Siaradwyr y Gynhadledd

Yr Athro Damilola S Olawuyi SAN
Mae’r Athro Damilola S. Olawuyi SAN yn gyfreithiwr rhyngwladol, yn Athro yn y Gyfraith ac yn ymgynghorydd polisi sy’n arbenigo mewn busnes a hawliau dynol, ynni, adnoddau naturiol, a chyfraith amgylcheddol. Ef yw Deiliad Cadair UNESCO mewn Cyfraith Amgylcheddol a Datblygu Cynaliadwy ym Mhrifysgol Hamad Bin Khalifa, Qatar, ac ef hefyd yw Cyfarwyddwr Sefydliad Olew, Nwy, Ynni, yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (OGEES) ym Mhrifysgol Afe Babalola, Ado Ekiti, Nigeria.
Mae’r Athro Olawuyi yn Uwch Eiriolwr Nigeria (Senior Advocate of Nigeria – SAN) ac yn Gymrawd Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr (Arbitrators), ac mae wedi cynghori ar brosiectau mawr ym maes ynni, seilwaith a datblygu cynaliadwy ledled y byd. Mae’n Uwch Gwnsler yng Nghwmni Cyfreithiol Rhyngwladol McNair ac yn gwasanaethu ar Weithgor y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol. Mae hefyd yn aelod o nifer o bwyllgorau a byrddau rhyngwladol, gan gynnwys Banc Datblygu Affrica, Cymdeithas Cyfraith Ryngwladol, Cymdeithas Cyfreithwyr Rhyngwladol, a Chymdeithas Darlithwyr Cyfraith Amgylcheddol Prifysgolion y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (ASSELLMU). Enillodd ei lyfr arobryn Environmental Law in Arab States gydnabyddiaeth gan Gymdeithas Cyfraith Ryngwladol America (ASIL) yn 2023.
Mae gan yr Athro Olawuyi ddoethuriaeth (DPhil) mewn cyfraith amgylcheddol ac ynni o Brifysgol Rhydychen; gradd Meistr yn y Gyfraith (LLM) o Brifysgol Harvard; ac LLM arall o Brifysgol Calgary. Mae wedi’i dderbyn i ymarfer fel Bargyfreithiwr a Chyfreithiwr yn Alberta, Canada; Ontario, Canada; ac yn Nigeria.
Ceir rhagor o wybodaeth am ei broffil a’i gyhoeddiadau yn: www.damilolaolawuyi.com

Daniel Leader
Mae Dan Leader yn bartner ac yn gyfreithiwr mewn hawliau dynol rhyngwladol, hawliau dynol a busnes, ac atebolrwydd corfforaethol, ac mae’n arbenigo mewn cyfraith hawliau dynol rhyngwladol a chyfraith amgylcheddol, gyda ffocws penodol ar fusnes a hawliau dynol. Mae ganddo brofiad helaeth o achosion yn erbyn cwmnïau rhiant, hawliadau torfol cymhleth a hawliadau camwedd torfol, yn ogystal ag anghydfodau trawsffiniol a materion awdurdodaeth. Mae gan Dan ddiddordeb hirsefydlog mewn polisi cyhoeddus ym maes busnes a hawliau dynol, gan fod yn aelod arbenigol allanol o Fwrdd Llywio Llywodraeth y DU a oedd yn goruchwylio gweithredu Canllawiau’r OECD ar gyfer Mentrau Amlwladol rhwng 2014 a 2017. Ers 2018, mae wedi bod yn aelod o Fwrdd y Gynghrair Cyfrifoldeb Corfforaethol (CORE).
Mae’n aelod o Bwyllgor Llywio prosiect yn Sefydliad Bonavero, Prifysgol Rhydychen sy’n cymharu’r gyfraith ar atebolrwydd sifil am dorri hawliau dynol, ac mae’n aelod o Fwrdd Cynghori Fforwm Diwydrwydd Dyladwy Hawliau Dynol Sefydliad Prydain ar gyfer Cyfraith Ryngwladol a Chymharol (British Institute of International and Comparative Law). Mae’n ysgrifennu ac yn traddodi darlithoedd yn helaeth ar faterion busnes a hawliau dynol mewn cynadleddau a phrifysgolion ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Addysgwyd Dan ym Mhrifysgol Rhydychen, lle enillodd radd dosbarth cyntaf, ac mae ganddo LLM (gyda rhagoriaeth) mewn cyfraith ryngwladol o UCL. Mae ganddo brofiad helaeth yn Affrica ac mae wedi byw yn Kenya ac yn y Congo (DCR), lle bu’n gweithio gyda chyfreithwyr lleol ar ymgyfreitha strategol a materion mynediad at gyfiawnder. Yn 2001 dyfarnwyd Gwobr Sydney Elland Goldsmith Cyngor y Bar iddo am ei waith pro bono yn Affrica.

