Ffermwyr llaeth a sgiliau maeth

Mae prosiect sydd newydd ei orffen gan adran o IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig – yn Aberystwyth wedi helpu 200 o ffermwyr llaeth i gael gwell defnydd o’r maeth sydd mewn gwrtaith a slyrri.

Gyda chefnogaeth ariannol o Gronfa Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd, fe fu’r Ganolfan Datblygu Glaswelltiroedd yn IBERS yn gwneud y gwaith ar ran y Ganolfan Datblygu Llaeth yn y Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin. Y nod oedd helpu’r ffermwyr i dargedu eu defnydd o faetholion yn well.

Mae tîm estyn allan y Ganolfan Datblygu Glaswelltiroedd wedi creu adroddiad i bob un o’r ffermwyr yn y prosiect gan ddangos y prif lefydd i wella’r defnydd o faetholion.

Mae’r argymhellion wedi eu seilio ar ddadansoddiad o slyrri a phridd o bob fferm a gwybodaeth gan y ffermwyr eu hunain am eu defnydd o slyrri a gwrtaith. Gall yr adroddiad wedyn fod yn sail i Gynllun Rheoli Maetholion ar gyfer y fferm.

Roedd yr holl ffermwyr yn y prosiect yn rhan o grwpiau trafod ar draws Cymru. Trwy’r rheiny cafwyd cyfres o gyfarfodydd ar y ffermydd i ystyried y prif gasgliadau a thrafod yr adroddiadau unigol.

Prif amcan y prosiect oedd cadw cydbwysedd rhwng ansawdd y pridd, anghenion y cnydau ac ychwanegu maetholion, gan bwysleisio’r angen i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth fanwl yn hytrach na dim ond bwrw amcan.

Meddai Chris Duller, Swyddog Estyn-Allan y Ganolfan Datblygu Glaswelltiroedd: “Mae’n rhaid i bron bob ffermwr confensiynol yng Nghymru benderfynu faint o wrtaith sydd ei eisiau ar gnwd o silwair ar ôl gwasgaru slyrri. Bydd rhy ychydig o faetholion yn lleihau’r cnwd tra bydd defnyddio gormod yn wastraff ariannol, yn creu posibilrwydd y gyfer llygredd ac yn arwain at eplesu gwael.

“Fodd bynnag, os yw’n gwybod faint o faetholion sydd yn y pridd ac yn y slyrri a faint o slyrri sydd wedi ei ddefnyddio, mae’n weddol hawdd gwneud asesiad cywir o faint o wrtaith-sach sydd ei angen er mwyn cael y glaswellt gorau, o ran twf ac ansawdd.

“Holl bwynt y prosiect yma oedd cynnig gwybodaeth safonol i fod yn sail ar gyfer penderfyniadau busnes cadarn.”

Er bod y ffigurau ‘llyfr’ yn fan cychwyn da i asesu’r maetholion mewn slyrri, roedd y samplau a gymerwyd yn ystod y prosiect yn dangos amrywiaeth sylweddol, yn dibynnu ar amodau storio a threfn fwydo.

Roedd y gwahaniaethau (yn amrywio o 20% i ddwbl y ffigwr ‘llyfr’) yn tanlinellu gwerth samplo a dadansoddi slyrri pob fferm.

Wrth ddadansoddi maetholion mewn slyrri, mae’n bwysig fod y sampl yn gyson â’r hyn sydd wedi ei wasgaru. Yr ateb gorau yw cymryd sampl o stôr sydd wedi ei droi’n dda neu o’r tancer yn y cae. Fydd cymryd sampl o’r clos neu’r pwll derbyn slyrri ddim yn rhoi ateb cywir.
 
Dangosodd y prosiect hefyd fod amrywiadau mawr o ran maetholion yn y pridd. Roedd mwy na 40% o’r samplau yn cynnwys dwbl y targed ar gyfer ffosffad, gan roi cyfle i wario llai ar wrtaith ffosffad. Roedd bron 50% yn brin o ptash (2+ o dan yr indecs) a byddai hynny’n lleihau’r cnwd silwair. Dim ond 30% o’r samplau pridd oedd o fewn y targed o PH rhwng 6 a 6.5, er mwyn cael y tyfiant gorau o ran glaswellt a chlofer.
 
Roedd nifer o ffermwyr organig yn rhan o’r prosiect. A hwythau’n dibynnu’n llwyr ar y maetholion yn y slyrri i annog twf, roedd hi’n bwysig iawn fod ganddyn nhw wybodaeth am y ffordd orau o’i dargedu. Yn yr un modd, gyda dibyniaeth ddwys ar glofer i sicrhau nitrogen, mae’n bwysig fod lefelau maetholion yn y pridd yn cael eu cadw ar eu gorau i hybu twf y clofer.

O ganlyniad i’r adroddiadau fferm a’r cyfarfodydd trafod, codwyd llawer o bynciau y mae ffermwyr am weld rhagor o ymchwil iddyn nhw yn ystod y misoedd nesaf, er mwyn gwella rhagor ar eu defnydd o faetholion.

Gyda phrisiau gwrtaith yn codi’n gyson, bydd rhaid gwneud llawer o benderfyniadau anodd am y ffordd fwyaf darbodus i dyfu glaswellt. Ochr yn ochr â’r bygythiad fod deddfau NVZ (parthau perygl nitradau) yn cael rhagor o effaith ar Gymru, mae’n golygu fod angen i ffermwyr feddwl yn ofalus am eu dulliau o storio a defnyddio slyrri fel bod y glaswellt yn cael y lefelau delfrydol o faetholion.


Gwybodaeth pellach:

Canolfan Datblygu Tir Glas, IBERS, Prifysgol Aberystwyth 01970 823026 / Canolfan Datblygu Llaeth 01554 748570


Nodiadau i Olygyddion:

Ar Ebril 17 asiwyd IGER â Prifysgol Aberystwyth. O ganlyniad, mae’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd ar safle Gogerddan, a dau sefydliad o fewn y Brifysgol – Sefydliadau’r Gwyddorau Gwledig a Biolegol – wedi ymuno gyda’u gilydd i ffurfio Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), gan greu’r grwp mwya’ o wyddonwyr a staff cefnogol yn y maes.

Mae’r Ganolfan Datblygu Tir Glas yn cynnig adnodd ehangach i hyrwyddo trosglwyddiad gwyddoniaeth a thechnoleg gyda amaethyddiaeth a diwydiannau arall perthnasol. Mae’r Ganolfan ar hyn o bryd yn cael ei ariannu drwy Gyswllt Ffermio i sicrhau gwasanaethau dros Gymru mewn cydweithrediad â Chanolfanau Datblygiad sector eraill.

Mae’r Ganolfan Datblygu Llaeth yn un elfen o adnodd aml-ochrog o fewn y diwydiant a’i adnabyddir fel Cyswllt Ffermio. Pwrpas y Ganolfan yw i hwyluso datblygiad y diwydiant llaeth yng Nghymru drwy cyflenwi gwasanaeth trosglwyddiad technoleg a gwyboadeth am y farchnad, a gweithio law yn llaw gyda partneriaid allweddol i drefnu digwyddiadau sy’n hyrwyddo arfer da a thechnolegau newydd. Mae’r ganolfan yn seiliedig o gwmpas Canolfan Datblygu Cydlynnol a rhwydwaith o Ffermydd Datblygu, Ffermydd Arddangos a Grwpiau Trafod.