Myfyrwyr yn Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i Ddatblygu Ymchwil Cnydau

Gina Garzón Martínez, Larissa van Vliet a Dr Kieran Atkins

Gina Garzón Martínez, Larissa van Vliet a Dr Kieran Atkins

30 Mehefin 2025

Mewn cydweithrediad â’r Adran Cyfrifiadureg mae Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cnydau i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i fynd i’r afael â heriau amaethyddol byd-eang.

Yn ddiweddar mae tri myfyriwr ymchwil-Kieran Atkins, Gina Garzón Martínez, a Larissa van Vliet-wedi cyhoeddi gwaith arloesol sy’n defnyddio rhwydweithiau niwral troelliadol i ddeall sut mae’r amgylchedd yn dylanwadu ar gynhyrchu hadau mewn cnydau bresych a phlanhigion cysylltiedig. Roedd y gwaith, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol IBERS yn defnyddio delweddu a modelu uwch i astudio poblogaethau planhigion mawr, amrywiol yn enetig, a dyfwyd dan amodau amgylcheddol rheoledig.

Bu’r tîm yn datblygu ac yn hyfforddi modelau AI sy’n gallu canfod, cyfrif a mesur codennau hadau gyda chyflymder a chywirdeb sydd ymhell y tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl â llaw. Mae’r arloesiad yn galluogi ymchwilwyr i fynd i’r afael â chwestiynau a oedd cyn hyn yn anhydrin ym maes gwyddor cnydau, ac yn cefnogi enw da hirsefydlog Aberystwyth mewn ymchwil bridio planhigion a gwella cnydau.

Dywedodd yr Athro John Doonan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol:

“Mae’r myfyrwyr hyn yn gwneud mwy na datblygu gwybodaeth academaidd – maen nhw’n helpu i ddatblygu offer ymarferol a allai drawsnewid y ffordd y caiff cnydau eu bridio a’u tyfu ledled y byd.”

Sylw i Gymwysiadau

  • Geneteg Cydweithredu Planhigion: Bu dwy astudiaeth gyflenwol yn edrych ar sut mae planhigion yn rhyngweithio gyda’u cymdogion - boed hynny drwy gystadlu neu gydweithredu - a sut y caiff eu cyfansoddiad genetig ddylanwad ar hyn. Arweiniodd Gina Garzón Martínez bapur a gyhoeddwyd yn Proceedings of the Royal Society B, tra bo Kieran Atkins yn arwain astudiaeth yn GigaScience. Gyda’i gilydd, canfu’r ymchwil nifer o enynnau’n gysylltiedig ag ymddygiadau cydweithredol a chystadleuol, gan gynnig strategaethau newydd ar gyfer bridio cnydau sy’n addas ar gyfer systemau plannu dwysedd uchel.
  • Ymateb Oer mewn Rêp Had Olew (Canola): Bu’r tîm hefyd yn datblygu DeepCanola, offeryn ar gyfer dadansoddi nodweddion codennau hadau yn gyflym mewn amodau gaeafol. Defnyddir y dechnoleg hon i astudio rêp had olew, ac mae’n galluogi bridwyr i ganfod cyltifarau sy’n gallu gwrthsefyll yr oerfel yn well - nodwedd gynyddol bwysig yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Mae’r ymchwil, gan Kieran a Larissa, yn ymddangos yn Computers & Electronics in Agriculture.

DywedoddDr Chuan Lu, Uwch-ddarlithydd mewn Biowybodeg yn yr Adran Cyfrifiadureg:

“Mae’r rhain yn enghreifftiau rhagorol o’r ffordd y mae gwyddoniaeth ryngddisgyblaethol yn Aberystwyth yn mynd i’r afael â phroblemau yn y byd go iawn.”

Cyllidwyd y myfyrwyr ymchwil hyn gan raglenni Ymchwil ac Arloesi’r DU BBSRCac EPSRC, rhaglen Horizon 2020y Comisiwn Ewropeaidd, a chafodd Gina gefnogaeth ysgoloriaeth AberDoca dyfarniad y llywydd i fyfyrwyr rhyngwladol.

Effaith a Gyrfaoedd yn y Dyfodol

Mae’r prosiect yn tynnu sylw at werth hyfforddiant arloesol a’i effaith yn fyd-eang.

  • Mae Gina Garzón Martínez bellach yn Arweinydd Prosiect yn asiantaeth ymchwil amaethyddol genedlaethol Colombia, Agrosavia.
  • Mae Larissa van Vliet yn cymhwyso ei harbenigedd fel peiriannydd data ac arweinydd prosiect mewn ystadegau amaethyddol yn Sefydliad Ystadegau Cenedlaethol yr Iseldiroedd.
  • Mae  Dr Kieran Atkins yn parhau â’i ymchwil yn Aberystwyth, gan gydweithio gyda chwmnïau bridio hadau partner ar heriau mwy cymhleth fyth mewn systemau cnydio aml-rywogaeth.

Dolenni at yr Ymchwil