Newyddion

Newidiadau i FideogynadleddaNewidiadau i Fideogynadledda

01/08/2019

Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn symud i ddefnyddio Skype for Business ar gyfer fideogynadledda o fis Medi 2019 ymlaen.

Bydd Skype for Business yn cael ei osod ar yr holl gyfrifiaduron personol yn yr ystafelloedd dysgu a amserlennir yn ganolog, yn y llyfrgelloedd ac mewn ystafelloedd cyfrifiaduron dros wyliau’r haf.

Bydd yr ystafell fideogynadledda yn adeilad Cledwyn yn cael ei huwchraddio a’i throsi i’w defnyddio gyda Skype for Business.

Bydd offer fideogynadledda yn cael ei osod mewn nifer o ystafelloedd ledled y campws.

Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho Skype for Business yn rhan o danysgrifiad Office 365, ar https://faqs.aber.ac.uk/2834  

Cynigir dau fath o sesiynau hyfforddiant ar ddefnyddio Skype for Business:

  1. Defnyddio Skype for Business i Drefnwyr Cyfarfodydd
  2. Defnyddio Skype for Business ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu

Gallwch archebu eich lle ar gwrs ar-lein.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â gg@aber.ac.uk.