Ditectifs morol yn taflu goleuni ar fywydau cyfrinachol dolffiniaid Bae Ceredigion

Llun 1: Dolffin trwynbwl yn bawio. Llun: Dr Sarah Perry, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Llun i’w ddefnyddio un tro yn unig.
Llun 2: Dr David Wilcockson o Brifysgol Aberystwyth a Dr Sarah Perry o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Llun: Prifysgol Aberystwyth.

Llun 1: Dolffin trwynbwl yn bawio. Llun: Dr Sarah Perry, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Llun i’w ddefnyddio un tro yn unig. Llun 2: Dr David Wilcockson o Brifysgol Aberystwyth a Dr Sarah Perry o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Llun: Prifysgol Aberystwyth.

26 Mai 2025

Caiff rhai o ddirgelion bywydau tanddwr dolffiniaid trwynbwl Bae Ceredigion eu datgelu fel rhan o brosiect ymchwil arloesol. 

Mae ymchwilwyr o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn treulio amser ar y môr yn casglu baw’r dolffiniaid er mwyn dysgu mwy am eu diet a’u hymddygiad.

Mae’r samplau carthion yn cael eu dadansoddi wedyn gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n defnyddio’r technegau DNA amgylcheddol diweddaraf (eDNA) i gael data manwl ar ddiet yr anifeiliaid.

Yn ogystal â dangos pa ysglyfaeth y mae'r dolffiniaid wedi bod yn bwydo arno ac ymhle, bydd y profion yn helpu i greu proffiliau unigol ar gyfer pob un.

Bydd y proffiliau hyn yn galluogi tîm y prosiect i nodi rhyw’r dolffiniaid, y perthnasoedd rhwng aelodau’r teulu, maint y boblogaeth, eu potensial bridio a’i patrymau symud.

Yn ogystal, byddant yn ceisio paru a chymharu pob proffil unigryw â chofnodion ffotograffig unigol o ddolffiniaid trwyn potel sydd wedi'u casglu gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru dros gyfnod o sawl blwyddyn.

Bydd y wybodaeth newydd yn llywio ymdrechion cadwraeth forol ym Mae Ceredigion yn y dyfodol ac yn helpu i warchod poblogaeth brin yr ardal o ddolffiniaid rhannol-breswyl.

Mae’r prosiect ‘Ditectifs Diet Dolffiniaid: Dadorchuddio Deietau Dolffiniaid ac Ymgysylltu â Chymunedau ar gyfer Cadwraeth y DU’ yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, gyda chymorth gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Dr Sarah Perry, Rheolwr Cadwraeth Forol ac Ymchwil yn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru:

"Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn arwain y prosiect arloesol hwn, gan ddefnyddio dulliau DNA amgylcheddol (eDNA) blaengar a thechnegau genetig i ddatrys dirgelion ecoleg dolffiniaid trwynbwl ym Mae Ceredigion. Mae'r prosiect hwn yn ymdrin â maes ymchwil yr ydym wedi anelu at gychwyn arno dros y ddegawd ddiwethaf ac rydyn ni’n gyffrous ei fod wedi dwyn ffrwyth ar adeg pan mae’n bwysicach fyth i ni fod yn adeiladu ar ein gwybodaeth am y rhywogaethau yn y dyfroedd o'n cwmpas.

“Bydd ein ffocws trwy ddulliau ymchwil arloesol ar ddeall diet dolffiniaid, deinameg y boblogaeth a sut maen nhw’n rhyngweithio â rhywogaethau ysglyfaethus nid yn unig yn llywio strategaethau cadwraeth hanfodol ond hefyd yn tynnu’r gymuned i mewn. Mae’r prosiect hwn yn ymdrech gydweithredol, sy’n uno gwyddoniaeth a chymuned ar gyfer dyfodol cynaliadwy.”

Fel rhan o’r prosiect, bydd cyfres o ddiwrnodau gwyddoniaeth cymunedol yn rhoi cyfleoedd i bobl leol ddarganfod mwy am yr astudiaeth ymchwil a helpu i gasglu data ychwanegol am boblogaeth dolffiniaid Bae Ceredigion.

Dywedodd Dr David Wilcockson o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:

“Mae ein tîm yn falch iawn o fod yn bartner ar y prosiect ymchwil cyffrous hwn. Mae ein harbenigedd o ran genetig moleciwlaidd a bioleg y môr yn cydblethu â gwaith monitro a chadwraeth rhagorol yr Ymddiriedolaeth Natur ac fe ddylai ddatgelu rhai cyfrinachau hirhoedlog ym maes bioleg dolffiniaid.

“Yr hyn sy’n wirioneddol gyffrous i ni, ar wahân i ddarganfod mwy am beth mae dolffiniaid yn ei fwyta a’u hymddygiad, yw’r ffaith ein bod yn cynnwys y cyhoedd yn y gwaith hwn. Nhw yw’r ‘ditectifs dolffiniaid’ a’n gobaith yw y bydd hyn yn cynnig ffordd arall iddyn nhw gael cysylltiad agosach â’u hamgylchedd lleol ac annog gweithgareddau cadwraeth y tu hwnt i’r prosiect.”

Bydd samplau dŵr hefyd yn cael eu casglu ar adegau ac o leoliadau amrywiol ledled Bae Ceredigion, gyda dulliau eDNA yn cael eu defnyddio eto i ddeall argaeledd ysglyfaeth. Caiff y canfyddiadau yma eu dilysu gan ymchwilwyr a fydd yn defnyddio Systemau Fideo Tanddwr ag abwyd i gofnodi’r rhywogaethau morol sydd yn yr ardal ar y pryd.

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.