Pwyllgor Trefnu'r Gynhadledd

Yr Athro Engobo Emeseh

Mae Engobo yn Athro Cyfraith Ynni a'r Amgylchedd, ac yn Bennaeth Ysgol, Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth. Mae Engobo yn ymchwilydd gweithgar, sydd ag enw da rhyngwladol, mewn cyfraith a pholisi amgylcheddol wedi'u diffinio'n fras, yn enwedig yng nghyd-destun rheoleiddio a llywodraethu'r diwydiant echdynnol yn Affrica. Bu'n aelod o Gomisiwn Olew ac Amgylchedd Talaith Bayelsa, a luniodd adroddiad yn 2023 o'r enw An Environmental Genocide: The Human and Environmental cost of Big Oil in Bayelsa, Nigeria. Ar hyn o bryd, mae'n aelod o'r gweithgor rhyngwladol (IWG) ar Lygredd Petrolewm a Throsglwyddo Cyfiawn yn Nelta Niger, Nigeria.

Pedi Obani, PhD

Mae Pedi yn Athro Cyswllt yn y Gyfraith yn Adran y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bradford ac yn Gymrawd Arweinwyr y Dyfodol dan aden Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI). Mae'n arbenigo mewn llywodraethu newid hinsawdd, trosglwyddo cyfiawn, cydraddoldeb rhywedd a'r hawliau dynol i gael dŵr a glanweithdra. Ar hyn o bryd mae'n rhedeg Llywodraethiant Newid Hinsawdd Rhywedd-gynhwysol (GenCGov) sef menter ymchwil sy'n ceisio hybu llywodraethiant hinsawdd sy'n ymateb i rywedd ac sy'n pontio'r bwlch rhwng polisi, ymchwilio a gweithredu. Mae hi hefyd yn Uwch Gymrawd i’r Academi Addysg Uwch (HEA).

Dakota Ward

Mae gan Dakota J. Ward PhD mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gan Brifysgol Huddersfield, MSc mewn Seicoleg Ymchwiliol a Fforensig gan Brifysgol Lerpwl, a BA mewn Seicoleg Glinigol a Chwnsela gan Brifysgol Alfred. Yn ddiweddar, cwblhaodd Dr Ward Gymrodoriaeth Charles E. Scheidt gyda'r Sefydliad Hil-laddiad ac Atal Erchyllterau Torfol ym Mhrifysgol Binghamton ac enillodd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch gan Brifysgol Aberystwyth, lle mae'n gwasanaethu yn Adran y Gyfraith a Throseddeg. O ran ymchwil, mae Dr Ward wedi arwain a chynorthwyo gyda nifer o brosiectau, gan gynnwys gyda phartneriaid mewn asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn 2025, sefydlodd Dr Ward y Ganolfan Ymchwil ar gyfer Atal Camfanteisio, Erchyllterau, Llygredd ac Eithafiaeth (Grŵp Ymchwil PEACE), sy'n ceisio hybu ymdrechion sy'n anelu at archwilio a gwrthwynebu camddefnydd, cam-drin a manipiwleiddio pobl, pŵer, swyddi a llwyfannau.

Ovo Imoedemhe, PhD

Mae Ovo yn Athro Cynorthwyol yn y Gyfraith, yn Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch (FHEA), yn Arweinydd Academaidd Clwstwr Ymchwil Hawliau Dynol, Cynhwysiant a Chyfiawnder (HRIJ) ac yn Arweinydd Cyswllt yn Adran y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bradford. Mae Ovo yn arbenigo mewn Cyfraith Troseddol Ryngwladol (ICL), yn aelod o Rwydwaith Ymchwil Cyfraith Undeb Affrica a Chymdeithas Cyfraith Ryngwladol Affrica. Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys fframweithiau cyfreithiol, sefydliadol a safbwyntiau polisi wrth werthuso cyfiawnder troseddol rhyngwladol, cyfraith ddyngarol ryngwladol a hawliau dynol, gan gynnwys gweithdrefnau gorfodi, gallu sefydliadol, cydymffurfiaeth, a gorfodi normau cyfreithiol rhyngwladol yn ymarferol, yn enwedig yng nghyd-destunau Affricanaidd.

