Croeso i Prifysgol Aberystwyth - Myfyrwyr Dysgu Cymraeg
I ddefnyddio ein cyfleusterau bydd angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a cherdyn Aber arnoch. Mae pob defnydd yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau, Polisïau a Chanllawiau.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i allu defnyddio ein hadnoddau.
Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg drwy system gofrestru ar-lein genedlaethol NCLW, wedi talu ffioedd y cwrs ac wedi dechrau mynychu dosbarthiadau wneud cais am fynediad i’r Gwasanaethau Gwybodaeth trwy gysylltu â’r swyddfa Dysgu Cymraeg ar learnwelsh@aber.ac.uk. Rhaid i’r cais hwn ddod o’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei ddefnyddio ar y system ar-lein genedlaethol i gofrestru ar y cwrs.
Noder: Cewch fynediad i’r adnoddau cyhyd â’ch bod wedi cofrestru ar y cwrs. Yn ôl telerau’r cynllun NCLW, bydd absenoldeb o 4 wythnos yn olynol yn cael ei ystyried fel tynnu’n ôl o’r cwrs, daw eich cofrestriad i ben a chaiff eich cyfrif TG/Cerdyn Aber ei derfynu.