Mynediad i Alumni Prifysgol Aberystwyth

Gall Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth barhau i ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell y Brifysgol, ar gyfer astudiaeth bersonol ac ymchwil, drwy wneud cais i fod yn Ddarllenydd Cyswllt.

Mae Darllenyddiaeth Gyswllt yn costio £15 y chwarter i Alumni Prifysgol Aberystwyth ac yn darparu mynediad i'r llyfrgell, benthyca, argraffu, copïo a sganio.

Mae pob defnydd yn amodol ar ddilyn Rheoliadau, polisïau a chanllawiau Gwasanaethau Gwybodaeth

Ceir manylion llawn am y gwasanaethau sydd ar gael i Ddarllenwyr Cyswllt ar ein tudalen Darllenwyr Cyswllt

I wneud cais llenwch y ffurflen gais Darllenydd Cyswllt isod.

Bydd gofyn i chi ddod â dogfen adnabod cyfeiriad a dogfen adnabod ffotograffig (fel trwydded yrru llun) i'r ddesg ymholiad wrth gasglu'ch Cerdyn Aber.