Ebost: o.c.imoedemhe@bradford.ac.uk

Irekpitan Okukpon, PhD

Mae Ire yn Athro Cynorthwyol ac yn Arweinydd Academaidd, Clwstwr Ymchwil yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ymchwil (ESR) yn Adran y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bradford. Mae hi'n arbenigo mewn cyfraith amgylcheddol ryngwladol ehangach, datblygu cynaliadwy, llywodraethu gwastraff cynhwysol a busnes a hawliau dynol. Ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu fel Cynghorydd Academaidd i Gomisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad (CSC), yn un o sefydlwyr Cymdeithas Cyfraith Ryngwladol Nigeria - Menywod mewn Cyfraith a Datblygiad Rhyngwladol (ILA-WIELD), ac mae'n Gymrawd yn Academi Addysg Uwch y DU.

Ebost: i.okukpon@bradfordac.uk

Erebi Ndoni, PhD

Mae Erebi Ndoni yn Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bradford. Mae hi'n ymchwilydd amlddisgyblaeth a chanddi fwy na degawd o addysgu, ymchwilio ac ymarfer ar y groesffordd rhwng cyfraith olew a nwy/ynni, masnach ryngwladol, rhywedd, cynhwysiant a datblygu cynaliadwy. Mae'n Gymrawd yn Academi Addysg Uwch y DU ac yn un o gydlynwyr Cydweithredfa Ymchwil Ryngwladol (IRC) 20 Cymdeithas y Gyfraith a’r Gymdeithas. Mae ei chysylltiadau proffesiynol yn cynnwys Rhwydwaith Cyfreithwyr Economaidd Rhyngwladol Affrica a Chymdeithas y Cyfreithwyr Economaidd Rhyngwladol (SIEL).

Ebost: e.d.ndoni@bradford.ac.uk

Stephani Diri, PhD

Mae Dr Stephanie Diri yn Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Arden gyda diddordebau ymchwil mewn atebolrwydd corfforaethol, ac ymgyfreitha trawswladol. Mae ganddi PhD yn y Gyfraith a ddiddordeb arbennig yn y fframweithiau cyfreithiol esblygol sy'n llywodraethu corfforaethau rhyngwladol.

Ebost: sdiri@arden.ac.uk

Denye Amandi

Mae Denye yn ymgeisydd PhD mewn Cyfraith Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda diddordebau ymchwil mewn atebolrwydd hinsawdd, rheoleiddio cynaliadwy a'r trawsnewid ynni adnewyddadwy. Mae ganddi brofiad helaeth mewn cyfraith a llywodraethu amgylcheddol ar draws y sectorau morwrol, cydymffurfio rheoleiddiol, a chyfraith gyhoeddus, gan gynnwys fel Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ysgrifennydd Cwmni. Mae hi'n aelod o Gymdeithas y Bar yn Nigeria, y Sefydliad Siartredig Cyflafareddu (DU), y Sefydliad Ynni (DU), a Chymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y Deyrnas Unedig.

Niamh Maria McNally

Mae Niamh McNally yn ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd â diddordebau ymchwil mewn materion amgylcheddol, troseddeg werdd, a chyfiawnder amgylcheddol. Mae ganddi MSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol o Brifysgol Aberystwyth. Mae ganddi brofiad o ddarlithio ar bynciau fel troseddeg feirniadol a throseddeg werdd. Mae ei gwaith yn archwilio'r niwed cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n gysylltiedig â dirywiad amgylcheddol, gyda diddordeb arbennig yn y ffordd y mae cymunedau'n profi ac yn ymateb i niwed amgylcheddol. Mae ganddi ddiddordeb yng nghroesfannau trosedd, niwed, cynaliadwyedd, a deall sut y gellir cyflawni cyfiawnder i boblogaethau agored i niwed ac anifeiliaid. 

Am ymholiadau, cysylltwch â: Engobo Emeseh ac Irekpitan Okukpon.