Amdanom Ni

Rydym yn gymuned o ysgolheigion sy'n astudio gwahanol agweddau ar gudd-wybodaeth a diogelwch rhyngwladol. 

Cyfarwyddwr presennol y Ganolfan yw Dr R. Gerald Hughes, sydd hefyd yn Olygydd Adolygiadau y DU ar gyfer y cylchgrawn Intelligence and National Security.

Cyd-gyfarwyddwr presennol y Ganolfan yw Dr Aviva Guttmann, sylfaenydd a chadeirydd y Rhwydwaith Cudd-wybodaeth Menywod (WIN).

Cynhaliodd y Ganolfan seminar agoriadol ym mis Gorffennaf 2004, dan arweiniad Michael Herman, ar rôl cudd-wybodaeth yn ystod rhyfel Irac.

Mae’r Ganolfan wedi trefnu cynadleddau, symposia a gweithdai amrywiol. Mae'r digwyddiadau hyn wedi dwyn ynghyd arbenigwyr academaidd a phroffesiynol ym maes cudd-wybodaeth o bob cwr o'r byd. Mae trafodion y gynhadledd wedi'u cyhoeddi mewn rhifynnau arbennig o Intelligence and National Security (19/2, 21/5, 24/1, 27/5) ac yn Len Scott a Peter Jackson (gol.),

Understanding Intelligence in the Twenty-first Century: Journeys in Shadows (Routledge, 2004); Len Scott a R. Gerald Hughes (gol.), Intelligence, Crises and Security:

Prospects and Retrospects (Routledge, 2008); Len Scott, R. Gerald Hughes a Martin S. Alexander (gol.), Intelligence and International Security: New Perspectives and Agendas (Routledge, 2011).