Yr Athro Anna Zalik
Mae Anna Zalik yn Athro mewn Daearyddiaeth Fyd-eang ac Astudiaethau Amgylcheddol ym Mhrifysgol York, Canada. Mae’n arbenigo mewn ecoleg ac economi wleidyddol fyd-eang, yn enwedig mewn perthynas â diwydiannau echdynnu adnoddau. Mae Dr Zalik wedi cynnal ymchwil hirdymor ar y diwydiant olew ar y tir ac ar y môr, yn enwedig yng Nghanada, Mecsico a Nigeria, yn ogystal ag ar gloddio ar wely’r môr dwfn y tu hwnt i awdurdodaeth gwladwriaethau – yr ardal a elwir yn “yr Ardal” (the Area) o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr. Mae gan Dr Zalik radd Meistr a PhD o Brifysgol Cornell, yn ogystal â gradd gydanrhydedd mewn Hanes a Gwyddor Gwleidyddiaeth o Brifysgol Alberta, Canada. Bu hefyd yn Gymrawd Ôl-ddoethurol Ciriacy-Wantrup mewn Adnoddau Naturiol ac Economi Wleidyddol ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley.

Dr Emomotimi John Agama
Mae Dr Emomotimi John Agama yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Comisiwn Gwarantau a Chyfnewidfa (Securities and Exchange Commission – SEC) Nigeria, sef prif reoleiddiwr marchnad gyfalaf Nigeria. Gan fod ganddo dros dri degawd o brofiad ym maes rheoleiddio marchnadoedd cyfalaf, cyllid a pholisi economaidd, mae wedi adeiladu gyrfa nodedig yn hyrwyddo diwygiadau i’r farchnad, datblygu sefydliadol ac arloesedd rheoleiddiol.
Cyn ei benodi’n Gyfarwyddwr Cyffredinol ym mis Ebrill 2024, bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Marchnad Gyfalaf Nigeria (NCMI) gan arwain mentrau mawr i ddatblygu gallu ac addysg y farchnad ledled Nigeria ac Affrica. Ers ymuno â’r SEC yn 2004, mae wedi bod mewn nifer o swyddi arwain strategol, gan gynnwys Pennaeth Seilwaith ac Arloesedd y Farchnad a Phennaeth Cofrestru a Chyfnewidfeydd.
Mae Dr Agama wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o foderneiddio fframwaith marchnad gyfalaf Nigeria, yn enwedig mewn meysydd yn ymwneud ag asedau digidol, diogelu buddsoddwyr, cyllid cynaliadwy a chywirdeb y farchnad. Ar hyn o bryd mae’n Is-gadeirydd Pwyllgor Rhanbarthol IOSCO ar Affrica a’r Dwyrain Canol (AMERC) ac yn Gadeirydd Cymdeithas Rheoleiddwyr Gwarantau Gorllewin Affrica (WASRA), gan gyfrannu at gydweithredu rheoleiddiol rhanbarthol a byd-eang, yn ogystal â datblygiad marchnadoedd cyfalaf.

