Newyddion a Digwyddiadau

Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i'r Blog Diweddariadau Gwasanaethau GG

Teithiau Llyfrgell Hugh Owen

01/09/2023

Hoffem wahodd yr holl fyfyrwyr i'n teithiau o amgylch Llyfrgell Hugh Owen. Byddant yn dechrau ar 21 Medi ac yn cael eu cynnal bob dydd tan 29 Medi, gyda teithiau dilynol ar 4 ac 11 Hydref. Bydd y teithiau’n cychwyn am 11am ac yn cael eu cynnal bob awr tan 4pm. 

Mae pob taith yn para hyd at 30 munud ac wedi ei chynllunio: 

  • i'ch croesawu i'ch llyfrgell a'ch helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas. 
  • i'ch cyflwyno'n fyr at gyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gael yn y Llyfrgell Hugh Owen. 
  • i sicrhau eich bod yn gwybod ble i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth. 

Dylai pob myfyriwr newydd fynychu taith.  

Os gwelwch yn dda, ewch i Lefel D (llawr y prif fynedfa) Llyfrgell Hugh Owen ar gyfer eich taith o’r llyfrgell: https://www.aber.ac.uk/cy/discover-aberystwyth/maps-travel/maps/#service-departments/is 

Ceisiwch gyrraedd 10 munud cyn amser cychwyn y  daith yr ydych wedi’i ddewis. 

Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24/7 o ddydd Gwener 22ain Medi

18/09/2023

Bydd llyfrgell Hugh Owen ar agor 24/7 o ddydd Gwener 22ain Medi tan gwyliau'r Nadolig: https://www.aber.ac.uk/cy/is/about/opening-hours/

Ailddilysu eich Cerdyn Aber

25/09/2023

Os nad ydych wedi defnyddio eich Cerdyn Aber ar un o bwyntiau sganio / SALTO’r Brifysgol yn ystod y 30 diwrnod diwethaf, yna fe fydd yn rhaid i chi ei ailddilysu gan ddefnyddio man diweddaru.

Er mwyn gwneud hyn, fe fydd angen i chi ddal eich Cerdyn Aber yn erbyn y man diweddaru am fwy o amser nag arfer, nes bod y golau yn troi’n wyrdd, er mwyn prosesu’r diweddariadau angenrheidiol. Gall hyn gymryd ychydig funudau os nad ydych wedi ailddilysu eich Cerdyn Aber am ychydig. Mae’r rhan fwyaf o ddrysau sganio allanol ar adeiladau’r Brifysgol yn gweithredu fel mannau diweddaru. Wedi i chi ddiweddaru eich Cerdyn Aber, bydd yn ddilys am 30 diwrnod.

Ceir gwybodaeth bellach am ailddilysu eich Cerdyn Aber yma.

Gweminarau ar-lein Vevox

28/09/2023

Mae Vevox yn adnodd pleidleisio y gallwch ei ddefnyddio yn eich addysgu a'ch cyfarfodydd. Mae Vevox yn cynnal cyfres o weminarau ar-lein sy'n arddangos y ffyrdd arloesol y caiff polau piniwn eu defnyddio mewn Prifysgolion eraill. Edrychwch ar ein neges flog i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru.

Rhybudd - Codau QR

26/09/2023

Mae codau QR yn cael eu defnyddio'n gynyddol ar gyfer ymosodiadau gwe-rwydo yn erbyn prifysgolion ac rydym wedi gweld cynnydd dramatig yn yr ymosodiadau hyn yn erbyn Prifysgol Aberystwyth yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ni fydd y GG na Microsoft byth yn gofyn i chi sganio cod QR i 'amddiffyn' neu 'uwchraddio' eich cyfrif TG. Byddwch yn ofalus wrth sganio codau QR, a byddwch yn wyliadwrus pan fyddant yn dod o ffynonellau nad ydych yn eu hadnabod!

Diweddariad Panopto ar gyfer Staff: Medi 2023

21/09/2023

Fel rhan o brosiect Blackboard Ultra ehangach, mae integreiddiad Panopto wedi'i uwchraddio. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni wneud rhai newidiadau a gwelliannau. Am fwy o fanylion, gweler y neges ganlynol ar y Blog E-ddysgu: Diweddariad Panopto ar gyfer Staff: Medi 2023

Amserlen Semester Un ar gael

18/09/2023

Bydd eich amserlen academaidd bersonol ar gael ar eich cofnod myfyriwr ar-lein tua thri diwrnod gwaith ar ôl i chi gwblhau’r broses gofrestru. Mae eich amserlen hefyd ar gael ar eich calendr personol trwy Microsoft 365: https://aber.ac.uk/cy/is/it-services/office365/ ond dylech nodi y gall gwybodaeth newydd gymryd yn hwy i ymddangos ar galendrau Microsoft 365.

