Dr Ruth Wonfor
Lecturer in Animal and Equine Science
Manylion Cyswllt
- Ebost: rec21@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-7732-9483
- Swyddfa:2.14 Adeilad Edward Llwyd
- Ffôn: +44 (0) 1970 823093
- Twitter: @RuthWonfor
- Proffil Porth Ymchwil (https://research.aber.ac.uk/en/persons/9dde686e-4ef2-4a66-9028-0417977403e2)
Ymunodd Ruth Wonfor â Phrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd yn 2017. Mae hi'n Wyddonydd Anifeiliaid ac yn dysgu anatomeg a ffisioleg anifeiliaid domestig, yn ogystal â biofoeseg anifeiliaid. Dr Wonfor yw Cadeirydd Bwrdd Arholi yr Adran Gwyddorau Bywyd, Cydlynydd Cynllun MSc Gwyddor Da Byw a Thiwtor Cyswllt ar gyfer y cyrsiau Astudiaethau Ceffylau yng Ngholeg Gwent. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar feithrin celloedd a meinwe ar gyfer modelau anifeiliaid in vitro, a’u defnyddio fel rhan o’i diddordeb mewn ffynonellau celloedd a fformiwleiddiadau’r cyfrwng a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu cig wedi’i feithrin a modelau o glefydau anifeiliaid er mwyn astudio yr ymateb imiwn lletyol.
Cyn dechrau ei rôl bresennol, cafodd Dr Wonfor BSc(Anrh) mewn Gwyddor Ceffylau a Chwaraeon Dynol yn 2011 ac MSc mewn Gwyddor Anifeiliaid yn 2013 o Brifysgol Aberystwyth. Yn dilyn hyn, cwblhaodd PhD mewn imiwnoleg atgenhedlu buchol ac endocrinoleg yn 2016, gan astudio swyddogaeth y ffactor cyn-mewnblannu (PIF) o ran addasu imiwnedd yr endometriwm buchol. Trwy ei hymchwil PhD sbardunwyd ei diddordeb a'i harbenigedd mewn modelau meithrin meinwe a chelloedd in vitro i ymchwilio i ymatebion imiwn ac endocrin. Gweithiodd fel Cynorthwyydd Addysgu yn IBERS ac yna fel Cymrawd Cyfnewid Gwybodaeth yn IBERS fel rhan o'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth ac ochr yn ochr â Cyswllt Ffermio i ledaenu ymchwil wyddonol ar draws y diwydiant amaethyddol. Yn sgil y swyddogaeth hon ysgrifennodd nifer o erthyglau technegol ar ystod eang o bynciau Gwyddor Anifeiliaid, yn ogystal â bod yn rhan o ddatblygu sawl Grŵp Gweithredol Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru.
In: Foods, Vol. 15, No. 4, 783, 21.02.2026.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: South African Journal of Botany , Vol. 180, 31.05.2025, p. 254-264.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: Parasitology, Vol. 151, No. 3, 11.03.2024, p. 282-294.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
2023. 224.09.
Research output: Contribution to conference › Poster › peer-review
In: Veterinary and Animal Science, Vol. 15, 100226, 31.03.2022.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
