Astudiaeth Newydd yn IBERS yn Datgelu Sut y Gall Twf Cynnar mewn Miscanthus Greu Mwy o Gynnyrch Biomas

Mesur Uchder Stum Miscanthus yn y Plotiau Prawf IBERS

Mesur Uchder Stum Miscanthus yn y Plotiau Prawf IBERS

13 Mai 2025

Mae ymchwilwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi gwneud darganfyddiadau newydd am batrymau twf tymhorol Miscanthus—cnwd allweddol ar gyfer cynhyrchu bioynni cynaliadwy.

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn Frontiers in Plant Science, cynhaliodd Dr Paul Robson a’i gydweithwyr ddadansoddiad ar dwf coesynnau planhigion mewn dros 900 o enoteipiau o Miscanthus a dyfwyd yng ngorsaf ymchwil IBERS. Mae'r canlyniadau'n dangos bod twf sy’n digwydd yn gynt yn y tymor - yn enwedig mewn planhigion a gasglwyd o gynefinoedd uchel uwchben lefel y môr - yn gallu arwain at fwy o gynnyrch biomas. Er hynny, mae'r astudiaeth hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai nodweddion twf yn gallu cael effaith negyddol, gan gyfyngu ar y potensial twf drwy gydol yn y tymor.

Mae Twf Cynnar yn Bwysig, ond mae Sgil-Effeithiau Eraill

Canfu'r ymchwil fod planhigion Miscanthus a ddechreuodd dyfu’n gynt yn y tymor yn tueddu i gynhyrchu mwy o fiomas sych. Serch hynny, roedd gan blanhigion a dyfai’n gyflym iawn yn aml gyfnod twf byrrach, sy'n golygu, er eu bod yn tyfu'n gyflym, nad oeddent o reidrwydd yn cynnal eu twf trwy gydol y tymor.

"Mae twf cynnar yn rhoi’r cyfleoedd gwerthfawr i’r planhigyn i fod ar y blaen o ran dal y golau a meithrin biomas, ond mae sgil-effeithiau i hynny," meddai Dr Robson. "Gwelwn fod twf hir cynnar a chyflym weithiau’n gallu bod yn gysylltiedig â thymor tyfu byrrach, ac mae hynny’n gallu cyfyngu ar gyfanswm y cynnyrch yn y pen draw."

Trysorfa o Amrywiaeth Genetig

Manteisiodd yr astudiaeth ar yr amrywiaeth cyfoethog o enynnau mewn Miscanthus, gan ddadansoddi nifer o rywogaethau  gan gynnwys M. sinensis, M. sacchariflorus, M. lutarioripariusa, a M. floridulus. Roedd y rhywogaeth unigol a’i tharddiad daearyddol yn effeithio’n gryf ar y gwahaniaethau yn y strategaethau tyfu tymhorol.  Gwnaeth M. lutarioriparius yn enwedig ddangos twf cynnar a chyflym iawn ond roedd ei chyfnod twf hefyd yn fyrrach ac yn arwain at lai o fiomas. Ond roedd y genoteipiau o M. sinensis o ogledd a chanolbarth Siapan yn dangos twf yn gynt yn y tymor, ond â datblygiad mwy parhaus trwy gydol y tymor.

Mae'r darganfyddiadau hyn yn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i fridwyr i ddethol nodweddion sy’n cyfuno twf cynnar â datblygiad a fydd yn para drwy’r tymor, gyda'r nod o greu cnydau Miscanthus yn y dyfodol sy'n tyfu'n gyflym ac yn hirhoedlog.

Tuag at Well Cnydau Bioynni

Mae'r gwaith yn pwysleisio’r posibiliadau o wella Miscanthus fel cnwd bioynni drwy ddefnyddio amrywiadau naturiol a bridio wedi'i dargedu. Drwy estyn y tymor tyfu a chynyddu cynhyrchiant fe ellid rhoi hwb sylweddol i rôl Miscanthuswrth ddisodli tanwyddau ffosil, gan helpu i gyrraedd targedau carbon sero-net.

Cafodd yr ymchwil gefnogaeth gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol y DU (BBSRC) ac mae'n adeiladu ar y rôl flaenllaw sydd gan IBERS mewn ymchwil i gnydau cynaliadwy.

Darllen yr astudiaeth lawn

Mae’r erthygl lawn, sef "Seasonal stem growth analysis shows early stem growth of Miscanthus from high latitudes yields more biomass but stem traits negatively interact to limit seasonal growth", ar gael yn Frontiers in Plant Sciencehttps://doi.org/10.3389/fpls.2025.1569235