  • Os ydych ar y campws gallwch weld yr amserlen ar wefan yr Amserlen Academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/timetable/lecture-timetable/
  • Bydd yna rai newidiadau i’r amserlen dros yr wythnosau nesaf wrth i niferoedd myfyrwyr gael eu cadarnhau ac wrth i fyfyrwyr gadarnhau eu dewisiadau modiwl. Byddwn yn gwneud cyn lleied o newidiadau â phosibl, ond fe’ch cynghorir i edrych ar eich amserlen yn rheolaidd rhag ofn bod unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud. Bydd amserlen semester un yn sefydlogi ar ôl wythnosau cyntaf y cyfnod dysgu.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’ch amserlen, bydd eich swyddog amserlenni adrannol yn gallu eich cynghori: https://www.aber.ac.uk/cy/timetable/departmental-timetable-officers/

Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

25/09/2023

26/09 Generative AI Guidance for Staff (L&T: Online)

27/09 E-learning Essentials: Introduction to Blackboard Learn Ultra (L & T: Online)

28/09 Creating Accessible Learning Materials (In Person)

Amserau/archebu

Rhestr Chwarae Hanfodion Blackboard Learn Ultra

21/09/2023

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysg wedi creu Rhestr Chwarae Hanfodion Ultra i gynorthwyo staff i ymgyfarwyddo gydag Ultra.

Mae'r rhestr chwarae yn cynnwys 15 fideo byr (2-8 munud) gyda fideo rhagarweiniol rhywfaint yn hirach Cyflwyniad i Blackboard Learn Ultra.

Gweler ein blogbost am wybodaeth bellach.

Lansiad safle Blackboard newydd 'Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG'

19/09/2023

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG, safle Blackboard Learn Ultra newydd sydd yn dwyn ynghyd yr holl gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol o Wasanaethau Gwybodaeth y bydd ei hangen ar staff addysgu newydd, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi’n ‘ddigidol’ ar gyfer addysgu.

Ar Ddydd Mercher 11 Hydref (2-3yh), hoffem hefyd wahodd staff addysgu newydd i ymuno â ni am baned yn D54, Hugh Owen (cyfarwyddiadau ar sut i ddod o hyd i’r ystafell), lle bydd cyfle iddynt gwrdd â staff addysgu newydd eraill yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o Wasanaethau Gwybodaeth.

Gweler ein blogbost am wybodaeth bellach.

Cysylltwch â digi@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Newid pwysig i offeryn LinkedIn Learning yn Blackboard Learn Ultra

18/09/2023

O Ddydd Mercher 27 Medi 2023, byddwn yn galluogi fersiwn newydd o’r offeryn sy’n caniatáu i staff ymgorffori cynnwys LinkedIn Learning o fewn eu modiwlau yn Blackboard Learn Ultra.

Mae nifer o fanteision i alluogi’r fersiwn newydd hon. Fodd bynnag, bydd hyn yn golygu y bydd angen i staff sydd eisoes wedi ymgorffori cynnwys LinkedIn Learning yn eu modiwlau presennol, ddilyn ychydig o gamau cyn ac ar ôl y dyddiad hwn.

Gweler ein blogbost am wybodaeth bellach.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso mawr i chi gysylltu â'r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk). 

Blackboard Learn Ultra: Canllaw i Fyfyrwyr

13/09/2023

Mae canllawiau myfyrwyr ar gyfer Blackboard Learn Ultra bellach ar gael ar dudalennau gwe’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Gwefan newydd SgiliauAber

01/08/2023

Mae gwefan newydd SgiliauAber yn fyw!

Mae SgiliauAber wedi cael ei ailwampio dros y misoedd diwethaf er mwyn gwneud hi’n haws i ddod o hyd i gynnwys ac i ychwanegu cynnwys newydd. Mae rhai mannau o’r wefan dal yn cael eu datblygu ond y gobaith yw y byddant yn barod erbyn mis Medi.

Yr ydym dal yn ymgynghori ar wedd a chynnwys y tudalennau hyn felly os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, cysylltwch â Non Jones nrb@aber.ac.uk

Blackboard Ally

07/09/2023

Mae'r Wasanaethau Gwybodaeth wedi caffael Blackboard Ally fel rhan o'r symud i Blackboard Learn Ultra.

Mae Blackboard Ally yn adnodd hygyrchedd sy'n helpu i wneud cyrsiau'n fwy hygyrch a throsi ffeiliau i wahanol fformatau.

Ar ddydd Llun 11 Medi, bydd hyn yn cael ei alluogi ar bob cwrs 2023-24. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein blog.