Clefyd newydd yn bygwth coed derw - chwilio am wirfoddolwyr

21 Mai 2025

Mae perchnogion a rheolwyr coetiroedd yn cael eu gwahodd i helpu i fonitro iechyd y rhywogaeth fwyaf eiconig o goed ym Mhrydain.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a’r corff Forest Research, mewn partneriaeth â Sefydliad Sylva, yn gofyn i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn prosiect ymchwil newydd a phwysig i fonitro iechyd coed derw ledled y wlad.

Yn ogystal â’u pwysigrwydd diwylliannol, hanesyddol ac economaidd, mae’r derw’n hynod o arwyddocaol yn amgylcheddol.  A hithau ymhlith y coed mwyaf bioamrywiol ym Mhrydain, maent yn cynnal dros 2,000 o rywogaethau bywyd gwyllt.

Ond mae derw brodorol - rhywogaeth allweddol mewn llawer o goetiroedd - yn brwydro am eu hoes yn erbyn newid amgylcheddol, clefydau, llwydni, diddeilio gan bryfed, y ffwng melog, a Dirywiad Acíwt y Derw. 

Clefyd newydd a ddiffinnir yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf yw Dirywiad Acíwt y Derw, sy’n effeithio fwyfwy ar dderw brodorol aeddfed ledled Cymru a Lloegr.

Mae'r clefyd yn achosi: ‘gwaedu’ helaeth, lle gwelir hylif tywyll yn llifo o briwiau bach neu holltau yn rhisgl canghennau’r coed; tyllau siâp-D a adewir gan y chwilen Agrilus biguttatus wrthi iddi ddod allan o’r rhisgl; a brigau’r canghennau’n dirywio.

Mae'n peri dirywiad cyflym, ac fe fydd y goeden yn marw ymhen cyn lleied â 4-6 blynedd gan amlaf.

Mae'r tîm ymchwil o Forest Research a Phrifysgol Aberystwyth yn gofyn am gymorth gan berchnogion a rheolwyr coetiroedd i'w helpu i ddeall ble a sut mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar iechyd derw. 

Gofynnir i wirfoddolwyr asesu pum neu fwy o goed derw rhwng Mehefin ac Awst eleni.

Dywedodd Dr Manfred Beckmann o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:

"Trwy'r ymchwil hon, rydym yn galw ar berchnogion a rheolwyr coetiroedd i'n helpu i fonitro iechyd coed derw, coeden sydd mor agos at galon pobl Prydain ac sydd mewn perygl gan sawl bygythiad gwahanol ac amrywiol, yn enwedig gan Ddirywiad Acíwt y Derw. Ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i asesu un dderwen, ac mae'r ap pwrpasol yn gwneud uwchlwytho’r asesiadau yn hawdd ac yn syml."

Ychwanegodd Celyn Bassett, ymchwilydd yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:

"Rydyn ni’n awyddus i gael darlun o iechyd presennol coed derw fel y gallwn wneud cymariaethau rhwng coetiroedd y mae’r clefyd yn effeithio arnynt a’r coetiroedd sydd heb symptomau. Gobeithiwn ddeall y gwahaniaethau amgylcheddol, iechyd sylfaenol y coed ac - yn bwysig - rôl y rheolwyr wrth wella'r sefyllfa."

Dywedodd Nathan Brown, sy'n Fodelwr Amgylcheddol o Forest Research:

"Y prosiect hwn yw'r elfen ddiweddaraf yn ein rhaglen ymchwil a ariennir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i archwilio i’r hyn sy’n achosi Dirywiad Acíwt y Derw, a’i ddosbarthiad a graddfa’r sefyllfa drwy Brydain. Nod yr ymchwil hon yw helpu i ddatblygu strategaethau effeithiol i reoli ac atal y clefyd, mapio ei ddosbarthiad ym Mhrydain, a rhagweld y risg bod y clefyd yn mynd i ledaenu."

Os oes gan berchnogion a rheolwyr coetiroedd ddiddordeb mewn gwirfoddoli, fe’u gwahoddir i greu cyfrif am ddim ar Forest Lab, sydd yn rhan o'r llwyfan myForest a gynhelir gan Sefydliad Sylva, ac yno fe geir manylion llawn am sut i gymryd rhan.

Dywedodd Dr Gabriel Hemery, Prif Weithredwr Sefydliad Sylva:

"Mae’r prosiect Oak Health yn ychwanegiad newydd gwych i'n hystod o weithgareddau ar gyfer rheolwyr tir yn Forest Lab; mae’n golygu y gallant rannu data pwysig am gryfder eu coetiroedd, ac ar yr un pryd yn rhoi gyfle iddynt ddysgu trwy gyswllt arloesol â gwyddonwyr amgylcheddol blaenllaw ein partner."

Ariennir y prosiect gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd & Materion Gwledig (Defra).