Mr Gwyn Jones

Mr Gwyn Jones

Adult Lecturer in Healthcare Education

Canolfan Addysg Gofal Iechyd

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Gwyn wedi bod yn gyflogedig gyda Phrifysgol Aberystwyth ers mis Ebrill 2022, gan gychwyn ar her newydd yn y byd academaidd ar ôl gweithio am dros bedair blynedd ar ddeg fel nyrs iechyd oedolion gofrestredig.

 

Ar ôl cymhwyso yn 2008, dilynodd Gwyn ei gariad at nyrsio gofal dwys, gan fwynhau dros 6 mlynedd yn gweithio i Ysbyty Bronglais yn yr Uned Gofal Dwys/Dibyniaeth Uchel.

 

Wrth iddo gwblhau ei MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2014, ceisiodd Gwyn ehangu cwmpas yr her ac edrychodd ar y diwydiant olew alltraeth wrth weithio ar yr un pryd i system fanc Ysbyty Bronglais, yn ennill mwy o brofiad llawfeddygol a meddygol ar y wardiau.

 

Ar ôl cwblhau ei gymwysterau Meddygaeth Alltraeth, rhoddodd Gwyn ei sgiliau ar brawf i British Petroleum dros nifer o deithiau ar westai sy'n arnofio a rigiau olew ym Môr y Gogledd.

 

Yn dilyn dirywiad yn y diwydiant olew, dychwelodd Gwyn i gyflogaeth amser llawn gyda thîm y Theatr ym Mronglais am flwyddyn, cyn gwneud cais llwyddiannus am swydd Uwch Ymarferydd Nyrsio mewn Trawma i’r Henoed.

 

Enillodd Gwyn hawliau rhagnodwr ar ôl cwblhau PGCert mewn rhagnodi Anfeddygol, ac arweiniodd nifer o fentrau'r bwrdd iechyd ar gyfer y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Cluniau. Yn frwd dros hyrwyddo gofal yr henoed, cwblhaodd Gwyn astudiaeth bellach yn ddiweddar ar asesu'r gallu i wneud penderfyniadau.

 

Wrth ddilyn ei amcanion dysgu gydol oes, mae Gwyn hefyd yn edrych ymlaen at gychwyn modiwlau TUAAU gyda Phrifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2024.

 

 

 

Nyrs Iechyd Oedolion Gofrestredig BSc Anrhydedd, MSc Ymarfer Clinigol Uwch, PGCert (Rhagnodi Anfeddygol), Nyrs Gofrestredig sy'n Rhagnodi.