Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn ymweld â IBERS

Bu'r Athro John Harries, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn treulio diwrnod yn y Brifysgol, ddydd Mawrth 21ain o Fedi.

Chwith ir Dde, Yr Athrawon Mike Wilkinson, John Harries, a Will Haresign

Swyddogaeth y Prif Gynghorydd Gwyddonol yw rhoi cyngor i'r Prif Weinidog Carwyn Jones a Llywodraeth Cynulliad Cymru, hybu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a rôl gwyddoniaeth o fewn yr economi wybodaeth ehangach.

Dywedodd Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor y Brifysgol,
“ Mae’n fraint cael croesawu'r Athro John Harries yma. Mi fydd yn ymweld â phedair adran yn ystod y dydd i ddysgu mwy am y ddarpariaeth i fyfyrwyr yn ogystal â’r gwaith ymchwil gwyddonol o safon byd sydd yn cael ei wneud yma yn Aberystwyth.”

Bu Yr Athro Harries yn ymweld â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yr Adran Gyfrifiadureg a’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg.