Ffug ddigwyddiad o bwys i hyfforddi nyrsys

Myfyrwyr nyrsio Prifysgol Aberystwyth gyda staff y gwasanaeth iechyd tu allan i'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd

Myfyrwyr nyrsio Prifysgol Aberystwyth gyda staff y gwasanaeth iechyd tu allan i'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd

28 Mai 2025

Cynhelir efelychiad o ddigwyddiad o bwys yng Nghanolfan Addysg Iechyd Prifysgol Aberystwyth fis nesaf er mwyn cynorthwyo hyfforddi ei myfyrwyr nyrsio.

Bydd Heddlu Dyfed Powys a pharafeddygon a staff meddygol eraill o Ysbyty Bronglais yn cymryd rhan yn y sesiwn ymarfer, a gynhelir o 1yp tan 3yp ddydd Mawrth 17 Mehefin.

Bydd y digwyddiad ffug, a fydd yn senario pan fo pobl wedi’u hanafu o achos ffrwydrad, yn helpu paratoi’r myfyrwyr nyrsio ynghyd ag aelodau o’r gwasanaethau brys ar gyfer argyfyngau difrifol.

Fel rhan o’r ymarferiad, bydd Canolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth yn cael ei throi’n ysbyty am ddiwrnod. Bydd myfyrwyr o Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol a gwirfoddolwyr eraill yn esgus bod yn gleifion.

Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2022 a byddant yn cwblhau eu hyfforddiant yn yr haf eleni.

Dywedodd Amanda Jones, Pennaeth Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i aelodau’r gwasanaethau brys am eu cydweithrediad gyda’r digwyddiad yma.  Mae’n bwysig bod ein myfyrwyr nyrsio yn cael y profiadau hyn wrth iddyn nhw baratoi i weithio yn y gwasanaeth iechyd. Er ein bod ni’n gobeithio bod digwyddiadau o bwys o’r math hwn yn brin iawn wrth gwrs, mae angen paratoi ar eu cyfer.”

“Hoffwn i ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd yn ystod yr ymarferiad. Efallai y byddan nhw’n clywed seirenau neu weld yr heddlu ac ambiwlansys o amgylch Canolfan Addysg Gofal Iechyd ger Campws Penglais ond fydd dim byd i boeni amdano. Mae sicrhau na fydd amharu ar y cyhoedd yn rhan o’n cynllunio ar gyfer y diwrnod.

“Mae’n wych gweld yr holl gydweithio gydag eraill yn y Brifysgol. Rydyn ni’n falch o gynnig cyfle i’r myfyrwyr Theatr, Ffilm a Theledu actio fel cleifion hefyd.”