Lleihau nwyon tŷ gwydr mewn ffermio da byw

 

Cyflwyniad

Lleihau nwyon tŷ gwydr mewn ffermio da byw

Mae cynhyrchu da byw ar sail eu porthiant yn darparu llawer o fudd i’r economi ac iechyd pobl, ac mae magu da byw mewn ardaloedd sy’n anaddas ar gyfer trin cnydau yn diogelu’r cyflenwad bwyd ymhellach ac yn osgoi gwrthdaro ynglŷn â defnyddio tir o safon uchel i gynhyrchu bwyd anifeiliaid. Fodd bynnag, mae ffermio anifeiliaid cnoi cil yn cyfrannu’n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang, oherwydd ceir allyriadau methan uniongyrchol o eplesu enterig ac allyriadau ocsid nitrus anuniongyrchol o ganlyniad i aneffeithlonrwydd wrth ddefnyddio gwrtaith a nitrogen yn y bwyd. Daw tua 14.5% o allyriadau nwyon tŷ gwydr anthropogenig y byd o ffermio da byw, a thua 65% o hynny o gynhyrchiant gwartheg (cig a llaeth). Mae’r DU wedi ymrwymo i darged o sero-net ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, felly mae mesur, deall, a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaeth y DU yn elfen hanfodol o’n gwaith i helpu economi’r DU.

Yn ddiweddar, arweiniodd IBERS gonsortiwm o sefydliadau ym mhrosiect Llwyfan Nwyon Tŷ Gwydr Defra (AC0115), a wnaeth gynhyrchu data newydd am dda byw er mwyn gwella ymrwymiadau’r DU i gyflwyno rhestrau o allyriadau methan amaethyddol nwyon tŷ gwydr. Mae bridio da byw yn chwarae rôl bwysig yn y tymor hir wrth leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, er gellid gweld gwelliannau yn gynt ac yn haws trwy newid maeth anifeiliaid, trwy amrywio deiet anifeiliaid yn briodol.

Dulliau a Llwyfannau

Dulliau a Llwyfannau/Adnoddau 

Ein nod yw chwarae rôl hanfodol i gefnogi amaethyddiaeth y DU i gyrraedd ei tharged o sero-net erbyn 2050. Byddwn yn helpu i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n dianc o dda byw sy’n cnoi cil trwy hybu gwell maeth ar gyfer anifeiliaid trwy gyflenwi bwydydd gwell sy’n bodloni gofynion anifeiliaid cynhyrchiol yn well, ac yn gwneud y defnydd gorau o’r bwydydd er mwyn lleihau allyriadau llygryddion. Defnyddir cyfuniad o strategaethau, yn cynnwys gwelliannau wrth lunio’r dognau (gofynion o ran bwyd) i addasu a newid y prif elfennau deietegol (cyflenwad bwyd) sy’n helpu i leihau effaith ffermio anifeiliaid ar yr amgylchedd. Trwy integreiddio’r defnydd o’r amrywiaethau diweddaraf o blanhigion porthi a gwell dealltwriaeth o fioleg anifeiliaid, gweithiwn tuag at leihau dwysedd allyriadau nwyon tŷ gwydr cynhyrchiant da byw (gramau cyfwerth o garbon deuocsid fesul kg o gynnyrch; cig a llaeth) a lleihau, yn y pen draw, yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffermio da byw, gan arwain at ddyfodol sero-net.   

