Uned Ymchil Asesu Lles ac Iechyd

 

Cyfyngiadau COVID-19

A yw’r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn sgil COVID-19 yn effeithio ar weithgarwch corfforol pobl hŷn?

Ar hyn o bryd (mis Mai 2020) mae Coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar fywyd bob dydd llawer o bobl, ac yn arbennig y rhai sydd dros 70 oed. Mae pawb yn teimlo effaith COVID-19, nid yn unig y rhai sy’n cael yr haint. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar bobl hŷn sydd wedi gorfod newid eu ffordd o fyw (ac nid ar yr unigolion sydd wedi cael yr haint).

Rydym ni eisiau gweld sut mae’r newid yng ngweithgareddau dyddiol pobl yn effeithio ar berfformiad y gweithgareddau hyn, megis cyflymder cerdded, cryfder a thasgau eraill bob dydd. Os ydych chi dros 60 oed, byddwch yn monitro eich hun dros gyfnod pandemig COVID-19 a gweld os/sut y bydd eich perfformiad yn newid dros amser.

Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwch yn cael y cyfle i hunanasesu a monitro lefel eich gweithgaredd, lles, perfformiad wrth gerdded, cryfder a thasgau cysylltiedig eraill. Hoffem ddiolch i unrhyw un sy’n penderfynu cymryd rhan. Byddwch yn cyfrannu at ymchwil sy’n ceisio canfod effaith y pandemig ar bobl hŷn nad ydynt wedi dal haint COVID-19.

Mae manylion llawn am y prosiect, ac am eich rhan chi yn y prosiect, i’w gweld yn y llyfryn gwybodaeth i gyfranogwyr.

Os oes gennych ddiddordeb, nodwch eich manylion cyswllt isod er mwyn cael mwy o wybodaeth. Cewch benderfynu wedyn a hoffech chi wirfoddoli i gymryd rhan ai peidio.

Cliciwch yma i weld y LlyfrynLlyfryn gwybodaeth i gyfranogwyr gwybodaeth i gyfranogwyr.

Cofrestrwch eich diddordeb a byddwn yn anfon mwy o wybodaeth atoch.