Academyddion o Aberystwyth wedi'u dewis ar gyfer rhaglen fawreddog Crwsibl Cymru

O chwith i dde: Dr Gui Bortolotto, Dr Andrew Filmer, Dr Judith Roberts

O chwith i dde: Dr Gui Bortolotto, Dr Andrew Filmer, Dr Judith Roberts

20 Mai 2025

Mae ecolegydd morol, awdurdod ar y theatr a mannau perfformio, a seicolegydd clinigol wedi cael eu dewis i gymryd rhan mewn rhaglen fawreddog i ddatblygu darpar arweinwyr ymchwil Cymru.

Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen datblygu personol, proffesiynol a sgiliau arwain sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’n cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol, gan roi cyfle i ymchwilwyr ystyried sut i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru ym maes ymchwil heddiw.

Mae'r cyfle unigryw hwn, a gynigir i ddeg ar hugain o bobl yn unig bob blwyddyn, yn cefnogi arloesedd a ysbrydolir gan ymchwil a chydweithio ar draws y disgyblaethau yng Nghymru.

Un o'r academyddion o Brifysgol Aberystwyth a ddewiswyd ar gyfer Crwsibl Cymru yw'r arbenigwr ym maes ecoleg forol, Dr Gui Bortolotto. Mae Dr Bortolotto yn gweithio yn Adran y Gwyddorau Bywyd, ac mae'n chwarae rhan weithredol mewn ymchwil ar rywogaethau fel pengwiniaid, dolffiniaid a morloi. Mae ganddo ddiddordeb brwd yn y ffordd mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar yr amgylchedd morol, ac mewn datblygu dulliau i astudio a gwella cadwraeth a lles anifeiliaid morol.

Mae Dr Andrew Filmer o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu hefyd wedi cael lle ar y rhaglen o weithdai preswyl ymdrwythol, a elwir yn labordai sgiliau. Mae gan Dr Filmer ddiddordeb yn y ffordd mae artistiaid yn rhyngweithio â theatrau a mannau perfformio, a'r gwahanol ffyrdd y mae artistiaid yn plethu perfformiadau i'n bywydau.

Mae Dr Judith Roberts o'r Adran Seicoleg hefyd wedi cael lle ar raglen Crwsibl Cymru. Seicolegydd Clinigol yw Dr Roberts ac mae ganddi arbenigedd clinigol ac ymchwil mewn ymyriadau therapiwtig ac adsefydlol gydol oes, gyda diddordeb arbennig mewn anhwylderau gorbryder. 

Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Rwy'n falch iawn bod y tri academydd hyn o Aberystwyth wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn rhaglen hynod gystadleuol Crwsibl Cymru. Mae'n darparu llwyfan unigryw ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol, gan alluogi ymchwilwyr i gyfnewid syniadau ac edrych ar ffyrdd arloesol o gynyddu effaith eu gwaith."

Mae Crwsibl Cymru yn fenter gydweithredol a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.