Mae gwasanaethau cudd-wybodaeth bellach yn gyrff sylweddol a pharhaol yn y wladwriaeth fodern. Maent yn elfen greiddiol o’r ymdrechion i amddiffyn rhag terfysgaeth, ac yn bwnc llosg sy’n ennyn diddordeb y cyhoedd yn gyson. Am flynyddoedd lawer roedd y cyfrinachedd o’u cwmpas yn golygu eu bod yn ddimensiwn coll mewn ysgolheictod modern. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae disgyblaeth 'astudiaethau cudd-wybodaeth' wedi datblygu i fod yn gangen ddilys o hanes modern, gwyddor wleidyddol, dadansoddi amddiffyn, ac arbenigeddau eraill. Mae cudd-wybodaeth wedi dechrau derbyn y sylw academaidd y mae'n ei haeddu fel rhan o'r byd gwybodaeth byd-eang.
Mae Aberystwyth wedi chwarae rhan flaenllaw yn y datblygiad hwn. O ddyddiau cynnar astudiaethau cudd-wybodaeth, mae wedi denu ysgolheigion yn y maes hwn ac wedi’u hannog i'w ddatblygu. Dechreuwyd dysgu’r pwnc yn rhan o'r cwricwlwm ym 1991/2, a bellach mae’n cynnwys pedwar cwrs meistr a’r unig raglen israddedig yng Nghymru. Yn ddiamau, mae Aberystwyth ymhlith y 13 prifysgol cyntaf ym Mhrydain i gynnig cudd-wybodaeth yn y modd hwn.
Ond mae'r pwnc yn ifanc o hyd, ac mae ffordd bell i fynd. Mae astudiaethau cudd-wybodaeth yn dal i ganolbwyntio ar yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a modelau eraill Saesneg eu hiaith, ac nid yw cudd-wybodaeth mewn mannau eraill wedi cael llawer o sylw hyd yma. Nid yw ond yn crafu’r wyneb o ran yr amrywiaeth eang o bynciau posibl. Mae enghreifftiau o'r pynciau sydd angen sylw yn cynnwys i ba raddau y gallai 'cudd-wybodaeth ryngwladol' gynorthwyo'r Cenhedloedd Unedig, agweddau'r cyhoedd tuag at wasanaethau cudd-wybodaeth, effaith terfysgaeth fyd-eang ar y cydbwysedd rhwng gwyliadwriaeth a rhyddid sifil, ac effeithiau cyfrinachedd ar effeithlonrwydd a morâl y gwasanaethau cudd-wybodaeth. Mae llawer o bynciau pwysig o'r mathau hyn yn galw am ysgolheictod, a phrin iawn yw’r gwaith a wnaed yn y maes ... Felly rwy'n falch iawn bod 'astudiaethau cudd-wybodaeth' wedi cael ei chydnabod fel disgyblaeth unigryw yn ei rhinwedd ei hun trwy sefydlu'r Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch, un o'r cyntaf o'i math yn y wlad hon. Nid yw 'unigryw' yn golygu ar wahân neu hunangynhwysol. I ddeall cudd-wybodaeth mae angen manteisio ar ddisgyblaethau eraill; ond ar delerau cyfartal. Mae o fantais i bawb fod cudd-wybodaeth yn Aberystwyth wedi'i rhyddfreinio yn y modd hwn.
Hoffwn longyfarch pawb yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol ac rwy’n estyn pob dymuniad da iddynt.
Michael Herman
Ymarferydd cudd-wybodaeth Prydeinig 1952-87; awdur ac athro 1987-2021
Cymrawd Adrannol ar Anrhydedd, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.