Uned Ymchil Asesu Lles ac Iechyd

 

FACET

Monitro ac asesu’r gallu i weithredu a statws eiddilwch ymhlith oedolion hŷn

 

Mae FACET (FrAilty Care and wEll-funcTion) yn canolbwyntio ar atal eiddilwch drwy fonitro a gwella iechyd oedolion hŷn. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth am eiddilwch ymhlith unigolion a gweithwyr proffesiynol a hyrwyddo yr hyn y gall pobl ei wneud i atal eiddilwch. I gyflawni hyn, mae yna ddau brif nod:

  1. Cynnig deunyddiau trwy gwrs agored anferth ar-lein (MOOC) ar ‘Adnabod ac atal eiddilwch’.

Bydd deunyddiau rhad ac am ddim yn cael eu cynhyrchu a gweithdai yn cael eu cyflwyno i glinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ynglŷn ag asesu’r gallu i weithredu a sgrinio ac asesu eiddilwch.

  1. Helpu unigolion i fonitro a gwella eu gallu i weithredu, eu hiechyd a’u lles

Datblygu llwyfan ar-lein lle y gall unigolion gofnodi eu diet, eu gweithgarwch corfforol a chanlyniadau eu hasesiadau, a fydd yn galluogi’r clinigwr i’w monitro o bell. Yn ogystal â hyn, bydd molecylau yn cael eu hadnabod o wrin, sy’n gysylltiedig ag eiddilwch ac y gellir eu defnyddio i olrhain heneiddio iach.

Eiddilwch

Mae Eiddilwch yn statws iechyd sy’n cynyddu’r risg o ddigwyddiadau niweidiol a’u heffeithiau, ac mae’n gwneud unigolion yn fwy agored i ddirywiadau cyflym a sydyn yn eu gallu i weithredu. I asesu a yw unigolyn yn eiddil neu mewn perygl o ddatblygu eiddilwch, mae yna nifer o wahanol arfau clinigol, ar gyfer sgrinio yn ogystal ag asesu. Serch hynny, mae’n bosib na fydd yr arfau clinigol hyn yn addas ar gyfer asesu eiddilwch yn y gymuned. Ar ben hyn, mae monitro statws eiddilwch yr unigolyn yn y gymuned yn eithaf cyfyngedig ar hyn o bryd.

 

Darganfod mwy

Cynhelir y prosiect yn ystod 2016-2018.  Os ydych yn weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gydag oedolion hŷn ac yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech gymryd rhan yn y prosiect hwn fel gwirfoddolwr ymchwil, cysylltwch â Dr Marco Arkesteijn, y prif ymchwilydd yn WARU, ar maa36@aber.ac.uk neu trwy ffonio 01970 628559.