Amser tyfu mwy o de cartref?

Dr Amanda J Lloyd a Dr Ali Warren-Walker yn casglu samplau ar Ystâd Te  Dartmoor yn Nyfnaint.

Dr Amanda J Lloyd a Dr Ali Warren-Walker yn casglu samplau ar Ystâd Te Dartmoor yn Nyfnaint.

21 Mai 2025

Gallai rhesi o blanhigion te ddod yn olygfa fwy cyfarwydd ar fryniau Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol.

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn defnyddio technegau dysgu peirianyddol i ddadansoddi cyfansoddiad cemegol te a dyfir mewn ardaloedd anhraddodiadol, gan gynnwys Powys yng Nghymru a Dartmoor yn ne orllewin Lloegr.

Maen nhw'n gobeithio y bydd eu canfyddiadau'n helpu egin dyfwyr te yn y Deyrnas Gyfunol i ddatblygu strategaethau bridio, arferion amaethu a dulliau prosesu sy'n addas ar gyfer amodau hinsawdd y rhan yma o'r byd.

Mae’r tîm ymchwil yn gweithio ar hyn o bryd gyda chwmni Te Ystâd Dartmoor yn Nyfnaint sy’n adnabyddus am ei microhinsawdd unigryw ac amrywiaeth ei phridd.

Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar chwe math o de sydd wedi'u dethol gan yr ystâd oherwydd eu gallu i addasu i amodau amgylcheddol amrywiol a'u potensial ar gyfer amrywiaeth gemegol.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Te Rhyngwladol 2025, dywedodd Dr Amanda J Lloyd, uwch ymchwilydd mewn bwyd, diet ac iechyd yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:

"Mae'r astudiaeth hon yn cyfrannu at faes cynyddol metabolomeg trwy ddarparu proffil cemegol cynhwysfawr o de sy’n cael ei dyfu mewn rhanbarthau llai traddodiadol. Mae’n canfyddiadau'n cynnig mewnwelediad newydd i addasrwydd planhigion te a'u potensial ar gyfer eu tyfu mewn rhanbarthau newydd, gan gyfrannu at ddiogelwch bwyd byd-eang ac arallgyfeirio amaethyddol. Bydd angen cynnal ymchwil bellach nawr ac fe ddylai hyn gynnwys samplu dros sawl tymor, cymariaethau â rhanbarthau traddodiadol tyfu te, a dadansoddiad mwy cynhwysfawr o de wedi’i brosesu er mwyn cael dealltwriaeth mwy cynhwysfawr o gyfansoddiad cemegol te."

Mae canfyddiadau’r astudiaeth wedi’u rhannu mewn papur academaidd a gyhoeddwyd yn Metabolites, cyfnodolyn mynediad agored rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid.

Mae Dr Lloyd a’i thîm hefyd wedi bod yn gweithio gyda Fferm Buckhall ger Trefyclo ym Mhowys sy’n torri tir newydd drwy dyfu te o dan amodau ucheldiroedd Cymru. Roedd y prosiect yn rhan o gam cyntaf Her Technoleg Bwyd-Amaeth SBRI, a arianwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith yn adeiladu ar bortffolio arloesol o ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n canolbwyntio ar fuddion iechyd te, amaethu cynaliadwy ac ymddygiad defnyddwyr.

Ymhlith astudiaethau eraill sydd ar waith mae prosiect Better Brain, a ariennir gan Innovate UK. Maen nhw wrthi’n recriwtio ar gyfer treial yn ymchwilio i effeithiau atchwanegiad sy’n cynnwys echdyniad te gwyrdd, ginseng ac omega-3 ar weithrediad yr ymennydd mewn oedolion canol oed a hŷn.

Arweinir yr astudiaeth gan Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) y Brifysgol, mewn cydweithrediad â’r Adran Seicoleg a chan ddefnyddio uwch-dechnoleg electroenseffalogram (EEG) i asesu gwybyddiaeth a lles.

Dywedodd yr Athro Nigel Holt o’r Adran Seicoleg a Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol, Rhyngwladol, y Brifysgol:

“Mae te nid yn unig yn gysur ond mae’n dod yn fwyfwy amlwg ei fod hefyd yn gyfaill i’n gwybyddiaeth ni. Mae’n hymchwil yn helpu ni i ddeall y cysylltiad biocemegol dwfn rhwng cyfansoddion te a sut mae’n hymennydd yn gweithio. Mae Better Brain yn arbennig o gyffrous am ei fod yn pontio meysydd maeth, seicoleg a niwroffisioleg.”

I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil te y Brifysgol neu i gymryd rhan mewn astudiaethau cyfredol, ewch i wefan WARU.