Canllawiau Defnydd Teg ar gyfer y Rhwydwaith Myfyrwyr

Cyflwyniad

I sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr yn mwynhau’r gwasanaeth gorau, beth bynnag fo’r galw ar y rhwydwaith, rydym yn gweithredu polisi defnydd teg. Mae hyn yn gosod cyfyngiad cwota ar gyfanswm y data y gall pob defnyddiwr ei lawrlwytho o wefannau allanol yn ystod cyfnod penodol o amser.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o rwydwaith cyflymder uchel JANET sy’n cysylltu prifysgolion y DU â’r Rhyngrwyd. Ond, yn yr un modd â phob Cyflenwr Gwasanaeth Rhyngrwyd, mae cyfyngiad o ran y cysylltiad rhwydwaith sydd ar gael i ni.

Wrth fonitro traffig y rhwydwaith rydym wedi darganfod mai nifer fach o ddefnyddwyr y Rhwydwaith Myfyrwyr yn aml sy’n gyfrifol am ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r lle ar y rhwydwaith. Mae’r rhai sy’n defnyddio mwy na’u siâr yn effeithio ar y gwasanaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr eraill y rhwydwaith. Bydd y rhai sy’n defnyddio rhaglenni amser real megis teleffoni, camerâu gwe a gemau yn sylwi ar hyn fwyaf oherwydd byddant yn colli llun neu’n profi oediad o bryd i’w gilydd.

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cadw’r hawl i newid y cyfyngiadau cwota ar unrhyw adeg er mwyn sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i’r holl ddefnyddwyr.