Dewis Cwrs

Pa lefel ydw i?

Mynediad/Entry: 
Ar gyfer dechreuwyr pur. Ceir bwyslais mawr ar sgwrsio yn y Gymraeg, gan gynnwys trafod manylion personol a digwyddiadau yn y gorffennol.

Sylfaen/Foundation: 
Bwriad y cwrs yma yw ehangu eich sgiliau siarad, gan gynnwys trafod y teulu, gwaith a diddordebau.

Canolradd/Intermediate: 
Mae'r pwyslais ar siarad yn parhau, ond cyflwynir ychydig mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando. Dylech allu sgwrsio am bethau bob dydd erbyn diwedd y lefel hon.

Uwch/Advanced: 
Byddwch yn dal i ganolbwyntio ar eich sgiliau llafar, cyflwynir cyfryngau newydd fel radio, teledu, papurau newydd a chylchgronau Cymraeg. Bydd y cwrs yma yn eich dysgu sut i ysgrifennu'n gywir yn y Gymraeg. 

Hyfedredd/Proficiency:
Mae cyrsiau hyfedredd ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr profiadol i loywi eu sgiliau ysgrifennu.

Pa mor aml ydw i am ddysgu?

Y ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu yw trwy gael cymaint o oriau â phosibl mewn wythnos. Fel arfer mae'n bosibl cael 4 awr yr wythnos, naill ai dwy wers 2 awr neu un sesiwn hir o 4 awr mewn diwrnod, gyda thoriad yn y canol. Ond os nad oes digon o amser gyda chi, neu os hoffech chi ddysgu mewn ffordd fwy hamddenol, mae'n bosibl dilyn cyrsiau gyda dim ond 2 awr o wers yr wythnos.

Mae'n bosib mynychu cwrs ar lefel a chyflymdra dysgu sy'n addas i chi. Cliciwch yma i gael syniad o'r daith ddysgu sydd o'ch blaen.

Llwybr Hamddenol/Slower Paced: Bydd y dosbarth yn cwrdd am ddwy awr, unwaith yr wythnos.

Cyrsiau Cyflym/Faster Paced: Mae'r dosbarthiadau yma yn cwrdd am dair neu bedair awr yr wythnos - unai unwaith yn ystod y dydd (fel arfer 9.30am - 2.30pm Llun i Gwener), neu ddwywaith am ddwy awr gyda'r nos. 

Cyrsiau Cyfunol/Blended Courses: Dysgu yn y dosbarth (arlein neu wyneb yn wyneb) am 2.5 awr yr wythnos + hunan-astudio ar-lein am awr yr wythnos. Byddwch yn cwblhau lefel cyfan mewn 30 wythnos (3 tymor). 

Dwys/Intensive: Ble mae digon o angen mewn ardal, byddwn yn darparu Cwrs Dwys (8 awr yr wythnos). Mae hon yn ffordd effeithiol dros ben o ddysgu Cymraeg.