Croeso i LinkedIn Learning

  • Mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhoi mynediad rhad ac am ddim i chi i LinkedIn Learning - llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell eang o gyrsiau ar-lein o safon uchel mewn sgiliau digidol, busnes a chreadigol.
  • Mae gan staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, fynediad anghyfyngedig i'r cyrsiau a'r adnoddau hyfforddi yn unrhyw le ar unrhyw adeg ar fwrdd gwaith a dyfeisiau symudol.
  • Mae LinkedIn Learning yn caniatáu i chi ddysgu ar eich cyflymdra eich hun. Gallwch ddewis cyrsiau sy'n berthnasol i'ch astudiaethau neu'ch swydd gyfredol. Gallwch hefyd ddilyn diddordebau eraill. Gyda chyrsiau ar lythrennedd ariannol, cyfryngau cymdeithasol, tynnu lluniau ac elfennau cerddoriaeth, bydd modd i chi ddatblygu yn y meysydd sydd o bwys i chi yn eich gwaith a'ch astudiaethau a'r tu hwnt iddynt.
  • Sut i fewngofnodi i gael mynediad i LinkedIn Learning
  • Pan fyddwch yn mewngofnodi gyda'ch e-bost aber.ac.uk, byddwch yn cael dewis cysylltu â'ch proffil LinkedIn personol os ydych chi eisoes wedi creu un. Argymhellir hyn.
  • Ewch i weddalennau LinkedIn Learning PA i gael cyfarwyddiadau ar gyfer mewngofnodi a Chwestiynau Cyffredin
Wrth i chi weithio gyda LinkedIn Learning, rydym yn awyddus iawn i glywed am eich profiadau a'ch adborth.