os oes angen
6. Cyfathrebu a rhannu arfer gorau 6.1. Archwiliad mewnol o gydraddoldeb hiliol - i gael darlun o’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn fewnol (gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr)

 

 

6.1. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol

 

 

6.1. Dechrau’r ymarfer

 

 

 

 
6.1. Cyflwyno’r canfyddiadau a chreu porth i storio gwybodaeth ac eitemau eraill o ddiddordeb

 


 



 

6.2. Cyfathrebu â'r holl staff a myfyrwyr ynglŷn â chynnydd a’r bylchau o ran hil a chydraddoldeb hiliol 6.2. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol a’r tîm Cyfathrebu 6.2. Gweithio gyda'r tîm cyfathrebu ar strategaeth gyfathrebu 6.2. Gwerthuso cynnydd a gwella os oes angen 6.2. Gwerthuso cynnydd a gwella os oes angen
6.3. Ymarfer dadansoddi bylchau o ran y ffordd rydym yn ein cyflwyno ein hunain fel Prifysgol. Marchnata a Denu Myfyrwyr, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu. 6.3. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol  6.3. Gweithio gydag Adrannau allweddol sy'n gyfrifol am ddelwedd y Brifysgol ar sut y gallwn sicrhau amrywiaeth a gwneud newidiadau/ gwelliannau 6.3. Gwerthuso cynnydd ac unrhyw newidiadau o ran y data – gwneud newidiadau pellach os oes angen 6.3. Gwerthuso cynnydd ac unrhyw newidiadau o ran y data – gwneud newidiadau pellach os oes angen