Rydym yn defnyddio llawer o ddulliau i ymchwilio i allyriadau methan a gwastraff nitrogen, o ddulliau ar raddfa fach yn y labordy (cynhyrchu nwy), dadansoddi deietau a thriniaethau deietegol mewn anifeiliaid unigol, i asesu a modelu ffermydd. Mae ein gwaith yn trafod defaid a gwartheg, ac yn edrych ar bob cam ym mywyd anifail, o’i enedigaeth i’w gynnyrch (cig a llaeth).  Rydym yn mesur yr allyriadau methan a ddaw o’r gwartheg a’r defaid, trwy ddefnyddio siambrau resbiradaeth, techneg sylffwr hecsafflwroid, a  dadansoddyddion methan GreenFeed®, fydd yn ein galluogi i bennu allyriadau ym mhob math o amgylchedd – o dai i lechweddau.  Mae deall faint o faetholion a gymerir yn hanfodol ar gyfer deall allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac mae gennym gyfleusterau ar gyfer mesur, yn awtomatig ac â llaw, faint o fwyd mae anifeiliaid unigol yn ei fwyta trwy ddefnyddio porthwyr RIC Insentec (gwartheg biff a llaeth) a Calan Gates (defaid). Gallwn gwblhau astudiaethau metabolaidd manwl,  sy’n arwain at ddefnyddio bwyd yn fwy effeithiol a mireinio geneteg i gynhyrchu cynhyrchion bwyd anifeiliaid cnoi cil yn effeithiol gan achosi’r effaith lleiaf posib i’r amgylchedd. Rydym yn cydweithio â Chanolfan Amaeth-Technoleg CIEL y DU: Canolfan Ragoriaeth Arloesi mewn Da Byw, i ddarparu Llwyfan Ymchwil Anifeiliaid Cnoi Cil Bach (https://www.cielivestock.co.uk/beefandsheepcapability/). Defnyddir y dulliau hyn er mwyn profi addasiadau i’r deiet a chyfeirio allbynnau ein gweithgareddau bridio planhigion, sy’n cynnwys porthiant, codlysiau a grawnfwyd, a’u nod yw datblygu bwydydd da byw sy’n cwrdd yn well â gofynion anifeiliaid ac yn gwneud gwell defnydd o faetholion deiet.  

Cipolwg

Cipolwg ar ein Prif Waith Ymchwil

Ein huchelgais yw ehangu ein dealltwriaeth sylfaenol o fioleg planhigion ac anifeiliaid cnoi cil, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae’r ddau’n gorgyffwrdd – wrth i anifeiliaid fwyta planhigion a’u treulio gyda chymorth microbau rwmen.

Mae’r gwaith ar faetheg da byw wedi elwa’n fawr ar y gweithgareddau bridio planhigion yn IBERS er mwyn cyflawni gwelliannau sylweddol wrth ddefnyddio gweiriau porthi sy’n cynnwys mwy o garbohydradau (siwgr) hydawdd mewn dŵr. Mae bwydo gweiriau sy’n cynnwys cyfran uchel o siwgr wedi gwella cynhyrchiant llaeth gwartheg ac wedi gwella’n sylweddol effeithiolrwydd defnyddio nitrogen mewn deiet trwy alluogi gwell defnydd o faetholion bwyd yn y rwmen.

Rydym yn cydweithio’n rhyngwladol â bridwyr planhigion yn ne America i ddatblygu porthiant trofannol sy’n gwella cynhyrchiant gwartheg biff tyfu, gan alluogi cynnydd mewn cyfraddau stoc o’u cymharu â thiroedd pori confensiynol, a chan ryddhau tir ar gyfer defnydd amgen fel ailgoedwigo.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid Ewropeaidd i ddatblygu modelau ffurfio dognau sy’n ein galluogi i fwydo gwartheg llaeth â llai o brotein, gan gynyddu effeithiolrwydd y defnydd o nitrogen yn y deiet a lleihau allyriadau nitrogen trwy’r carthion.

Prosiectau

Prosiectau / Grantiau Cyfredol

  • Datblygu systemau cynhyrchu da byw cynaliadwy ar sail eu porthiant yng Ngholombia (CoForLife).Cronfa Newton trwy BBSRC, 2019-2021.  Gyda Phrifysgol Glasgow a CIAT. https://colombiagrasslands.com/ 
  • CowficieNcy - rhaglen Marie-Sklodowska-Curie yr UE i wella effeithiolrwydd defnyddio gwartheg N, gyda phartneriaid yn yr UE ac UDA. 2018-2022.  http://www.cowficiency.org/ 
  • PeaGen - prosiect LINK sy’n cael ei ariannu gan y BBSRC i fridio a defnyddio pys newydd ar gyfer cynhyrchu da byw yn gynaliadwy  https://www.pgro.org/peagen-project/
  • Effeithiau deiet ar allyriadau o systemau anifeiliaid cnoi cil (CELDERS). (CEDERS).  ERA-NET ERA-GAS, ariennir yn y DU trwy Defra. Gyda phartneriaid Ewropeaidd ac ym Mhrifysgol Reading.   https://www.eragas.eu/en/eragas/Research-projects/CEDERS-1.htm

