Dr Catrin Fflur Huws

LLB (Cymru) PhD (Cymru)

Dr Catrin Fflur Huws

Uwch Ddarlithydd

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Manylion Cyswllt

Ymchwil

Thema ganolog gwaith ymchwil Catrin yw dimensiwn Cymreig y gyfraith. Yn unol â hynny, yn 2005, cwblhaodd ei doethuriaeth ar y defnydd o'r iaith Gymraeg yn y system gyfreithiol. Nod y traethawd oedd ystyried statws ymarferol yr iaith Gymraeg yn y llysoedd, a sut y gall dwyieithrwydd sefydliadol effeithio ar ddewis iaith unigolyn.

 

 Ers hynny, cwblhaodd Catrin waith ymchwil ar ddehongliad cyfreithiol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, gan gynllunio ar gyfer defnydd o'r iaith mewn achosion cyfreithiol ac effaith canfyddiad o iaith ar ddewis iaith. Cwblhaodd brosiect yn ddiweddar ar dai fforddiadwy a'r effaith a gaiff diffyg tai fforddiadwy ar y Gymru wledig. Mae ei gwaith ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gydraddoldeb ieithyddol. Cyfuna hyn gyda diddordeb mewn theatr, ac mae wedi cyhoeddi gwaith ar decnhegau theatr ar gyfer dadansoddi'r gyfraith.

 

 Y mae bellach yn cyfuno y diddordebau hyn drwy fod yn ran o dîm ymchwil sydd yn ymchwilio i mewn i gyfieithu ar y pryd mewn achosion cyfreithiol, ac mae'n rhan o brosiect ymchwil a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig ar gyfieithu mewn achosion llys. Y mae hefyd wedi derbyn grant gan yr AHRC er mwyn cynnal ymchwiliad cymharol o gyfieithu mewn llysoedd yng Nghymru a Gweriniaeth Iwerddon, gan gyd-weithio gyda Dr Roisin Costello o Brifysgol Dinas Dulyn, a Dr Rhianedd Jewell a Dr Hanna Binks o Brifysgol Aberystwyth.

 

 

Cyhoeddiadau

Huws, CF 2024, 'Bilingual Statutory Interpretation and the United Kingdom: Domestic Law and International Experiences', Statute Law Review, vol. 45, no. 1, hmae014. 10.1093/slr/hmae014
Jewell, R, Huws, CF & Binks, H 2022, 'Cyfieithu Cyfiawn? Cyfieithu ar y pryd yn llysoedd Cymru'. in R Williams (ed.), Y Gymraeg a Gweithle'r Gymru Gyfoes . Gwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press.
Huws, CF, Jewell, RM & Binks, H 2022, 'A legislative theatre study of simultaneous interpretation in legal proceedings', International Journal of Speech, Language and the Law, vol. 29, no. 1, pp. 37-59. 10.1558/ijsll.20610
Huws, CF, Binks, H, Jewell, R & Schwede, L 2022, 'Gwrandawiadau o bell a theatr ddeddfu/Remote hearings and legislative theatre (in Welsh with simultaneous interpretation)'.
Huws, CF, Jewell, R & Binks, H 2022, 'Legislative theatre and remote hearings', Paper presented at Dyfodol achosion dwyieithog | The future of remote court hearings , Aberystwyth, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 21 Jul 2022 - 21 Jul 2022.
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil