Gallai prawf syml i brofi wrin ganfod canser y fron yn ei gyfnod cynnar

Yr Athro Luis Mur a Dr Aimi Zainurin, Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Luis Mur a Dr Aimi Zainurin, Prifysgol Aberystwyth

19 Mawrth 2026

Cyn hir, gallai pecyn syml, anfewnwthiol i wneud profion yn y cartref drawsnewid y broses o ganfod canser y fron yn gynnar, diolch i ymchwil arloesol sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Mae gwyddonwyr yn y Brifysgol yn datblygu prototeip o ddyfais llif unffordd - tebyg i brawf beichiogrwydd neu COVID19 - sy'n gallu canfod arwyddion biocemegol cynnar o ganser y fron o un sampl wrin. 

Os bydd yn llwyddiannus, gallai'r prawf gynorthwyo â diagnosis cyflymach, lleihau’r ddibyniaeth ar driniaethau mewnwthiol, a gwella canlyniadau i filoedd o fenywod.

Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod yn fyd-eang ac mae'n dal i fod yn brif achos marwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser mewn mwy na 100 o wledydd. 

Er bod mamograffeg, sganiau MRI a biopsïau yn chwarae rhan hanfodol mewn diagnosis, mae galw cynyddol am offer symlach, mwy hygyrch sy'n gallu canfod y clefyd yn ei gyfnod cynharaf pryd y gellir ei drin orau.

Mae rhaglen ymchwil glinigol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn mynd i'r afael â'r angen hwn drwy nodi newidiadau metabolig sy'n gysylltiedig â chanser y fron ac sy'n cael eu gwaredu trwy’r wrin, gan alluogi canfod y clefyd yn gynharach ac mewn ffordd lai mewnwthiol.

Meddai'r Athro Luis Mur o Brifysgol Aberystwyth, sy'n arwain yr ymchwil:

"Mae ein gwaith yn datgelu 'nod adnabod' biocemegol penodol sy'n gysylltiedig â'r cyfnod cynharaf o ganser y fron - un y gellir ei ganfod mewn sampl wrin syml.  Trwy droi’r canfyddiadau hyn yn brawf llif unffordd, rydym yn gobeithio creu offeryn diagnostig sy'n fforddiadwy, yn hawdd i'w ddefnyddio gartref, ac sy'n gallu canfod canser yn gynt na llawer o ddulliau sydd ar gael ar hyn o bryd.  Mae diagnosis cynnar yn achub bywydau, a'n nod yw gwneud y cam cyntaf hanfodol hwnnw'n opsiwn i gymaint o fenywod â phosibl." 

Mae'r Athro Mur, a’r rheolwr astudiaeth canser y fron, Dr Aimi Zainurin, yn gweithio'n agos mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y GIG i sicrhau bod darganfyddiadau ymchwil yn gallu symud yn gyflym o’r cam lle profir y cysyniad mewn labordy i ddatblygu prototeip yr offer diagnostig.  Mae pob cam o’r broses drosiannol hon wedi'i gynllunio i fyrhau'r amser rhwng darganfod biofarcwyr, dilysu technoleg, a’r defnydd clinigol yn y byd go iawn.

Cefnogir y prosiect gan raglen Gwobrwyo SMART Llywodraeth Cymru, a’i nod yw cyflymu arloesedd a chryfhau ymchwil academaidd ac ymchwil mewn diwydiant yng Nghymru.  Mae'r gwaith yn cael ei noddi ar y cyd gan Dynamic Extractions Ltd, ac mae arbenigedd y cwmni hwn mewn technolegau gwahanu yn ategu galluoedd dadansoddol a chlinigol Prifysgol Aberystwyth. 

Meddai Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, sy’n gweithio  o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

"Mae potensial gan y cynllun hwn i fyrhau'n sylweddol yr amser a gymerir i ymchwil hanfodol ym maes iechyd menywod gyrraedd ymarfer clinigol yn y byd go iawn.  Mae tystiolaeth yn dangos y gall gymryd tua 17 mlynedd ar hyn o bryd i ymchwil newydd ddod yn rhan o’r drefn arferol.  Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid academaidd a'n byrddau iechyd i gau'r bwlch hwnnw a sicrhau bod cleifion yn cael budd o’r gwaith arloesi—megis y gwaith sy'n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth— yn llawer cyflymach."

Ochr yn ochr â chanser y fron, mae’r tîm ymchwil yn Aberystwyth hefyd yn edrych ar ddiagnosteg sy'n seiliedig ar wrin ar gyfer cyflyrau megis endometriosis a syndrom ofarïau polysystig (PCOS), gyda'r nod o wella diagnosis cynnar a lleihau’r oedi mewn gofal ar gyfer cyflyrau iechyd menywod sydd yn aml yn rhai nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ddigonol.

 AU7326