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Picture Name Email Telephone
Prof Mariecia Fraser mdf@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823081
Prof Alison Kingston-Smith ahk@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823062
Dr Christina Marley cvm@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823084
Prof Jon Moorby jxm@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823074

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Arango, J, Ruden, A, Martinez-Baron, D, Loboguerrero, AM, Berndt, A, Chacón, M, Torres, C, Oyhantcabal, W, Gomez B., CA, Ricci, P, Ku-Vera, J, Moorby, J & Chirinda, N 2020, 'Ambition meets reality: Achieving GHG emission reduction targets in the livestock sector of Latin America', Frontiers in Sustainable Food Systems, vol. 4, 65. 10.3389/fsufs.2020.00065
Kipling, RP, Taft, HE, Chadwick, DR, Styles, D & Moorby, J 2019, 'Challenges to implementing greenhouse gas mitigation measures in livestock agriculture: A conceptual framework for policymakers', Environmental Science and Policy, vol. 92, pp. 107-115. 10.1016/j.envsci.2018.11.013
Kipling, R, Taft, H, Chadwick, D, Styles, D & Moorby, J 2019, 'Implementation solutions for greenhouse gas mitigation measures in livestock agriculture: A framework for coherent strategy', Environmental Science and Policy, vol. 101, pp. 232-244. 10.1016/j.envsci.2019.08.015
Styles, D, Gonzalez Mejia, A, Moorby, J, Foskolos, A & Gibbons, J 2018, 'Climate mitigation by dairy intensification depends on intensive use of spared grassland', Global Change Biology, vol. 24, no. 2, pp. 681-693. 10.1111/gcb.13868
Soteriades, AD, Gonzalez Mejia, A, Styles, D, Foskolos, A, Moorby, J & Gibbons, J 2018, 'Effects of high-sugar grasses and improved manure management on the environmental footprint of milk production at the farm level', Journal of Cleaner Production, vol. 202, pp. 1241-1252. 10.1016/j.jclepro.2018.08.206
Foskolos, A & Moorby, J 2018, 'Evaluating lifetime nitrogen use efficiency of dairy cattle: A modelling approach', PLoS One, vol. 13, no. 8, e0201638. 10.1371/journal.pone.0201638
Moorby, JM, Fleming, HR, Theobald, VJ & Fraser, MD 2015, 'Can live weight be used as a proxy for enteric methane emissions from pasture-fed sheep?', Scientific Reports, vol. 5, 17915 , pp. 1-9. 10.1038/srep17915
Gardiner, TD, Coleman, MD, Innocenti, F, Tompkins, J, Connor, A, Garnsworthy, PC, Moorby, JM, Reynolds, CK, Waterhouse, A & Wills, D 2015, 'Determination of the absolute accuracy of UK chamber facilities used in measuring methane emissions from livestock', Measurement, vol. 66, no. N/A, pp. 272-279. 10.1016/j.measurement.2015.02.029
Veneman, JB, Muetzel, S, Hart, KJ, Faulkner, CL, Moorby, JM, Perdok, HB, Newbold, CJ & Balcazar, JL (ed.) 2015, 'Does Dietary Mitigation of Enteric Methane Production Affect Rumen Function and Animal Productivity in Dairy Cows?', PLoS One, vol. 10, no. 10, e0140282. 10.1371/journal.pone.0140282
Fraser, M, Fleming, HR, Theobald, V & Moorby, J 2015, 'Effect of breed and pasture type on methane emissions from weaned lambs offered fresh forage', Journal of Agricultural Science, vol. 153, no. 6, pp. 1128-1134. 10.1017/S0021859615000544

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »