Rhwydwaith Cudd-wybodaeth Menywod (WIN)

Mae'r Rhwydwaith Cudd-wybodaeth Menywod (WIN) yn cysylltu, yn cefnogi ac yn hyrwyddo ysgolheigion benywaidd sy'n gweithio ym maes Astudiaethau Cudd-wybodaeth. Cynhelir y Rhwydwaith yn Ewrop a'r DU gan Ganolfan Cudd-wybodaeth ac Astudiaethau Diogelwch Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth (CIISS) ac yng Ngogledd America gan y Gymdeithas Hanes Cudd-wybodaeth (SIH).

Y nod cyffredinol yw hyrwyddo, cefnogi a dyrchafu mwy o waith ymchwil gan fenywod, ac ymchwil ar fenywod, ym maes Astudiaethau Cudd-wybodaeth.  

Aelodaeth

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim, ac mae'r rhwydwaith yn croesawu pobl o bob hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol yn aelodau.  Os oes gennych ddiddordeb mewn ymaelodi â’r Rhwydwaith, gallwch anfon e-bost gyda'ch swydd bresennol a'ch diddordebau ymchwil at womenintelnetwork@gmail.com.

 

Yr Hyn a Wnawn

Cyfres y Cinio ‘Bagiau Brown’

Mae’r Rhwydwaith Cudd-wybodaeth Menywod yn trefnu ciniawau ‘bagiau brown’ gyda chyflwynwyr sydd naill ai'n ysgolheigion cudd-wybodaeth benywaidd neu'n awduron sydd wedi cyhoeddi ym maes rhywedd a chudd-wybodaeth neu ym maes menywod mewn cudd-wybodaeth.

Gwobr Lyfrau

Mae’r Rhwydwaith yn dyfarnu Gwobr Polly Corrigan yn flynyddol am y cyhoeddiad gorau mewn Astudiaethau Cudd-wybodaeth gan awdur benywaidd.  Mae'r wobr yn cael ei rhedeg gan Ganolfan y Brenin ar gyfer Astudio Cudd-wybodaeth, https://kcsi.uk/polly-corrigan-book-prize 

Rhaglen fentora

Mae’r Rhwydwaith yn rhedeg rhaglen fentora ar gyfer ysgolheigion benywaidd sy'n dod i'r amlwg.  Ei nod yn benodol yw cefnogi myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y cyfnod tyngedfennol ar ôl gorffen y PhD. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen – naill ai fel mentor neu rywun a gaiff ei fentora – cysylltwch â ni (e-bostiwch: womenintelnetwork@gmail.com).

Cyfarfod mewn cynadleddau

Mae’r Rhwydwaith yn cyfarfod yn rheolaidd mewn cynadleddau, megis yng nghonfensiynau blynyddol y Gymdeithas Hanes Cudd-wybodaeth (SIH), y Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol (ISA), ac eraill.  Yn y cyfarfodydd hyn, mae ysgolheigion newydd yn eu meysydd a rhai sydd eisoes wedi ennill eu plwy yn dod at ei gilydd yn anffurfiol i rwydweithio a rhannu gwybodaeth am gynadleddau, mentrau ymchwil a chymrodoriaethau perthnasol.  

Hygyrchedd a Chynhwysiant

Mae’r Rhwydwaith yn gweithio tuag at gael meysydd llafur mwy cynhwysol ac i gael cynhwysiant ac amrywioldeb mewn ymchwil ac addysg cudd-wybodaeth. I gyflawni hyn, mae’r Rhwydwaith yn cyhoeddi meysydd llafur sy’n gynhwysol o ran rhywedd mewn Astudiaethau Cudd-wybodaeth.

Golygu Llawlyfr Rhydychen ar Fenywod mewn Cudd-wybodaeth

Mae’r Rhwydwaith yn gweithio ar un o Lawlyfrau Rhydychen sy'n trafod rôl menywod mewn cudd-wybodaeth ar draws pum cyfandir, themâu allweddol, a chyfnodau hanesyddol amrywiol. 

Yn ystod cyfnod pan fo’r anghydbwysedd o ran rhywedd o hyd yn gryf mewn Astudiaethau Cudd-wybodaeth, mae’r Rhwydwaith yn gobeithio dod â mwy o amlygrwydd i ymchwil gan fenywod, ac ymchwil amdanynt, o fewn y maes a'r gymuned ysgolheigaidd ehangach.