Yr Athro Anna Mdee
Mae Anna Mdee yn Athro ym maes Gwleidyddiaeth Datblygu Byd-eang ym Mhrifysgol Leeds. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar lywodraethu dŵr, glanweithdra a bywoliaethau. Yn anthropolegydd o ran cefndir, gyda deng mlynedd ar hugain o brofiad yn Tanzania, mae bellach yn arbenigo mewn astudiaethau rhyngddisgyblaethol cymdeithasol-dechnegol o ran datblygiad ac “atebion” i’r argyfwng hinsawdd mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.

Mr Olanrewaju Suraju
Mae Olanrewaju Suraju yn eiriolwr blaenllaw dros hawliau dynol, yn ymgyrchydd cymdeithasol ac yn arbenigwr ar lywodraethu. Mae’n Gadeirydd Canolfan Adnoddau Agenda Datblygiad Amgylcheddol a Dynol (HEDA), sef corff anllywodraethol sydd wedi’i leoli yn Nigeria, a Rhwydwaith Cymdeithas Sifil yn Erbyn Llygredd
Mae Mr Suraju wedi gweithio ers dros ddau ddegawd i hyrwyddo llywodraethu da, atebolrwydd amgylcheddol a chyfranogiad dinasyddion ledled Affrica. Cafodd ei gyfraniad ei gydnabod yn ddiweddar drwy dderbyn Gwobr Fyd-eang Cyfiawnder Amgylcheddol a Hinsawdd 2025, a hyn yn adlewyrchu ei ymrwymiad i hyrwyddo cyfiawnder amgylcheddol ac atebolrwydd yn Affrica.
Mae Mr Suraju yn gwasanaethu ar fyrddau nifer o fudiadau, rhwydweithiau a chlymbleidiau cymdeithas sifil yn Nigeria ac ar draws Affrica. Mae hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd ac aelod bwrdd i nifer o asiantaethau datblygu, sefydliadau anllywodraethol rhyngwladol, asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau rhynglywodraethol.

Dr Babatunde Ajayi
Mae Dr Babatunde Ajayi yn gweithio ar hyn o bryd fel Rheolwr Cyffredinol Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd Talaith Lagos (LASEPA). Mae’n Feddyg Iechyd yr Amgylchedd medrus sy’n canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau, ac mae ganddo brofiad a hyfforddiant helaeth ym meysydd iechyd yr amgylchedd, cyllido prosiectau, effeithlonrwydd systemau, epidemioleg trychinebau ac ymchwil. Fel Cymrawd Iechyd Cyhoeddus Erasmus Mundus, enillodd Dr Ajayi ei radd Baglor mewn Meddygaeth a Llawfeddygaeth (MBBS) ym Mhrifysgol Talaith Lagos, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Gatholig Louvain yng Ngwlad Belg, lle enillodd radd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus ym maes Trychinebau. Yn ddiweddarach, cwblhaodd hefyd radd Meistr mewn gweinyddu busnes yn Ysgol Fusnes Warwick.
Ac yntau’n Rheolwr Cyffredinol LASEPA, mae wedi arwain gwaith yr asiantaeth ym maes diogelu’r amgylchedd, gan fod â blaenoriaethau sy’n cynnwys rheoli llygredd sŵn; cofnodi allyriadau nwyon tŷ gwydr; hyrwyddo’r newid i ynni gwyrdd yn y diwydiannau prosesu pysgod a phobi; rheoli dŵr gwastraff diwydiannol; a chryfhau rheoliadau ar gyfer trin cemegion yn Nhalaith Lagos.

