Cymharu Metafargodio DNA ag Arolygon Botaneg Traddodiadol a Gynhelir â Chwadradau

Hannah Vallin
14 Ebrill 2025
Mae’r Dr. Hannah Vallin, sydd yn gynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), wedi cyhoeddi ei phapur cyntaf fel prif awdur yn y cyfnodolyn Ecology and Evolution.
Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at botensial metafargodio DNA fel dewis arall posib, y gellid ei gynnal ar raddfa fawr, o’i gymharu â’r arolygon botanegol traddodiadol ar gyfer asesu cyfansoddiad rhywogaethau planhigion mewn ecosystemau glaswelltir.
Mae metafargodio DNAyn dechneg a ddefnyddir i adnabod rhywogaethau lluosog o fewn sampl amgylcheddol trwy ddadansoddi eu DNA. Mae'n cyfuno:
- Bargodio DNA - sy'n adnabod rhywogaethau gan ddefnyddio marcwyr genetig byr, unigryw, â
- Dilyniannu trwybwn uchel - sy'n golygu y gellir adnabod llawer o rywogaethau o un sampl ar yr un pryd.
Mae ganddo sawl mantais posib o’i gymharu â’r dulliau arolwg traddodiadol.
- Mae'n cynnig y gallu i brosesu dilyniannau lluosog yn gyflym ac yn gost-effeithiol ar yr un pryd, sydd yn aml yn arwain at well manylder tacsonomig
- Mae'n darparu'r gallu i adnabod rhywogaethau trwy gydol y tymor tyfu
- Mae'n lleihau'r amser a dreulir yn y maes
Mae’r astudiaeth, o'r enw "Comparative Analysis of Pasture Composition: DNA Metabarcoding Versus Quadrat-Based Botanical Surveys in Experimental Grassland Plots", yn edrych ar pa mor effeithiol yw metafargodio DNA o'i gymharu ag arolygon a gynhelir â chwadradau o dan wahanol sefyllfaoedd diddeilio.
Yn y lleiniau arbrofol, fe adnabuwyd 16 o dacsonau drwy’r arolygon botanegol traddodiadol, sef dull sydd yn aml yn cymryd tipyn o amser ac yn dibynnu ar arbenigedd tacsonomig. Drwy’r metafargodio DNA, ar y llaw arall, fe adnabuwyd 25 o dasconau. Er y cafwyd mwy o dacsonau, canfu’r astudiaeth fod rhai anghysondebau wrth eu hadnabod, gyda data’r dilyniannu yn adnabod rhai tacsonau i lefel y genws yn unig.
Tabl gwres i ddangos y tacsonau a adnabuwyd yng nghanlyniadau’r metafargodio (glas), canlyniadau’r arolygon botanegol (gwyrdd) a’r tacsonau a nodwyd yn y ddwy set ddata (pinc).
Rhoddodd y ddau ddull ganlyniadau cymaradwy, yn datgelu gwahaniaethau ystadegol arwyddocaol yng nghyfansoddiad y rhywogaethau rhwng triniaethau, sef dangos bod mwy o amrywiaeth mewn lleiniau a oedd wedi'u torri o’u cymharu â’r rhai a borwyd. Serch hynny, mae natur led-feintiol metafargodio DNA yn golygu ei fod yn gyfyngedig o ran ei allu i ddangos yn gywir pa mor doreithiog yw’r rhywogaethau, ac mae hynny’n achosi heriau o ran cynnal dehongliadau ecolegol lle mae angen meintioli’n fanwl gywir.
Er gwaethaf y cyfyngiadau hynny, mae metafargodio DNA yn cynnig golwg ehangach ar fioamrywiaeth ac fe all fod yn ddull i ategu’r dulliau traddodiadol, yn rhoi cyfleoedd newydd ar gyfer monitro bioamrywiaeth yn effeithlon. Mae'r canfyddiadau yn cefnogi integreiddio metafargodio DNA mewn asesiadau o fioamrywiaeth, yn enwedig pan y’i defnyddir ochr yn ochr â thechnegau traddodiadol. Bydd mireinio’r offer biowybodeg a’r cronfeydd data cyfeirio ymhellach yn gwella eu cywirdeb a'u dibynadwyedd, a fydd yn golygu y gellir bod yn fwy effeithiol wrth fonitro bioamrywiaeth ac arferion rheoli cynaliadwy ar laswelltiroedd.
Mae'r astudiaeth hon yn pwysleisio gwerth metafargodio DNA fel offeryn ar gyfer deall ymatebion cymunedau o blanhigion i ymyriadau rheoli, gan baratoi'r ffordd ar gyfer monitro bioamrywiaeth yn fwy effeithlon a chynhwysfawr mewn ecosystemau glaswelltir. Cewch ddarllen y papur llawn yma: https://onlinelibrary.wiley.com/doi/epdf/10.1002/ece3.71195