Torri tir newydd

23 Tachwedd 2010

Yr Athro Noel Lloyd yn torri'r dywarchen gyntaf ar safle canolfan ymchwil newydd gwerth £7m yng nghwmni cydweithwyr o IBERS (chwith i'r dde) Michael Abberton, Wayne Powell, Nigel Scollan, Iain Donnison, John Harries a Athole Marshall.

Mae’r gwaith wedi dechrau ar adeilad ymchwil newydd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Bydd y datblygiad yn rhoi cartref i adnoddau newydd o safon byd er mwyn helpu i ddatrys sialensiau mawr rhyngwladol megis sicrwydd bwyd, dŵr ac ynni ac addasu i newid hinsawdd.

Bydd yr adeilad newydd yn chwyldroi gwaith arloesol IBERS ym maes phenomeg – deall sut y mae genynnau’n effeithio ar ymddangosiad ac ymddygiad planhigion. Bydd gwaith sy’n arfer cymryd blynyddoedd bellach yn digwydd mewn misoedd.

Bydd ymchwil yn y ganolfan newydd yn arwain at ddatblygu amrywiaethau newydd o blanhigion i wella ansawdd da byw a bod o fudd i ffermwyr yng Nghymru a thros y byd, a datblygu cnydau newydd sy’n gallu gwrthsefyll tywydd eithafol a thyfu ar dir salach.

Bydd yr adnoddau newydd hefyd yn arwain at ragor o gydweithio gyda gwyddonwyr o statws rhyngwladol o bob rhan o’r byd.

Wrth gysylltu dau adeilad sy’n bod eisoes, bydd y datblygiad newydd yn cynnwys y tai gwydr a’r labordai diweddaraf, llefydd gwaith i ymwelwyr o academyddion ac ardal gymdeithasu ble bydd modd i’r cyhoedd weld gwaith IBERS.

Trwy ddilyn cenhadaeth IBERS o ieuo gwaith ymchwil academaidd gydag anghenion ffermwyr, busnesau a’r gymuned, bydd yr adeilad newydd yn bwerdy i feithrin menter garwch yn y diwydiannau amaeth a thir, bwyd ac ynni cynaliadwy.

Mae’r buddsoddiad ar gampws IBERS yng Ngogerddan ger pentref Penrhyn-coch yn cael ei gyllido gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnoleg a Bioleg a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae hwn yn gam pwysig o ran canolbwyntio gweithgaredd IBERS ar ddau gampws - Gogerddan a Phenglais - a bydd y cyfleusterau newydd yn ychwanegu ymhellach at statws IBERS yn un o’r canolfannau ymchwil mwyaf arloesol ym maes gwyddoniaeth planhigion ac anifeiliaid yn y byd.”

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS: “Mae’r ganolfan phenomeg newydd yn golygu y bydd modd cofnodi gwybodaeth gynhwysfawr o nifer sylweddol o blanhigion o fewn misoedd yn hytrach na blynyddoedd.”

“Bydd yn ganolbwynt i ddatblygu cynlluniau ar y cyd o safon uchel gyda gwyddonwyr rhyngwladol ym maes geneteg a genomeg weithredol, ecoleg, genecoleg, gwella cnydau, newid hinsawdd ac addasu, ac amaethyddiaeth fyd-eang yng nghyd-destun yr amgylchedd.”

Manylion pellach:
Dawn Havard
IBERS
Ffôn: 01970628840
ebost: dbh@aber.ac.uk