Dr Emem Okon
A hithau yn meddu ar dros 28 mlynedd o brofiad yn y sector dielw, mae Dr Emem Okon yn eiriolwraig enwog dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau a chyfiawnder amgylcheddol.
Mae ganddi PhD mewn Astudiaethau Rhywedd a Datblygu, ac mae wedi arwain ymgyrchoedd ar lawr gwlad ac wedi grymuso menywod cymunedol yn Delta Niger. Mae ganddi arbenigedd allweddol ym meysydd Ymchwil Weithredol Gyfranogol Ffeministaidd (FPAR), Dadansoddi Rhywedd, hyfforddi a hwyluso, newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â materion Menywod, Heddwch a Diogelwch. Hi yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Datblygu ac Adnoddau Menywod Kebetakche, ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr yr Ysgol Arweinyddiaeth yn Port Harcourt.
Mae’n Gadeirydd Bwrdd Cynghrair WoMIN Affrica, a rhwng 2016 a 2025 roedd hi’n Aelod Amgen o’r Cyngor Llywodraethu ar gyfer Prosiect Adfer Llygredd Hydrocarbonau (HYPREP). Mae hefyd yn Gymrawd ac yn Ddarlithydd yn y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd a Gwrthdaro, ym Mhrifysgol Port Harcourt. Hi yw trefnydd Diwrnod Gweithredu Menywod Delta Niger dros Gyfiawnder Amgylcheddol (ers 2016), ac mae wedi cynnal Cynulliad Hinsawdd Menywod Affrica yn Nigeria yn olynol rhwng 2022 a 2025.

Vanessa Gray
Mae Vanessa Gray yn un o genedl yr Anishinaabe, ac mae hi’n eiriolwraig dros yr amgylchedd, yn amddiffynnydd tir, yn addysgwraig ac yn drefnydd ar lawr gwlad i Genedl Gyntaf Aamjiwnaang, sef cymuned sydd wedi’i lleoli yng nghanol “Dyffryn Cemegol” Canada ger Sarnia. Caiff ei chydnabod yn eang am ei gwaith ym meysydd cyfiawnder amgylcheddol, sofraniaeth pobl Frodorol, ac effeithiau llygredd diwydiannol ar iechyd cymunedau’r Cenhedloedd Cyntaf. Dechreuodd drefnu ymgyrchoedd yn ystod ei harddegau, gan sefydlu Aamjiwnaang Green Teens yn 2009 i godi ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith pobl ifanc yn ei chymuned. Ers hynny, mae wedi dod yn siaradwraig o fri rhyngwladol, gan dynnu sylw at effeithiau datblygiadau petrogemegol ar diroedd Brodorol, adnoddau dŵr ac iechyd y cyhoedd.
Mae’n gyd-sylfaenydd Aamjiwnaang & Sarnia Against Pipelines (ASAP) ac mae’n adnabyddus am arwain ‘teithiau gwenwynig’ drwy’r Dyffryn Cemegol, gan addysgu ymwelwyr am grynodiad uchel y cyfleusterau petrogemegol sy’n amgylchynu Aamjiwnaang a’u heffaith ar y trigolion. Mae ei gwaith eirioli yn cyfuno gwybodaeth frodorol, trefnu cymunedol, ymchwil amgylcheddol a gweithredu uniongyrchol. Mae Vanessa yn cyd-arwain Labordy Cyfiawnder Data Amgylcheddol ym Mhrifysgol Toronto, lle mae’n gweithio i ddadwladychu ymchwil cyfiawnder amgylcheddol a hyrwyddo sofraniaeth data pobl Frodorol drwy gysylltu ymchwil academaidd â dysg draddodiadol.
O fewn cymuned Aamjiwnaang, mae hi hefyd yn gwasanaethu ar Bwyllgor Amgylcheddol y gymuned, gan arddangos rôl barhaus Vanessa Gray ym maes stiwardiaeth amgylcheddol a llywodraethu lleol. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi dod yn un o brif leisiau Brodorol Canada dros gyfiawnder amgylcheddol, gan eirioli dros aer glân, dŵr glân, hawliau Brodorol, ac atebolrwydd am lygredd diwydiannol, ar yr un pryd â chefnogi atebion sy’n cael eu harwain gan y gymuned i heriau amgylcheddol.
Proffiliau wedi'u cadarnhau i ddilyn:
Kathryn Nwanjiaku-Dahou
Dr Isaac ‘Asume’ Osuoka
