Gwobrau
Bydd y cynadleddwyr sydd yn fyfyrwyr PhD yn cael y cyfle i gyflwyno eu papurau llawn erbyn dydd Gwener 4 Medi 2026 i'w hystyried ar gyfer Gwobr y Papur Gorau.
Dylid gwneud cyflwyniadau drwy ebost i Just Transition and Environmental Justice Conference
Gwobr y Papur Gorau i Fyfyrwyr PhD
Bydd gwobr yn cael ei dyfarnu am y darn gorau a ysgrifennwyd gan fyfyriwr PhD o fewn unrhyw un o Themâu'r Gynhadledd. I gael eich ystyried amdani, cyflwynwch bapur llawn (8,000-12,000 gair ar y mwyaf, gan ddefnyddio Dull Cyfeirnodi OSCOLA, sy’n cynnwys troednodiadau) erbyn dydd Gwener 4 Medi 2026. Bydd y papur buddugol yn cael ei gynnwys yng nghynnyrch arfaethedig y Gynhadledd, sef Rhifyn Arbennig o Gyfnodolyn neu Flwyddlyfr.
Cyhoeddir enillydd y wobr hon yn ystod y Gynhadledd.
