Dysgu Gydol Oes: Ffurflen Cofrestru Cyrsiau

Diolch am brynu’r cwrs(cyrsiau) Dysgu Gydol Oes trwy ein siop ar-lein. Nawr mae angen i chi gofrestru'n llawn ar y cwrs trwy lenwi'r ffurflen ar-lein hon.

Mae ein cyrsiau'n cael eu hariannu â chymhorthdal gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae hyn yn golygu y gallwn gadw ffioedd ein cyrsiau yn fforddiadwy fel y gall cynifer o bobl â phosibl fanteisio ar gyfleoedd ym myd addysg uwch. Fodd bynnag, er mwyn gallu cael yr arian hwn, mae angen i ni ddarparu rhywfaint o wybodaeth ystadegol am ein myfyrwyr i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Mae hyn yn golygu bod angen i ni ofyn i chi am ychydig yn rhagor o wybodaeth amdanoch chi'ch hun. Diolch ymlaen llaw am ateb y cwestiynau ychwanegol hyn - mae’n golygu y gallwn barhau i gynnig cyrsiau Dysgu Gydol Oes fforddiadwy. 

Mae ychydig bach o wybodaeth bersonol yr ydych eisoes wedi'i darparu wrth gwblhau eich pryniant siop ar-lein y mae angen i chi hefyd ei gynnwys yn y ffurflen gofrestru. Mae hyn oherwydd bod y siop yn cael ei rheoli gan yr Adran Gyllid a'r cofrestriadau gan Ddysgu Gydol Oes. Diolch i chi am gynnwys y swm bach hwn o wybodaeth eto.

Cyn i chi ddechrau'r ffurflen hon, bydd angen y cod(au) a theitl(au) y cwrs(cyrsiau) yr hoffech gofrestru arno/arni. Mae'r rhain i'w gweld yn eich derbynneb siop rydym wedi'i hanfon atoch drwy e-bost, o dan Eitem.

Mae hon yn ffurflen 4 rhan:

  1. Gwybodaeth Sylfaenol
  2. Cwestiynau ychwanegol ar gyfer ein darparwr cyllid
  3. Gwybodaeth am y Cwrs
  4. Hysbysiad Preifatrwydd