Lansio cyrsiau Dysgu o Bell IBERS newydd i ategu gofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

20 Awst 2026
Mae uned Dysgu o Bell IBERS yn falch o gyhoeddi eu bod nhw’n lansio cyfres newydd o gyrsiau byr ar-lein sydd wedi'u cynllunio i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy a helpu ffermwyr Cymru i fodloni gofynion dysgu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC).
Os ydych yn paratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC), efallai eich bod eisoes yn ymwybodol fod yn rhaid i gyfranogwyr gwblhau o leiaf chwe awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) fel rhan o ofynion yr Haen Gyffredinol.
Er mwyn helpu ffermwyr i gael mynediad at hyfforddiant hyblyg a pherthnasol, mae tîm Dysgu o Bell IBERS wedi cyflwyno cyfres o gyrsiau mynediad ar-lein sy'n ymdrin â phynciau allweddol ym maes amaethyddiaeth gynaliadwy.
Mae'r cyrsiau'n galluogi dysgwyr i astudio ar eu cyflymder eu hunain wrth ennyn gwybodaeth werthfawr mewn meysydd pwysig o ran ffermio cynaliadwy.
Datblygwyd y cyrsiau newydd i ategu Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru (CFfC) a Chymhelliant Ffermio Cynaliadwy (SFI) Lloegr.
O dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae'n ofynnol i ffermwyr sy'n cymryd rhan gwblhau o leiaf chwe awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) bob blwyddyn.
Mae pob cwrs byr Dysgu o Bell IBERS yn darparu'r chwe awr ofynnol o DPP, gan gynnig llwybr cyfleus a hyblyg i ffermwyr gwrdd â’r gofyn tra’n caffael gwybodaeth ymarferol y gellir ei rhoi ar waith ar y fferm.
Mae'r cyrsiau sydd ar gael yn cynnwys:
- Cyflwyniad Gwyddor Pridd: Swyddogaethau, Samplu ac Asesu
- Systemau Amaeth-fwyd Cynaliadwy: Atebion Tir, Da Byw a Datrysiadau Hinsawdd
- Asesiad Cylch Bywyd (LCA) ar y Fferm
Mae’r cyrsiau yn cario pwyntiau BASIS, gan alluogi ffermwyr yng Nghymru i fodloni gofynion dysgu'r CFfC drwy gwblhau un cwrs yn unig.
Mae'r cyrsiau'n dechrau ar ddydd Mercher cyntaf pob mis, gan gynnig ffordd gyfleus a hygyrch i ffermwyr a rheolwyr tir ddatblygu eu sgiliau tra’n cefnogi’r newid i systemau ffermio mwy cynaliadwy.
I ffermwyr cymwys yng Nghymru, mae 80% o ffioedd y cwrs ar hyn o bryd yn cael eu hariannu drwy Cyswllt Ffermio.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a dyddiadau cychwyn sydd ar ddod, ewch i wefan Dysgu o Bell IBERS.
Am ragor o wybodaeth am ofynion DPP y CFfC, gweler canllaw Datblygiad Proffesiynol Parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
