Dal y diferion

Dydd Llun 17 Mai 2010

Dŵr naturiol yn arbed ffortiwn i ffermydd
Canolfan ymchwil IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain unwaith eto

Tra bod mwy a mwy o bobol yn cynaeafu dŵr glân ar gyfer eu gerddi, mae’r Brifysgol yn defnyddio ffynonellau naturiol i gael dŵr ar raddfa ddiwydiannol.buchod godroMae’r ffermydd, sy’n rhan o’r ganolfan ymchwil o safon byd yn IBERS (y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig), wedi dod o hyd i ffordd o gwrdd â’u galw anferth am ddŵr trwy ddefnyddio’u hadnoddau eu hunain.
 
Ehangu'r fuches odro yn Nhrawsgoed a ysgogodd Huw McConochie, rheolwr y ffermydd i ddod o hyd i ffynonellau dŵr newydd i gwrdd â’r angen dyddiol am 50,000 o litrau ar y fferm. “ Roedd y system bresennol yn dibynnu yn drwm ar ddŵr o’r prif gyflenwad meddai Huw, nad oedd yn gost effeithiol. Wedi methu i sicrhau cyflenwad digonol o ddyfrdyllau ar y fferm, dyma droi at gasglu dŵr glaw a dŵr o ddau lyn ar y fferm.

Mae’n golygu arbed bron £22,000 y flwyddyn o’i gymharu â chost tynnu’r dŵr o’r cyflenwad arferol.
 
“Mae ein profiad ni yma’n dangos sut y gallai ffermwyr ar draws Cymru ddefnyddio gwahanol ffynonellau ar eu tir er mwyn cwrdd â’u gofynion a thorri ar eu biliau,” meddai rheolwr y ffermydd, Dr Huw McConochie.

“Byddai’n ddigon hawdd addasu’r technegau sydd gyda ni yma ar gyfer ffermydd eraill, mae hon yn enghraifft arall o’r ffordd y mae IBERS yn datblygu syniadau newydd ac wedyn yn trosglwyddo’r wybodaeth a’r arbenigedd i’r diwydiant amaethyddol trwy Gymru a thu hwnt.”
 
Sut mae’n gweithio
Mae rhaid i’r gwartheg godro ar ffermydd y Brifysgol, sy’n cael eu rheoli fel un fenter o dair canolfan, cael hyd at 50,000 litr o ddŵr bob dydd,
 
Roedd tynnu dŵr o’r cyflenwad cyhoeddus fesul 35 litr y munud yn costio £21,900 y flwyddyn i IBERS.
 
Bellach, mae’r ffermydd yn defnyddio cyfuniad o ffynonellau naturiol:
•        Mae’r llyn a’r nant ar y fferm yn rhoi 30 litr y munud o ddŵr yfed i’r gwartheg.
•        Mae cynaeafu dŵr glaw yn rhoi digon ar gyfer golchi’r parlwr  - tua 4 miliwn litr y flwyddyn.
•        Daw’r gweddill o dyllau dŵr ar y fferm.

Y storio sydd yn bwysig, “ hyd yn oed yn Nhrawsgoed, fydd hi ddim yn bwrw glaw bob dydd! Mae’r dŵr glaw sydd wedi ei gasglu yn cael ei storio mewn tanc 30000 o litrau yn barod i’w ddefnyddio, tra bo’r dŵr yfed o’r llynnoedd a’r dyfrdyllau yn cael ei storio mewn tanc 2800 o litrau ar wahân” meddai Huw sydd yn amcangyfrif y bydd costau sefydlu’r system newydd wedi eu hadennill trwy’r arbedion yn y flwyddyn gyntaf.

“Yn amlwg, mae tynnu dŵr o’r system arferol yn straen ar yr amgylchedd achos mae’n rhaid i bob diferyn gael ei drin a’i bwmpio,” meddai Huw McConochie. “Mae defnyddio ein hadnoddau ein hunain yn rhatach ac yn well i’r blaned.”