Dr Lowri Cunnington Wynn

BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol: Prifysgol Bangor Doethuriaeth: Prifysgol Bangor

Dr Lowri Cunnington Wynn

Darlithydd Cyfrwng Cymraeg Mewn Troseddeg

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Manylion Cyswllt

Proffil

Graddiodd Lowri o Brifysgol Bangor yn 2007 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithaseg trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y flwyddyn ar ôl graddio, gweithiodd fel swyddog ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg, yn astudio effaith dwyieithrwydd ar ymddygiad gwybyddol. Yna enillodd ysgoloriaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gwblhau ei doethuriaeth yn 2008. Roedd ei thraethawd doethurol yn trafod y ffaith bod pedair gwaith mwy o bobl ifanc nad ydynt wedi eu geni yng Nghymru yn gadael cadarnleoedd y Gymraeg na phobl ifanc a anwyd yma, gan effeithio ar gyfansoddiad cymunedau gwledig. Ysgrifennodd erthygl y seiliedig ar y ddoethuriaeth yma a enillodd Gwobr Gwerddon yn 2019 a gafodd ei ddyrannu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Lowri wedi gweithio'n bennaf yn y sector ymchwil gymdeithasol mewn swyddi ôl-radd i Wavehill Consultancy, Prifysgol Bangor a Comisiynydd y Gymraeg. Yn ddiweddar, mae hi wedi magu diddordeb eang mewn materion amgylcheddol, yn benodol Troseddeg Werdd. Mae hi bellach wedi datblygu modiwl ol-radd sy'n seiliedig ar hyn o'r enw, 'International Perspectives of Green Criminology.' Mae ganddi brofiad eang o werthuso projectau a ariennir gan Ewrop, cynllunio asesiadau effaith, prosiectau ymchwil penodol a chynnal ymgynghoriadau cymunedol. Ynghyd â'i chefndir academaidd, mae Lowri yn angerddol am weithio o fewn ei chymuned ac mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o brojectau yn ei milltir sgwâr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bellach, mae Lowri yn Ddarlithydd Cyfrwng Cymraeg mewn Troseddeg i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dysgu

Module Coordinator
Lecturer
Tutor
Coordinator
Grader

Ymchwil

Troseddeg Werdd

Niwed Amgylcheddol

Dysgu Iaith a Dewis Gofal Plant yng Nghymru: Wales Journal of Education

Allfudiaeth a Dyheadau Pobl Ifanc o’r Bröydd Cymraeg: Gwerddon

Cyfrifoldebau

Cydlynydd Mentoriaid Cymheiriaid Adrannol

Cydlynu a Datblygu darpariaeth Cymraeg

Recriwtio Myfyrwyr

Cydlynu Diwrnodau Agored ac Ymweld

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 10-12
  • Dydd Mercher 10-12

Cyhoeddiadau

Cunnington Wynn, L 2022, ''The Fight for Fairbourne’: A Welsh study of environmental harm and its victims', Criminological Encounters, vol. 5, no. 1, pp. 35-51. 10.26395/CE22050104
Powel, D, O’Prey, L, Grunhut, S, Edwards, CW & Cunnington Wynn, L 2021, Research on second homes: evidence review summary. Llywodraeth Cymru | Welsh Government. <https://gov.wales/research-second-homes-evidence-review-summary-html>
Powel, D, Grunhut, S, O’Prey, L, Edwards, CW, Cunnington Wynn, L & Griffiths, E 2021, Research to Develop an Evidence Base on Second Homes.
Cunnington Wynn, L 2019, 'Beth yw'r Ots Gennyf fi am Gymru? Astudiaeth o Allfudiaeth a Dyheadau Pobl Ifanc o’r Broydd Cymraeg', Gwerddon, vol. N/A, no. 28, 13, pp. 43-63. <http://www.gwerddon.cymru/cy/rhifynnau/rhifyn28/erthygl3/>
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil